BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
17eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Crynwyr Cred y Crynwyr
Chwilio am 'Y Golau Mewnol'
Cafwyd cip ar rai o hanfodion cred y Crynwyr mewn sgwrs ar Bwrw Golwg fore Sul, Mehefin 17, 2007.

Yr oedd Catherine James o Ddolgellau yn y stiwdio i drfaod gyda John Roberts y llyfr Quaker Communities in Early Modern Wales gan Richard Allen sydd ar fin cael ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru yn rhan o'r gyfer, Bangor History of Religion

cyfrolau prin hynny sy'n cofnodi hanes y Crynwyr.

gwrando Catherine James yn cael ei holi gan John Roberts ar Bwrw Golwg, Mehefin 17, 2007.

Croesawodd Catherine James gyhoeddi'r llyfr mewn maes lle mae prinder mawr o lyfrau wedi eu cyhoeddi. Gadael Cymru

Bu hefyd yn sôn am berthynas y Crynwyr â Chymru. "Yn y dechrau roedd o [sef cyfraniad y Crynwyr] yn eithriadol o bwysig oherwydd y symud o Gymru i Bennsylvania.

"Roedd y Crynwyr yn cael eu herlid mor ffyrnig ac yr oedd yna addewid yn Pennsylvania y buasen nhw yn cael tir a lle i addoli yn eu hiaith eu hunain ac yn eu dull eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain ac y buasen nhw'n cael llonydd yn Pennsylvania.

"Felly mi aethon nhw allan ac mi gollodd Cymru, a dweud y gwir, nifer o arweinwyr pwysig yn y cyfnod cynnar.

"Ond hefyd roedd neges George Fox yn bwysig - ac mae'n dal; yn bwysig heddiw, y ffaith fod pob un ohonom ni yn blentyn i Dduw ac yn gyfartal yng ngolwg Duw a bod rhywfaint o Dduw ym mhob un ohonom ni - y golau mewnol," meddai.

Duw ym mhawb
Apêl y Cyfeillion cynharaf oedd y syniad o ddychwelyd at Gristnogaeth sylfaenol a pherthynas uniongyrchol â Duw heb orddibynnu ar yr Ysgrythur - sef chwilio am "y golau mewnol".

Pan ofynnodd John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg a yw'r apêl honno yn parhau yr un mor gryf dywedodd Catherine James:

. "Dydw i ddim yn meddwl fod y neges wedi mynd adref i bobl yn ddigon da ar hyn o bryd," meddai.

"Dydi pobl ddim yn deall fod y neges yna mewn bodolaeth - ond pe byddech chi'n mynd ar ôl y neges yna mae yr un mor bwysig heddiw ag oedd pan oedd George Fox o gwmpas efo Sion ap Sion o Wrecsam.

"Yr ydych yn chwilio drosoch eich hun ond yn gwneud hynny y tu fewn i furiau fel petai - y cwrdd, lle yr ydych yn profi eich profiad chi yn erbyn beth mae pobl eraill wedi'i weld a beth mae pobl eraill yn ymwybodol ohono fo.

"Felly, dydych chi ddim yn dweud, Dwi'n credu hun a'r llall ac ati a dyna fo, dwi'n Grynwr. Yr ydych chi'n gorfod cyd-fynd efo'r pethau sylfaenol - hynny ydi, bod yna rywfaint o Dduw ym mhawb, bod Duw ym mhob un ohonom ni, fod pob person ydych chi'n i gyfarfod yn eithriadol o bwysig a dyna pam bod yna heddychwyr ymhlith y Crynwyr - os oes yna hynny o Dduw yn y person yr ydych chi'n i gyfarfod fedrwch chi mo'i ladd o na allwch?" meddai.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy