BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
17eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Cor eglwysig Cyd ganu yn fendith
'Mae canu yn gwneud lles i'ch iechyd corfforol ac ysbrydol'
Mae pobl yn cael bendith ysbrydol a chorfforol o ddod at ei gilydd i gyd ganu.

Dyna farn Catrin Hobson, cadeirydd newydd Grŵp Datblygu Addoliad yn Gymraeg yng Nghadeirlan Bangor.

Yr oedd Catrin yn siarad ar Bwrw Golwg am wasanaeth Mawl Medi oedd i'w gynnal yn y Gadeirlan ddydd Sul, Medi 10, 2006.

Mawl Medi yw prif wasanaeth Cymraeg esgobaeth Bangor. Yn wasanaeth cymun ar gân defnyddiwyd Cymun y Cymry, gosodiad gan John Harper gydag aelodau o wahanol blwyfi yn dod at ei gilydd i addoli.

. Wrth siarad am y gwasanaeth dywedodd Catrin Hobson:
"Mae'n rhoi cyfle i bobl o wahanol blwyfi ddod at ei gilydd i addoli Duw.

"Mae hwn yn gyfle gwych i ganu a does yna ddim byd fel canu i ysbrydoli ac i drawsnewid.

"Ond os nad ydi rhywun yn perthyn i gôr, er enghraifft, neu'n mynychu cymanfaoedd canu ac eisteddfodau ac yn y blaen anaml mae rhywun yn cael cyfle i ganu efo pobl eraill - ond mae gwneud hynny yn lles yn fy nhyb i'ch iechyd corfforol ac ysbrydol."




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy