BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Cerddoriaeth addoli - dwy farn
Sut mae bod yn fodern ac yn bur?
Cafwyd dwy farn wahanol iawn i'w gilydd eu mynegi ynglŷn â sut gerddoriaeth sydd yn weddus ar gyfer gwasanaethau crefyddol ar Bwrw Golwg, fore Sul, Gorffennaf 3, 2006.

Trafod yr oedd Ifor ap Gwilym ac Arfon Jones o Gobaith i Gymru ddatganiad diweddar gan y Pab yn gwahardd cerddoriaeth fodern yn yr Offeren gan ddweud y dylai unrhyw foderneiddio ddigwydd o fewn strwythur y Siant Gregoraidd neu gerddoriaeth boliffonig.

Cymeradwyodd Ifor ap Gwilym y penderfyniad yn wresog. Nid felly Arfon Jones.
Dyma rai o'r pethau a ddywedwyd ganddynt:

IaG: "Mae'n anodd credu fy mod i o bawb yn cyd-fynd â'r Pab. Ond mae'n rhaid cydnabod gwaith arloesol Eglwys Rufain yn hanes datblygiad cerddoriaeth o'r ail ganrif, y Moddau Groegaidd . . . a'r moddau hynny yn ildio eu lle i'n Major a Minor ni heddiw .

"I mi mae'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glan mor aruchel ac mor bur a dilychwin fel mai'r unig beth y gallwn ni feidrolion ei wneud yw rhoi o'n gorau glas beth bynnag fo'n celfyddyd ni."

AJ: "Dwi'n meddwl fod y Pab yn gwneud camgymeriad mawr. Rydw i wedi cael y fraint o gyfarfod llawer o bobl yn yr Eglwys Gatholig sydd yn perthyn i'r traddodiad carismataidd o fewn yr eglwys yna - sef traddodiad cryf iawn - ac maen nhw yn canfod mynegiant mewn ffyrdd sydd yn berthnasol i'n hoes ni. Dwi'n credu ei bod yn bwysig inni ddeall fod addoliad a bywyd eglwys bob amser i fod yn berthnasol i'w hoes ac i symud efo'r oes .

IaG: "Arfon, be ydi oes? Ti'n sôn am fod yn gyfoes mae John Taverner [ac eraill] yn gyfoes. . .

AJ: "O fewn y traddodiad clasurol - pam y dylai addoliad Cristnogol fod yn glasurol? Dwi'n credu mai un o ryfeddodau'r ffydd Gristnogol yw ei gallu hi i groesi ffiniau diwylliannol.

"Dydi'r efengyl ddim yn cael ei chaethiwo i unrhyw draddodiad.

Pe byddech chi ond yn edrych ar y Testament Newydd roedd yna ymgais gan rai Iddewon yn y cyfnod cynnar i gyfyngu ac i uniaethu y fydd Gristnogol gyda'r diwylliant a'r traddodiad Iddewig ac yr oedd Paul yn dadlau yn erbyn hynny felly dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n sylweddoli fod yn rhaid rhoi rhyddid i bobl addoli mewn ffordd sy'n berthnasol i'w hoes nhw ac mae cyfyngu fel yma yn gamgymeriad mawr yn fy marn i."

Cyfeiriodd Ifor ap Gwilym at yr hyn a alwodd yn gerddoriaeth "strum and drum" gan ddweud mai dim ond ambell i emyn plant oedd yn benthyg ei hun i'r math yna o gyfeiliant.

IaG: "A da oedd gweld y rhaglen o Eisteddfod yr Urdd, Jambori, efo Dilwyn Price - mae peth felly'n iawn yn ei dro.

"Ond pan oeddwn i'n weinidog yn Aberteifi rhyw 15 mlynedd yn ôl Cymanfa Fodern oedd pob dim ac emynau yn cael eu canu i gyfeiliant organ drydan, gitâr a drymiau ond mae'r arfer bellach wedi chwythu'i blwc.

"Does dim byd newydd yn para'n hir. Back to basics ydi'r gri ym myd crefydd hefyd.

AJ: "Ond pe byddem ni'n mynd back to basics fe fyddem ni'n canu plaengan yn unsain mae y Pab ei hun yn sôn am y traddodiad ac am yr amrywiaeth mawr dros y canrifoedd yn dechrau efo siant Gregoraidd ac wedyn roedd poliffoni yn dod i mewn ac yr oedd yna ddadlau mawr am hynny ac erbyn cyfnod Palestrina roedd gennych chi dri, chwe llais weithiau, a mwy mewn cyfnod ar ôl hynny efo pobl fel Gabrieli.

Felly mae'r traddodiad wedi datblygu dros y canrifoedd ac mae yna ddadlau mawr wedi bod.

Dywedodd i symudiadau i ddefnyddio organ mewn addoldai fod yn bwnc llosg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r offeryn yn cael ei adnabod fel offeryn y Diafol.

"Yn y Tabernacl, eglwys y Bedyddwyr, Caerdydd, llai na chanrif sydd ers iddyn nhw ganiatáu organ yn eu haddoliad. Mae traddodiad yn newid o hyd.

IaG: Gwrthododd Ifor ap Gwilym y disgrifiad ohono fel Canute yn gwrthsefyll y llanw gan ddweud mai "ceisio cadw purdeb cerddoriaeth eglwysig a chadw pob dim mor aruchel ac mor bur ac y medrwn ni" yr oedd.

AJ: "Fe fyddai yna rai pobl oedd yn dadlau dros yr Ysgol Gân yn dweud eu bod nhw eisiau cadw purdeb ond yr oedd yna bobl yn dadlau yn eu herbyn nhw ac yn dweud fod hynny yn cymryd i ffwrdd yr elfen o ddylanwad yr ysbryd ar addoliad.

"Felly, mae'n rhaid inni fod yn agored i beth bynnag mae'r Ysbryd Glan yn ei wneud yn ein byd ni." Pan holodd cyflwynydd y rhaglen, John Roberts, sut mae cael cydbwysedd rhwng bod yn agored a chadw purdeb dywedodd Ifor ap Gwilym fod hwnnw yn gwestiwn anodd ond awgrymodd, "Mewn harmoni".




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy