BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
17eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Anthony Crockett Duw a'r frwydr yn erbyn cancr
Dau yn trafod eu brwydr yn erbyn canser - ac effaith hynny ar eu perthynas â Duw
Bu dau o gyfranwyr yn sôn am eu brwydr yn erbyn canser ar Bwrw Golwg fore Sul, 21 Hydref 2007, ac effaith hynny ar eu perthynas gyda Duw.

Yr oedd Anthony Crockett, Esgob Bangor, ac Astra Thomas yn cymryd rhan mewn sgwrs am 'Ddiolchgarwch' gyda John Roberts, cyflwynydd y rhaglen, a ofynnodd i Anthony Crockett a fyddai'r ŵyl ddiolchgarwch flynyddol yn fwy o her iddo eleni oherwydd yr hyn a bu'n rhaid iddo ei wynebu yn ystod y flwyddyn:

gwrando Esgob Bangor, Anthony Crockett, yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg 21 Hydref, 2007.
Yn dilyn, isod, sgwrs gydag Astra Thomas.

Ond dywedodd yr Esgob: "Yr un testun sydd gen i bob blwyddyn - o Epistol cyntaf Sant Paul at y Thesaloniaid lle mae Paul yn dweud:
'Llawenhewch bob amser, gweddïwch yn ddi-baid. Ym mhob dim rhowch ddiolch' neu yn y cyfieithiad newydd, 'Rhowch ddiolch beth bynnag a ddaw'.

Teimlo'r her
"Ac mae yna her fan yna achos mae'n ddigon hawdd inni ddiolch am bethau da ond pan fo pethau'n troi o chwith mae yna her i Gristion sydd i fod i ddiolch beth bynnag a ddaw.

"Ac yn achos fy mhrofiadau i y chwe mis diwethaf yma rwy'n teimlo'r her yna i'r byw," meddai.

Eglurodd mai mynd i'r ysbyty i gael triniaeth carreg yn ei aren a wnaeth yn y lle cyntaf ond i'r meddygon ddarganfod mai cancr oedd gwir achos ei anhwylder gyda nifer o ail dyfiannau mewn gwahanol rannau o'i gorff.

Yn dilyn triniaeth mae'r tyfiannau i lawr i'r hanner bellach.

Cysur gweddi
Pwysleisiodd Anthony Crockett pa mor bwysig fu cefnogaeth popeth eraill yn ystod ei gystudd.

"Pan oeddwn i yn yr ysbyty ac ddim yn gwybod beth oedd yn bod arnaf i cefais gysur o bobl yn yr esgobaeth, yn y dalaith ac yn yr Eglwys yng Nghymru i gyd - ffrindiau, pobl oeddwn i ddim yn eu hadnabod nhw - yn gweddïo drosof i ac roeddwn i'n ymwybodol iawn o'r cariad yma oedd yn fy amgylchynu i," meddai.

Deall ein bod yn farwolion
Dywedodd na chafodd ei hun ar unrhyw adeg yn cwestiynu lle Duw yn hyn oll.

"Yr ydw i wedi bod yn y weinidogaeth nawr ers 36 o flynyddoedd ac wedi cymryd miloedd o angladdau ac yng ngwasanaeth angladd yr Eglwys yng Nghymru yr ydym yn dweud,
'Marwolion ydym ni o bridd y ddaear ac i'r un pridd y dychwelwn canys felly yr ordeiniaist pan greaist ni gan ddywedyd, Pridd wyt ti ac i'r un pridd y dychweli . . .
Ac rwy'n credu fy mod i yn ystod y cyfnod yna yn y weinidogaeth wedi derbyn y ffaith syml, sylfaenol, ein bod ni gyd yn farwolion - ein bod ni gyd yn mynd i farw," meddai.

Ofn marw?
Ynglŷn ag ofn marw dywedodd:
"Yr hyn oeddwn i'n ofni oedd y broses o farw. Y boen, achos yr oeddwn i mewn poen ac yr oeddwn yn ofni'r broses o farw.

"Ond doeddwn i ddim yn teimlo fod Duw wedi troi'i gefn arnaf i achos roeddwn i wedi derbyn - trwy ngyrfa falle - mai un o'r marwolion oeddwn i.

"Yr oeddwn i'n mynd i farw fel pawb arall.

"A dwi'n cofio'r hen emyn genhadol yn Saesneg, Count Your Blessings, ac mae hynny yn sylfaen bywyd i Gristion.

