BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Carl Cooper Dathlu deng mlynedd
Esgob ac offeiriad yn dathlu cyfraniad offeiriaid benywaidd

gwrando Y Gwir Barchedig Carl Cooper yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Ionawr 14, 2007.

Dywedodd Esgob Tyddewi ei fod ef yn cefnogi yr ymdrechion presennol i ordeinio merched yn esgobion.

Wrth gael ei holi ar Bwrw Golwg ddeng mlynedd union ers ordeinio menywod yn offeiriaid am y tro cyntaf dywedodd y Gwir Barchedig Carl Cooper:
"Yn ddiwinyddol mae'n gwneud sens."

Er ei fod ef yn un a wrthwynebodd ordeinio merched yn offeiriaid ddeng mlynedd yn ôl cydnebu'r Esgob Cooper wedyn mai camgymeriad ar ei ran oedd hynny a thalodd deyrnged ar Bwrw Golwg i'r hyn sy'n cael ei gyflawni gan offeiriaid benywaidd.

Yn gyflawn
"Dwi'n meddwl fod merched wedi dod a chymeriad a phresenoldeb a hunaniaeth i offeiriadaeth yr eglwys ac y mae hyn wedyn yn gwneud yr offeiriadaeth yn llawer mwy cyflawn achos bod y ddynoliaeth gyflawn yn cael ei chynrychioli fel ag yr oedd yn cael ei chynrychioli yng Nghrist," meddai.

Ychwanegodd fod nifer yn yr eglwys - yn offeiriaid ac yn lleyg - wedi newid meddwl, fel y gwnaeth ef, erbyn hyn.

Gellir gwrando arno yn egluro sut y daeth y newid hwnnw i fod ar y clip sain uchod.

  • Cofio dagrau'r diwrnod
    gwrando Kathy Jones yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Ionawr 14, 2007.

    Yr oedd dagrau yn powlio i lawr wyneb Kathy Jones (Rees yr adeg honno) ar y diwrnod y cafodd ei hordeinio yn offeiriad yng Nghadeirlan Bangor ddeng mlynedd yn ôl.

    Ond dagrau o hapusrwydd oedden nhw a disgrifiodd y trawsnewid o fod yn ddiacones i fod yn offeiriad fel un "cyfforddus" iawn.

    "Yr oedd fel camu i bar o esgidiau oedd wedi'u paratoi ichi - yr oedden nhw mor gyfforddus," meddai.

    Ar y pryd yr oedd Kathy yn gaplan yn Ysbyty Gwynedd ac wedi gwrthod cymryd ei hordeinio yn Lloegr lle'r oedd yn bosibl gwneud hynny ynghynt oherwydd ei bod "mor bwysig" yn ei golwg cael ei hordeinio yng Nghymru.

    Gan gyfeirio at yr ordeinio dywedodd nad oedd yn ystyried yr ymdrech i ddod yn offeiriad yn gystadleuaeth â dynion.

    "Nid er mwyn cystadlu oeddwn i'n teimlo ei bod yn bwysig ond er mwyn cael cydweithio; fel bod y weinidogaeth yn gyflawn - fod dynion a merched yn gallu cydweithio â'i gilydd," meddai Kathy sy'n awr yn gaplan mewn ysbyty yn Newcastle.




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy