 |
Derwen deulu'r Eglwys
Karen Owen yn holi a ydych chi'n gwybod mwy am lun sydd wedi bod yn achos dirgelwch i deulu o Fethel.
Daeth y stori hon i sylw'r rhaglen radio Bwrw Golwg ar ôl i gwpwl o bentref Bethel ger Caernarfon etifeddu darlun o'r hyn sy'n ymddangos yn Dderwen Deulu yr Eglwys Gristnogol.
Mae'n glamp o lun - yn mesur tair troedfedd ar i fyny, a dwy droedfedd ar draws. Ac mi fedrech chi'n hawdd ei weld o'n hongian ar wal festri capel yn oes Victoria.
O ran yr hyn sydd yn y llun, mae ganddoch chi goeden fawr, gref efo cannoedd o ganghennau yn dod ohoni, a boncyff sy'n codi'n un o'r gwraidd, ond yn ymrannu wrth i chi ei ddilyn efo'ch llygad a dringo i fyny'r goeden.
Ac ar bob rhan o'r goeden yma, mae yna eiriau, Saesneg ydyn nhw i gyd - enwau eglwysi, sectau ac enwadau sydd wedi tyfu o'r gwraidd, fel y Romish Church a'r Greek Church yr Orthodox a'r Church of England, ac mae'r gwraidd wedi ei labelu Hebrew Church.
Mwy na choeden
Ar wahân i'r goeden, sy'n llenwi'r ffrâm gyfan bron, mae yna ddau ddarlun arall, un ym mhob un o'r corneli gwaelod.
Ar y chwith, mae Beibl agored yn dweud wrthan ni, yn y Gymraeg y tro hwn, be'n union ydi'r llun - sef:
"Golwg o'r amser boreuaf hyd yr awr hon ar godiad, parhad a chysylltiadau allanol y prif gymundebau crefyddol, yr enwadau, y sectau ac yn y blaen, a seiliwyd ar gydnabyddiaeth hollol neu rannol o'r Ysgrythur Lân gan y Parchedig Joseph William Wyld."
Yng nghornel dde'r llun, mae golygfa o ddinas Feiblaidd, Jerwsalem fwy na thebyg oherwydd yr adeilad tebyg i Deml ynddi, ac mae yna fugail yn edrych lawr ar y dref honno yn fyfyrgar.
Mae'r gymysgedd ryfedd o Gymraeg a Saesneg yn taro'n od ac mae hynny'n un o'r pethau sydd yn drysu Tecwyn Hughes hefyd, wrth iddo ofyn am gymorth gwrandawyr Bwrw Golwg wrth drio cael ychydig o hanes y darlun.
Y diweddaraf
Ond be' ydym ni wedi medru ei ddarganfod am y darlun?
Mae enw'r cwmni cyhoeddi, A Fullerton & Co, yn help i'w ddyddio - ac mae Tecwyn a Glenda Hughes yn iawn i gredu ei fod o'n gant a hanner oed.
Roedd y cwmni yma'n cyhoeddi yn ninasoedd Llundain, Glasgow a Chaeredin rhwng 1840 ac 1843, gan arbenigo mewn gwneud mapiau o bob math.
Mae yna enw artist - neu gerfiwr - hefyd, James Robertson Collie; un arall â chysylltiadau â Chaeredin, ac aelod o gwmni teuluol o gyhoeddwyr yn y ddinas honno.
Ac, o chwilota ychydig mwy am ei hanes o, rydan ni wedi canfod mai teitl gwreiddiol y gwaith oedd The Tree of Life ac mai'r nod oedd cynnwys holl grefyddau'r byd ar y goeden.
Rydan ni wedi methu, hyd yn hyn, â chanfod faint o'r darluniau yma gafodd eu cynhyrchu, na be'n union ydi cysylltiad y Parchedig Joseph William Wyld efo'r gwaith.
Ond mi gafodd un o'r darluniau yma ei werthu mewn ocsiwn yng ngwledydd Prydain yn 2005 ... ond wyddon ni ddim y pris bryd hynny.
Ac o ran y Parchedig Wyld ei hun, does yna ddim sôn amdano fo yn y Bywgraffiadur nac mewn cyfrolau eraill sy'n cofnodi gweinidogion ac offeiriaid.
A oedd o'n Gymro? Neu ai noddwr y gwaith oedd o, a bod fersiynau o'r darlun wedi eu paratoi efo'r geiriau ar y Beibl agored yn y Gymraeg a'r Saesneg?
Wyddon ni ddim, mae gen i ofn.
Wyneb yn wyneb
Ond mae yna un peth arall sydd wedi tynnu sylw Tecwyn a Glenda Hughes.
O graffu ar gyff y goeden, maen nhw ill dau'n dweud bod mwy na geiriau i'w weld yno - sef wyneb barfog.
Ac i'r fan yna ydan ni wedi cyrraedd o ran cloddio i hanes y darlun cymhleth hwn o ddatblygiad yr Eglwys Gristnogol. Llun sy'n atgoffa pob oes o ddadlau enwadol a mân wahaniaethau, eu bod nhw wedi dod o'r un lle, ymhell yn ôl yn y dechreuad.
Cymorth gwrandawyr
A ydach chi'n gwybod mwy am y gwaith hwn? Oes ganddoch chi gopi o'r darlun? A wyddoch chi pwy oedd y Parchedig Joseph William Wyld?
Mae croeso i chi gysylltu â Bwrw Golwg trwy anfon gair yn y post i:
Bwrw Golwg, BBC Cymru, Bryn Meirion, Bangor, Gwynedd LL57 2BY neu trwy e-bostio
( bwrw.golwg@bbc.co.uk).
Mi edrychwn ni ymlaen at glywed ganddoch chi.
Karen Owen
Rhan o'r sgwrs rhwng Tecwyn Hughes a Karen Owen ar gyfer 'Bwrw Golwg', ddydd Sul, Ionawr 4, 2009.
Datrys y dirgelwch
 |
 |