|
John Roberts yn holi'r Dr R Alun Evans ar Bwrw Golwg, Ionawr 7, 2007
Bydd aelodau un o gapeli'r de yn dosbarthu taflenni o ddrws i ddrws yn eu hardal yn gwahodd pobl i ymuno â nhw.
Y Dr R Alun Evans, gweinidog Bethel, Caerffili, fu'n egluro'r cynllun ar Bwrw Golwg, Ionawr 7, 2007.
Taflen liwgar Dywedodd fod Cylch Ymweld yn y capel yn gyfrifol am drefnu ymweliadau â theuluoedd sy'n byw ar stadau tai mawrion sy'n cael eu codi yn y dref hyn er mwyn eu gwahodd i ymuno ym mywyd Cristnogol Caerffili.
"Paratowyd taflen liwgar gan un o aelodau Bethel i'w dosbarthu gyda manylion am holl addoldai'r dref gan gynnwys amseroedd oedfaon, lleoliadau, rhifau ffon cyswllt a chyfeiriadau," meddai'r Dr Evans mewn dathaniad gan Undeb yr Annibynwyr.
"Mae gwaith paratoi'r daflen ynddo'i hun wedi'n dwyn i berthynas agosach â'r eglwysi eraill," ychwanegodd.
Pwysig cael pobl ieuanc "Ond y gwaith pennaf at y gwanwyn a'r haf 2007 yw cnocio drysau," meddai, ac i'r diben hwnnw pobl ieuanc ac oedolion yn cydweithio.
"Credwn ei bod hi'n synhwyrol cael pobl ieuanc i gyflwyno'r daflen er mwyn dangos bod yna weithgarwch perthnasol i deuluoedd cyfan yn y capeli a'r eglwysi lleol.
"Mae hi'n bwysig hefyd i'r genhedlaeth iau sylweddoli bod gwaith yr eglwys yn ymestyn y tu allan i bedair wal a thu hwnt i ddydd Sul."
Ychwanegodd nad gwthio taflenni trwy'r twll llythyrau yn null dosbarthu junk mail yw'r amcan.
"Mae cyfarch y sawl a ddaw i'r drws a rhoi'r daflen yn eu llaw, gan ateb unrhyw gwestiwn a gyfyd a chymell wyneb yn wyneb yn rhan allweddol o'r prosiect.
"Bydd oedolion cyfrifol wrth law i gefnogi'r ieuenctid. Cyfrifoldeb yr oedolion o'r Cylch Ymweld hefyd yw asesu ymateb y teuluoedd i'r ymweliad," meddai.
Mae'r cynllun hefyd a'i lygaid ar ddarpariaeth Gymraeg:
Yn Gymraeg "Gyda Chaerdydd, sydd saith milltir i ffwrdd, yn prysur lenwi fe dybiwn y bydd mwy a mwy o bobl yn dod i fyw i Gaerffili lle mae eisoes ddwy ysgol gynradd Gymraeg ac agwedd iach at yr iaith yn y Cyngor Bwrdeistref," meddai.
"Y gobaith yw y bydd yno deuluoedd Cymraeg yn symud i'r ardal. Mae taer angen pobl felly ar y ddau gapel Cymraeg sydd yn y dref; Tonyfelin, Bedyddwyr, a Bethel, Annibynwyr, - dau gapel sy'n cydweithio'n hapus â'i gilydd," meddai.
Tynnu lluniau Dywedodd mai Stad Castell Maen ar gyrion y dref o gyfeiriad Nantgarw fydd yn cael ei thargedu gyntaf gyda chofnod gweledol o'r arbrawf yn cael ei drefnu.
"Mae merch ifanc o Fethel, sy'n hanu o'r Eidal ac yn fyfyrwraig ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Casnewydd, eisoes wrthi'n cofnodi datblygiad y Stad honno efo'i chamera a bydd yn dilyn yr 'ymwelwyr' yn dosbarthu taflenni pan ddigwydd hynny. Bydd gennym felly gofnod gweladwy o'r prosiect," meddai.
"Y gobaith pennaf yw y bydd ein hymdrechion yn creu gweithgarwch, yn hybu brwdfrydedd ac yn canfod aelodau newydd i gryfhau ein tystiolaeth i'r Arglwydd," meddai.
Cyhoeddwyd manylion am gynllun Caerffili yr un adeg ag y cyhoeddodd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr, y Dr Geraint Tudur,
neges blwyddyn newydd yn dweud y bydd 2007 yn flwyddyn pryd y gwelir yr Annibynwyr yn buddsoddi yn eu yn eu dyfodol - yn enwedig felly trwy gynllun cenhadol sy'n cael ei adnabod fel AGAPE.
Dim ond un enghraifft o'r arbrofi yma yw'r cynllun cenhadol yng Nghaerffili.
Cliciwch i ddarllen am neges blwyddyn newydd 2007 Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr.
 |