Mae penderfyniad esgobion Eglwys Loegr i beidio a gwrthwynebu dileu y ddeddf cabledd wedi ei groesawu gan farnwr o Gymro.
"Fyddwch chi byth ar eich colled o golli deddf nad yw yn cael ei defnyddio," meddai'r Barnwr Nic Parry wrth gael ei holi am y penderfyniad ar Bwrw Golwg, BBC Radio Cymru, ddydd Sul 13 Ionawr, 2007.
Nic Parry yn cael ei holi gan John Roberts ar Bwrw Golwg, 13 Ionawr, 2008.
Oes arall Disgrifiodd y Ddeddf Cabledd fel cyfraith sy'n deillio o oes pan oedd credo yn greiddiol i Dduw "ac yng nghanol ac yng nghalon cymdeithas".
"Y gred oedd os oeddech chi'n gwawdio ac yn cablu crefydd mi roeddech chi yn gwawdio ac yn ymosod ar gymdeithas ei hun.
"Ond fel mae'r oes wedi newid ac fel mae rôl crefydd wedi pylu o safbwynt pwysigrwydd i bobl yna mae gwleidyddion a'r eglwysi i raddau yn cytuno nad ydi o mor berthnasol," meddai.
Gan ddweud mai "rhywbeth sydd ei angen" yw deddf eglurodd fod yr angen am y ddeddf arbennig hon wedi darfod.
Dim defnydd "A'r gred ydi nad oes ei hangen hi nawr ac mae hynny'n cael ei ddangos i raddau [yn y ffaith] nad yw hi'n cael ei defnyddio," meddai.
"Hynny yw, y tro diwethaf i rywun gael ei anfon i garchar am gablu oedd yn 1922 ac ers y Saithdegau does yna ddim llwyddiant wedi bod. A'r rhesymeg y tu ôl i hyn yw nad ydi hi ddim bellach yn berthnasol felly pam ddim ei dileu hi achos mae ei bodolaeth hi yn gallu creu anesmwythodd," meddai.
Ychwanegodd nad yw y ddeddf yn berthnasol beth bynnag i gabledd yn erbyn Eglwys Loegr.
Pe byddech chi yn cablu yn erbyn Iesu Grist ar ffurf Gatholig neu yr Eglwys Fethodistaidd dydi hynny ddim yn gabledd felly yn yr oes pan fo gennych chi y cydfyw crefyddol yma y gred yw nad ydi hyn yn helpu felly gadewch inni gael gwared ag o.
Yr unigolyn Ychwanegodd y bydd y ddeddf newydd gwahardd casineb crefyddol yn gwneud gwaith y ddeddf cabledd yn well.
"Beth mae'r Llywodraeth yn ei gredu'n awr yw; Os ydych chi yn pechu yn erbyn yr unigolyn a'i gredo mae'n drosedd yn hytrach na phechu yn erbyn y gred ei hun ac mae unrhyw beth roedd y Ddeddf Cabledd yn delio ag ef yn awr yn mynd i gael ei ddelio ag ef yn fwy effeithiol dan y deddfau newydd sydd yn ymwneud â'r unigolyn ac nid ei ffydd o," meddai Nic Parry.
.
"Y rhesymeg yw fod y gred yn bwysig i'r unigolyn. Hynny yw, pam ddylech chi ymosod ar rywun sy'n ymosod ar gredo [gyda] phwysigrwydd yn awr ar yr hawl i fynegi eich barn," eglurodd.
"Fe allech chi ddadlau fod deddf cabledd yn groes i iawnderau dynol ond os ydych yn gwarchod hawl yr unigolyn i'w ffydd rydych chi'n dal i gyflawni yr un peth," meddai.
Gwlad wahanol Pan holodd John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg, a yw hyn gyfystyr a golchi dwylo â thraddodiad pwysig mai gwlad Gristnogol ydi Prydain dywedodd Nic Parry:
?
"Dydy ni ddim yn wlad Gristnogol a beth mae'r ddeddf yma yn ei wneud ydi cydnabod y newid sydd wedi bod. Rydym ni'n wlad Gristnogol, ydym, ond rydym ni hefyd yn wlad sydd yn llawn crefyddau eraill," meddai.
"Yr wrth ddadl fyddai nad ydi'r ddeddf yno i warchod traddodiad. Mae'r ddeddf yna i bwrpas ac mae'r angen oedd am y ddeddf yma, oherwydd y newid cymdeithasol, wedi mynd," ychwanegodd.
"Fyddwch chi byth ar eich colled o golli deddf nad yw yn cael ei defnyddio," meddai.
 |