BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Neges 2007 yr Annibynwyr
'Buddsoddi yn y dyfodol'
Heriwyd yr Annibynwyr yng Nghymru i ddadwneud hanner canrif o ddirywiad crefyddol yn y wlad a buddsoddi yn y dyfodol.

Mewn neges blwyddyn newydd ar gyfer 2007 mae Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, y Parchedig Dr Geraint Tudur, wedi galw ar i eglwysi i gymryd camau hyderus ymlaen "yn hytrach nag ildio i'r dirywiad sydd wedi digwydd yn ystod yr haner canrif ddiwethaf".

Gwers i'r Cristnogion
Meddai'r Dr Tudur:
"Ceir cryn sôn yn y wasg y dyddiau hyn am fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Tybed nad oes yn y fath awgrym wers i ni fel Cristnogion ac fel eglwysi Annibynnol?"

Ychwanegodd, "Y gwir yw bod angen i ninnau fuddsoddi ar gyfer yfory ac ar ddiwedd blwyddyn, neu ar ddechrau un newydd, dyma amser da i ni ystyried gwneud yn union hynny."

Creu grwpiau astudio
Trwy gyfrwng papur newydd yr Undeb, Y Tyst, gelwir ar i eglwysi wneud "buddsoddiad ysbrydol" drwy sefydlu astudiaethau Beiblaidd ar hyd a lled Cymru.

"Dylai pob eglwys o fewn yr Undeb fod yn gallu gwneud hyn. Y mae'n syml, yn ddidrafferth ac yn rhad ac am ddim!" meddai.

I hwyluso'r dasg, y mae nifer o weinidogion wedi cytuno i baratoi deunydd sydd, yn ôl Dr Tudur, yn "ddefnyddiol, dealladwy a pherthnasol".
Bydd y deunydd ar gael ar y we, trwy e-bost neu drwy'r post.

Ymhlith y canllawiau ar gyfer sefydlu astudiaeth Feiblaidd mae:
  • Fod cyn lleied â dau unigolyn yn ddigon i ffurfio 'grŵp' ond ni ddylai unrhyw grŵp gynnwys mwy na 10 o bobl. Dylid rhannu grwpiau mwy.

  • Fod y grŵp yn cyfarfod ar aelwyd.

  • Fod y grŵp yn cael ei arwain gan bersonau lleyg yn eu tro.

  • Y cyfarfodydd i barhau am lai na 50 munud, ac i gynnwys astudiaeth, amser byr i weddïo, cwpanaid o de neu goffi, a sgwrs.

    Rhestrodd hefyd ei resymau pennaf dros gael grwpiau:
  • I roi gwybodaeth a dealltwriaeth well o gynnwys y Beibl a'r Efengyl
  • I adeiladu ein gilydd yn y ffydd
  • I arfogi ein hunain ar gyfer gwaith gweinidogaeth ymhlith ein cyd-aelodau
  • I gael cymdeithas Gristnogol mewn awyrgylch gynnes a braf
  • I sefydlu gweithgarwch y gallwn ei ddefnyddio i bwrpas cenhadol trwy wahodd pobl newydd i fod yn rhan ohono.

    Pwysleisiodd y Dr Tudur nad yw'n fwriad ymyrryd lle mae astudiaeth Feiblaidd yn barod dim ond annog yr astudiaeth honno i barhau.

    Y cyfeiriad ar gyfer y rhai sydd am sefydlu grŵp yw:
    Dr Geraint Tudur Tŷ John Penri, 5 Axis Court, Parc Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe, Abertawe. SA7 0AJ. 01792-795888
    ebost

    ebostiwch BBC Cymru'r Byd gyda hanes a phynciau eich grŵp astudiaeth chi.




  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy