 |
 |
 |
Heb ofn - diolch i Dduw Myfyrwraig yn gwneud gwaith gwirfoddol yn Sao Paulo |
 |
 |
 |
Er iddi dreulio mis yn gweithio mewn ardal yn llawn peryglon ym Mrasil dywedodd myfyrwraig o Gaerdydd na theimlodd unrhyw ofn o gwbl - gan ei bod yn gwybod, meddai, fod Duw yn gofalu amdani.
Mae Nerys Williams o Gaerdydd, sy'n astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, newydd dreulio mis yn gweithio gyda Chymdeithas Genhadol y Bedyddwyr - BMS - yn un o ardaloedd tlotaf Sao Paulo ym Mrasil.
Bu'n siarad gyda John Roberts am ei phrofiadau yno ar rifyn Medi 3, 2006 o Bwrw Golwg.
Tlodi, cyffuriau a saethu "Roeddwn i'n byw ac yn gweithio mewn flavela yn Sao Paulo - sef yr ardal dlawd - ac yn byw uwchben eglwys yng nghanol y prysurdeb a'r peryglon sydd i'w cael yn yr ardal," meddai.
"Mae'n lle sy'n llawn cyffuriau, yn llawn saethu a pheryglon eraill. Mi wnes i weld rhai pethau [fel hyn] ond dim cymaint ag yr oeddwn i wedi'i ddisgwyl ac roeddwn i'n teimlo'n ddiogel yno gydol y mis oherwydd yr eglwys ac oherwydd bod Duw gyda mi.
Gweithio gyda phlant "Roeddwn i'n gweithio gyda dwy eglwys a'r gwaith oeddwn i'n i wneud oedd gwaith gyda phlant; sef addysg cyn ysgol i blant rhwng tair a chwech oed ac fe gawsom ni gyfle i ddysgu dosbarthiadau mewn Portiwgaeg a Saesneg a chwarae gemau a darllen storiâu o'r Beibl a gwneud crefftau. Yna roeddem ni yn cymryd rhan yn yr eglwysi.
Brwdfrydedd crefyddol "Roedd yn rhyfedd iawn, iawn. Gweld fod cymaint o eglwysi yno mewn ardal sy'n eithaf Catholig. Yn yr eglwys oeddwn i'n mynd iddi roedd yn rhyfeddol gweld y brwdfrydedd a phresenoldeb Duw yn amlwg iawn, iawn, yn y gwasanaeth; yn enwedig yn yr addoli gyda phobl yn rhoi eu hunain yn gwbl i addoli Duw.
"Mae'n anodd ei esbonio y cariad tuag at Dduw. Er nad oedd dim llawer ganddyn nhw maen nhw'n parchu'r eglwysi yn fawr iawn ac rwy'n credu mai dyna oedd y diogelwch oeddwn i'n ei deimlo fel un o'r cenhadon yn byw yng nghanol y flavela .
"Ac maen nhw'n . . . mynd o gwmpas y tai ac yn siarad am Dduw ."
Wynebu problemau go iawn Dywedodd fod yr eglwysi yno yn wynebu problemau real byw bob dydd yn yr ardaloedd hyn.
"Maen nhw'n ymweld â'r tai, maen nhw'n ymweld â'r bobl ac yn dangos cariad tuag atyn nhw ac yn dangos y cariad Cristnogol i bobl ac yn eu helpu nhw dyfu fel pobl ac y mae athrawon yn cael eu cyflogi i ddysgu.
"Roedd yr athrawon yno yn arbennig. Mae'r plant yn ifanc ac heb gael unrhyw brofiad o fod mewn dosbarthiadau neu gael eu disgyblu ond roedd yr athrawon yn gwybod yn union beth i'w wneud."
Brwdfrydedd yr ifanc Dywedodd Nerys iddi fod â'r awydd i fynd ar ymgyrch debyg ers ei harddegau .
"Roeddwn i'n arfer darllen llyfrau am genhadon yn mynd i fannau pell i ledaenu gair Duw ac i helpu pobl a phlant mewn angen a jyst gwneud rhywbeth gwerthfawr," meddai.
Am y profiad o fyw yng nghanol bwrlwm y flavela dywedodd:
"Yr oedd yn brofiad anhygoel ac fe wnes i fwynhau llawer.
Mae'n lle mor hynod. Yn lle mor fawr gyda'r prysurdeb yn anhygoel.
Y bobl mor brysur o fore tan nos yn gweithio ond eto yn dod o hyd i amser i fod mor lletygar a chroesawgar ac yn dangos y cariad Cristnogol - ac yr oedd hynny yn esiampl mawr i mi.
"Yn enwedig y bobl ifainc, hefyd - es i gwrdd gweddi o hanner nos tan dri o'r gloch y bore . Oherwydd eu bod yn fyfyrwyr maen nhw mewn darlithoedd o chwech tan unarddeg ac wedyn yn dod ar ôl gwneud diwrnod o waith," meddai.
Yr adnod sy'n dweud y cyfan Dywedodd mai'r adnod a fydd yn aros gyda hi yn dilyn ei hymweliad yw 1 Corinthiaid 15:18:
"'Felly fy nghyfeillion annwyl byddwch yn gadarn a disysgog. Yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer'."
"Y mae cymaint yr ydw i wedi'i ddysgu yr ydw i eisiau ei rannu gyda chymaint o bobl ag rwy'n gallu. Rwy'n credu fod Duw wedi rhoi yn fy nghalon i y dyhead i wneud gwaith hir dymor efallai yn Brasil . . .," meddai.
Cliciwch Yma i weld lluniau o Sao Paulo.
 |
 |
 |
 |
|
|