"Sut y gall y Cristion gyfiawnhau cael mwynhad o wylio dau ddyn yn dyrnu ei gilydd nes bo un yn ildio i'r llall?" oedd y cwestiwn ofynnwyd ar Bwrw Golwg yn dilyn buddugoliaeth y paffiwr o Gymro, Joe Calzaghe, yn erbyn Bernard Hopkins yn yr Unol Daleithiau.
Meddyg, Cristion a diacon Yn ogystal â bod yn edmygydd mawr o baffwyr a'u crefft yn y sgwâr y mae Wyn Griffiths yn feddyg, yn Gristion ac yn ddiacon yn ei gapel ac ef fu'n egluro i John Roberts ar Bwrw Golwg fore Sul 20 Ebrill 2008 sut y gall gysoni y gwahanol elfennau hyn.
A chyfiawnhau cael mwynhad o wylio dynion yn bwrw ei gilydd hyd at waed.
Y Dr Wyn Griffiths yn trafod bocsio gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, fore Sul 20 Ebrill 2008
"Mae yna wrthdaro yn naturiol rhwng, Carwch eich gilydd a Câr dy gymydog fel ti dy hun ar un llaw ac ymosod ar eich gilydd ar y llaw arall fel y cewch chi yn y sgwâr bocsio," meddai.
"A thros y blynyddoedd yr ydw i wedi gorfod ymgodymu â'r pethau hyn."
Ond dywedodd mai camp athletaidd yn hytrach nag ymladdfa gas yw paffio yn ei olwg ef.
Gwahaniaeth rhwng dau sgwâr Ond pwysleisiodd bod cryn wahaniaeth rhwng paffio amatur y mae ef yn ei gefnogi a phaffio proffoesiynol.
"Nawr mae'r sgwâr amatur a'r sgwâr proffesiynol yn wahanol iawn. Er bod y gamp yr un peth mae'r sgwâr amatur yn cael ei amddiffyn mewn ffordd llawer, llawer, mwy a dyw e ddim yn seiliedig ar chwerwder neu ddicter a chasineb a dial ac yn y blaen," meddai.
"Beth ydych chi'n gael yn y sgwâr amatur yw bocswyr neu bobl sy'n dod yn aml iawn o ardaloedd llai breintiedig . . . [Pobl] sydd wedi gorfod brwydro ac wedi dal i wneud.
"Ac wrth gwrs yn aml iawn i rai o'r rhain bocsio yw'r unig ffordd i ddod allan ohoni.
"Felly, [fel] meddyg rydw i'n gorfod edrych ar yr egwyddorion hynny sydd yn gwarchod buddiannau y bobl yn y gamp ei hunan a hefyd yn y cymunedau lle maen nhw'n byw ac wedi eu magu a'u codi ynddyn nhw."
Dau athletwr Ond cytunodd bod dwy ffordd o edrych ar bethau:
"Fe allwch chi edrych ar focsio fel un o'r chwaraeon," meddai.
"Hefyd, fe allech ei weld yn y modd arall lle mae sefyllfa ariannol yn perthyn iddo a phobl yn gweld y gamp mewn ffordd wahanol."
"Os ydych chi'n edrych ar hyn fel dau athletwr sy'n cael eu paratoi ac sydd, yn yr ymrafael n gwneud hyn mewn modd athletaidd rydych chi'n colli'r agwedd o gasineb.
"Fe gewch chi hyn ym mhob camp wrth gwrs - fe gewch chi fetio ac fe gewch chi ymosod ym mhob camp fel reslo, fel judo ond boscsio yn aml iawn sy'n cael y sylw mawr yn y modd yma," meddai.
Anafiadau Cytunodd y gall anafiadau difrifol ddigwydd ond bod chwaraeon eraill fel rygbi, marchogaeth a hyd yn oed golff yn achosi mwy o anafiadau difrifol a pharhaol i'r pen.
Ychwanegodd fod bocswyr amatur yn gwisgo penwisg i amddiffyn eu hunain yn y sgwâr a gornestau yn cael eu hatal pan fo paffiwr yn diodde'n ormodol.
 |