"Yn ystod fy ngyrfa rydw i wedi cwrdd â sawl person sydd wedi troi yn chwerw o achos y pethau drwg sydd wedi digwydd iddyn nhw a bywyd wedi colli ei ystyr ryw ffordd ond rwyf wedi cwrdd â llawer o bobl hefyd sydd ddim wedi troi'n chwerw ond rywfodd, rywsut, mae eu bywydau wedi blaguro am yr union un pethau sydd wedi troi pobl eraill yn chwerw a'r sylfaen yw eu bod nhw'n deall beth oedd Paul yn sôn amdano pan ddywedodd, 'Rhowch ddiolch beth bynnag a ddaw'," meddai.

  • Profiad Astra Thomas
    Yr oedd Astra Thomas hefyd yn un nad adawodd i'w salwch ei throi yn erbyn Duw.

    Ond yn gyntaf bu'n sôn am ei hymateb pan ganfu fod ganddi gancr y fron.

    gwrando Astra Thomas yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg 21 Hydref, 2007.

    "Yr oedd y gair cancr wedi fy nychryn i'n ofnadwy ac roeddwn i'n meddwl, 'Rydw i'n mynd i farw' Ac wedyn, 'Beth fydd yn digwydd i'r plant?'" meddai.

    Yn ei sgwrs bu'n sôn hefyd am berthynas arbennig a dyfodd rhyngddi hi a chyfeilles a oedd yn dioddef o'r un salwch a sut y daethon nhw i ddibynnu ar ei gilydd.

    "Oedden ni'n trafod ein gofidiau, ein hofnau ac yn dibynnu llawer iawn ar ein gilydd am gefnogaeth a chynhaliaeth," meddai.

    Effaith ofnadwy
    Ond er i'w chyfaill wella am gyfnod colli'r dydd a wnaeth yn y diwedd.

    "Ac fe gafodd hynny effaith ofnadwy arnaf i fel unigolyn . . . ac yr oedd rhywun yn gofyn y cwestiwn, 'Pam wnaeth Marian golli a pham wnes i fyw? Ac yr oedd hynny'n codi lot o euogrwydd ynof i ac roeddwn i'n holi llawer iawn, Pam? Pam? Pam?

    "Ond dros y blynyddoedd rwyf wedi dod i dermau rywsut efo hynny ac yn deall nad ydi canser yn parchu neb ac mae rhai pobl sydd yn marw a rhai sydd yn byw a does yna ddim patrwm i bethau."

    Ynglŷn a Duw
    Ynglŷn â dylanwad ei phrofiadau ar ei syniad o Dduw dywedodd:

    "Dydi Duw ddim yn berson sydd yn dethol a dewis . . . mae o'n rhoi rhyddid i ni fel unigolion," meddai.

    "Yr ydw i'n meddwl mai gwaith Duw ydi caru a dwi'n meddwl i fod yn ein caru ni a dwi fy hun wedi teimlo ei gariad o a dydw i ddim yn meddwl y buaswn i wedi gallu mynd drwy'r driniaeth a'r ofnau a'r dychryn a'r amheuaeth heb wybod ei fod o yna.

    "Dwi'n meddwl ei fod yn Dduw sydd yn gariad. Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn Dduw sy'n tynnu'r llinynnau a ninnau'n dawnsio - dydw i ddim yn meddwl mai dyna ydi Duw," meddai.

    Ond dywedodd na fu heb ei amheuon yn ystod ei salwch.

    "Weithiau roeddem ni'n damnio Duw . . . ond ar adegau eraill roeddem ni'n medru bod yn dawel a gwybod ar ddiwedd y dydd y buasai pethau yn iawn."

    Ac ers bod yn sâl dywedodd ei bod yn gweld pethau yn wahanol ac yn "wirioneddol ddiolchgar" am yr hyn sydd ganddi.

    "Nawr yn yr hydref pan fo'r diwrnod yn braf a'r coed yn eu gogoniant ac yn eu lliwiau rwy'n teimlo fy mod i'n gweld popeth yn fwy lliwgar a dwi yn ddiolchgar ac [yn] diolch i Dduw am adael imi weld y lliwiau a'r diwrnod.

    "Mae o wedi rhoi hapusrwydd yn fy nghalon ac rydw i'n ddiolchgar bob dydd fy mod i'n cael yr iechyd i brofi'r holl bethau," meddai.




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy