BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Bywyd Bethlehem
Angharad Tomos yn sôn am ei hymweliad â Bethlehem
  • Cyfle i wrando ar y sgwrs ar ddiwedd yr erthygl

    Croesawodd llenor ac ymgyrchydd iaith o Gymru fwriad pedwar arweinydd crefyddol blaenllaw o Brydain i ymweld â Bethlehem wythnos cyn y Nadolig, 2006.

    Yr oedd yr awdur a'r ymgyrchydd iaith, Angharad Tomos, yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg am ymweliad Archesgob Caergaint, Rowan Williams, Archesgob Catholig Westminster, Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Prydain ac arweinydd yr Eglwys Uniongred Armenaidd ym Mhrydain, i ddangos undod gyda'r trigolion.

    Codi calon
    Meddai Angharad Tomos: "Pan glywais i'r newydd roeddwn i'n codi nghalon bod yna bobl efo proffil mor amlwg yn fodlon mynd draw.

    "Pan oeddwn i yno yr oedd pobl yn gwerthfawrogi'r ffaith ein bod yn dod yno achos y teimlad oedd eu bod wedi cael eu anghofio - eu bod nhw yn y newyddion ond nad oes yna neb o ddifrif eisiau gwneud rhywbeth i wella'r sefyllfa.

    "Felly rydw i'n croesawu eu bod nhw'n gwneud hyn ar adeg bwysig yn y flwyddyn."

    Dywedodd ei bod yn ofnus cyn ei hymweliad hi:

    Teimlo'n ddiogel
    "Yr oedd y Llywodraeth yn rhybuddio pobl nad oedd hi'n saff i fynd yno felly roedd gen i ofn a doeddwn i ddim yn gwybod beth fuaswn i yn ei weld," meddai.

    "Ond yr oeddem ni yn aros ym Methlehem am ddeg diwrnod a lle tawel oedd o. Hynny yw roeddwn i'n fodlon cerdded i lawr y stryd gyda'r nos - rhywbeth na fyddwn i ddim yn ei wneud mewn dinas fel Bangor!

    "Roeddwn i'n teimlo'n saff yna a welais i ddim trais o gwbl ym Methlehem ei hun," meddai.

    Dibynnu ar dwristiaid
    "A'r diwrnod yr oeddem ni yn gadael mi oedd yna rybudd fod Bethlehem wedi cau i dwristiaid a'r darlun sy'n aros efo fi ydi; gwraig y llety - yr oedd hi'n wraig mor hawddgar ac mor glên - yn dweud nad oedd hi'n gwybod beth fyddai ei dyfodol hi os na fyddai twristiaid o gwbl.

    "Roedd ei bywoliaeth hi yn dibynnu ar ymwelwyr."

    Dywedodd Angharad Tomos nad oes gan Iddewon hawl i fynd i Fethlehem heb bas mwy nag oedd gan Balestiniaid yr oedd yn eu hadnabod ym Methlehem yr hawl i fynd yn ddidramgwydd i Jerwsalem.

    Aparteid llwyr
    "Beth sylweddolais i ar ôl bod yna oedd fod yna aparteid llwyr; fod yna ffyrdd arbennig i Balestiniaid - doedden nhw ddim yn cael defnyddio ffyrdd yr Israeliaid - ac yr oedd yna lefydd nad oedd y Palestiniaid yn cael mynd iddyn nhw.

    "Roeddech chi'n methu trefnu pethau sylfaenol fel mynd o A i B heb wybod efallai y byddai yna heddlu yn eich stopio chi ar y ffordd.

    "Pan es i Jerwsalem yr oeddwn wedi edrych ymlaen ers blynyddoedd at y profiad yma a'r peth cyntaf a gefais i oedd milwyr yn dod ar y bws gyda gynnau ac yn chwilio'r bws.

    "Hynny ydi mae hi'n sefyllfa dreisgar - mae hi'n sefyllfa ofnus a does gan y Palestiniaid ddim hawliau sylfaenol. A dyna oedd yr agoriad llygad i mi . Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai'r aparteid mor amlwg," meddai.

    "Mi welais i Balestiniaid yn cael eu stopio yn Jerwsalem, yr heddlu yn gafael yn eu dwylo nhw i'w taflu nhw ar y ffordd a'u rhoi nhw mewn fan heddlu ac roedd y tywysydd yn dweud wrthym ni na fyddai'n lecio gwybod beth fyddai'n digwydd iddyn nhw wedi hynny."

    Gwerthfawrogi'r ymweliad
    Soniodd Angharad Tomos hefyd am rwystredigaeth ddyddiol y bobl.

    "Y teimlad oeddem ni'n gael hyd yn oed pan oeddem yn mynd i Ramala oedd gwerthfawrogiad ein bod yn dod ac y bydden nhw'n croesawu mwy o bobl o'r gorllewin i ddod i siarad wyneb yn wyneb.

    "Yr oeddwn i'n cael y teimlad yna eu bod nhw wedi cael eu anghofio; eu bod nhw yn y newyddion yn aml ond bod yna neb eisiau datrys y sefyllfa.

    "Dwi'n meddwl mai dyna'r unig sefyllfa yr ydw i wedi bod ynddi a dod oddi yno a meddwl na fedrwch chi ddatrys hyn dan yr amodau presennol."

    Oherwydd hynny, meddai, yr oedd yn croesawu ymweliad y pedwar arweinydd crefyddol o Brydain.

    gwrando Angharad Tomos yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Rhagfyr 10, 2006




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy