BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Nerys Avery gartref yn China Proestiadau yn ffyrnigo China
Cymraes yn trafod yr ymateb yn y wlad
Yn ôl Cymraes sy'n byw yn China mae'r ymateb yn "ffyrnig" yn y wlad i'r protestiadau diweddar yn erbyn y wlad yn ystod taith y fflam Olympaidd drwy wledydd y Gorllewin.

Bu Nerys Avery yn byw yn y wlad ers deng mlynedd a dywedodd wrth John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg ddydd Sul 13 Ebrill fod pobl gyffredin y wlad yn methu'n glir a deall pam mae'r holl wrthwynebiad i China.

M\en nhw hefyd yn ystyried pobl Tibet yn rhai anniolchgar iawn gan ddweud i China fod yn gyfrifol yn eu barn hwy am welliannau mewn gofal iechyd, addysg a chyflwr economaidd yno.
"Dwi wedi bod yn byw yn China ers tua deng mlynedd yn awr a dydw i erioed wedi gweld y fath undod ymhlith y bobl yn erbyn y Gorllewin ynglŷn â Tibet," meddai Nerys Avery.

"Mae pawb yma yn synnu oherwydd mae propaganda y Llywodraeth wedi bod mor gryf dyw'r bobl gyffredin ddim yn deall, ddim yn gwybod, beth yw'r gwirionedd - mae cant y cant o'r bobl yn credu propoganda'r Llywodraeth."

O'r rhai y bu hi'n siarad â hwy daw i'r casgliad nad yw'n sefyllfa ddu a gwyn rhwng Tibet a China gyda'r Gorllewin â golwg ramantus o Tibet fel rhyw fath o shangri-la.

"Ond dyw hi ddim fel yna mewn gwirionedd," meddai.

gwrando Y sgwrs yn llawn rhwng Nerys Avery a John Roberts ar Bwrw Golwg ddydd Sul 13 Ebrill 2008.

  • Rhagor am Nerys Avery


  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy