 |
 |
 |
Calan gaeaf Chwarae plant ynteu gŵyl beryglus? |
 |
 |
 |
Y mae gweinidog wedi gwadu y gall arferion Calan Gaeaf - Halloween - niweidio plant ifanc yn feddyliol.
Ond rhybuddiodd y Parchedig Towyn Jones fod peryglon eraill mewn caniatáu i blant fod allan liw nos yng nghanol miri'r tymor.
Annaturiol o afiach "Ynglŷn â'r cwestiwn a yw [dathliadau Calan Gaeaf] yn beryglus i blant; fy ymateb cyntaf i fyddai; gwaetha'r modd yn yr oes hon yr ydym yn ymwybodol fod paedoffilyddion moronaidd o gwmpas fel llygod Ffrengig - ac mae'r gymdeithas yn annaturiol o afiach yn rhywiol beth bynnag yn fy nhyb i. Felly, wrth gwrs ei bod hi'n beryglus i blant ifanc fod allan wedi nos ac ar nos Galan Gaeaf o bob noson oherwydd yr awyrgylch carnifal a phobl a phlant heb fod mor effro ag arfer i'r peryglon," meddai wrth gael ei holi ar Bwrw Golwg Hydref 29, 2006. "Ond am yr honiad ei fod yn debyg o adael effaith niweidiol ar blant dydw i ddim yn meddwl fod plant mor hygoelus ac mor hawdd i'w twyllo a hynny," ychwanegodd.
Saethu Indiaid Cochion! "Dwi bob amser yn meddwl am y gymhariaeth hon - pan oeddwn i yn blentyn yr oeddwn i'n gowboi brwdfrydig iawn, yr oeddwn i'n drwm iawn ar y caps ac fe laddais i Americaniad brodorol, Indiaid Cochion, dirifedi ac unrhyw un arall oedd yn haeddu bwled.
"Ond pan euthum yn ŵr fe roddais heibio bethau bachgennaidd . I'r gwan ei feddwl yn unig y byddai'r ffantasi yn datblygu i fod yn realiti," meddai.
Gŵyl y Tywyllwch Ond anghytunai Marian Lloyd Jones, llyfrgellydd o Rosllannerchrugog a mam i ddau o blant a ddywedodd nad yw ei phlant hi yn ymuno a miri Calan Gaeaf a gwisgo mygydau.
"A fyddwn i ddim yn hapus iddyn nhw wneud ychwaith," meddai ar Bwrw Golwg.
"Dwi'n teimlo mai gŵyl y tywyllwch ydi hon yn y bôn ac mi rydw i'n trio egluro iddyn nhw ein bod ni Gristnogion yn dilyn Iesu ac mai goleuni'r byd ydi Iesu Grist a phobl y goleuni ydym ni ac nad ydi'r ddau yn mynd efo'i gilydd yn fy marn i."
Ond meddai Towyn Jones:
"Mae'n rhaid ichi ddeall ar yr un pryd ei bod hi'n anodd iawn ichi ddiorseddu rhywbeth sy'n hen iawn. Roedd gan yr hen Gymry eu tair ysbrydnos - Calan Mai, Noswyl Ifan a Chalan Gaeaf ac wrth gwrs . . . ond dwi'n meddwl fod yna lai o berygl o lawer yn yr holl fusnes plastig arwynebol yma," meddai.
Gŵyl gyn Gristnogol Eglurodd Towyn Jones mai gŵyl gyn Gristnogol yn hytrach na gwrth Gristnogol yw Calan Gaeaf - gŵyl i ddathlu fod y cynhaeaf wedi ei gasglu, i oleuo coelcerthi ac i chwarae gemau darogan.
"Credai'r hynafiaid fod y llen yn denau iawn rhwng y byw a'r meirw yr adeg hon o'r flwyddyn a bod cyfathrach rhyngddyn nhw yn bosibl," meddai.
"Ar yr un pryd yr oedden nhw yn arswydo y gallai ysbrydion annymunol dorri trwodd o'r byd arall ac fe luniwyd mygydau erchyll i anfon rheini i ffwrdd.
"A dyna ddiben hefyd y gargoeliau hyll yna yr ydyn eu gweld ar eglwysi a chadeirlannau ac mae yna ddigon ohonom yn cofio'r amser pan fyddai pobl yn dod a gwn gyda nhw i briodasau ac yn saethu i anfon yr ysbrydion aflan i ffwrdd oddi wrth y pâr ifanc," ychwanegodd.
Nodiadau Calan gaeaf:
Mae'r ŵyl yn dyddio o gyfnod y Celtiaid 2000 o flynyddoedd yn ol.
Daeth dan ddylanwad y Rhufeiniaid a oedd yn dathlu yr un adeg o'r flwyddyn Feralia gŵyl y meirw, a Pomona, gŵyl duwies y ffrwythau a'r coed.
Yn hytrach na cheisio dileu'r ŵyl dewisodd Cristnogion ei hymgorffori ac hyd heddiw gelwir y diwrnod canlynol yn Ddydd yr Holl Saint. Credai rhai Cristnogion fod y meirwon yn cael eu rhyddhau o burdan am 48 awr y diwrnod hwn.
O'r Unol Daleithiau y daeth yr arferiad o greu lanteri pwmpen. Rwdan a ddefnyddiwyd yn wreiddiol ond i Wyddelod a ymfudodd i'r America sylweddoli fod mwy o bwmpeni nag a o rwdins yno.
 |
 |
 |
 |
|
|