Yn y papurau enwadol ar hyn o bryd mae hysbyseb yn gwahodd pobl sydd eisiau byw am ddeng mis mewn tŷ^ cymunedol sy'n cael eir redeg gan CWM - y Cyngor Cenhadol Bydeang - yn Amsterdam.
Bu Elain Roberts, myfyriwr nyrsio yng Nghaerdydd, yn sôn wrth John Roberts am gyfnod a dreuliodd hi yn y tŷ^ yn Amsterdam.
Elain Roberts yn sgwrsio gyda John Roberts ar Bwrw Golwg. dydd Sul, Chwefror 25, 2007
"Mae'r profiad i gyd wedi fy newid i mewn llawer o wahanol ffyrdd," meddai.
Sawl rheswm "Roeddwn i'n gweithio efo'r digartref yn bennaf - yn byw yn y gymuned ei hun ac yn gwneud ffrindiau newydd. Roeddwn i'n mynd i'r capel a gwneud lot efo'r gymuned gapel yn Amsterdam.
"Roeddwn i'n gweithio mewn walk in centre yn paratoi te a choffi [i'r digartref]a lle iddyn nhw aros am y diwrnod i anghofio am bethau a rhoi bwyd iddyn nhw wrth gwrs. Ac roedd yn lle iddyn nhw gael cawod - yn lle iddyn nhw deimlo'n sâff mewn gwirionedd."
Dywedodd fod sawl rheswm i gyfrif fod yno bobl sy'n ddigartref.
"Pobl yn dod i Amsterdam er enghraifft yn meddwl jyst am y cyffuriau a phobl anghyfreithiol hefyd sy'n dod o leoedd fel Affrica yn chwilio am fywyd gwell a phobl o'r wlad ei hun sydd efo problemau meddyliol neu broblemau teulu ac heb gartref!
Lle pwysig i ffydd Dywedodd fod y ffaith mai tŷ cymunedol eglwysig ydoedd yn golygu fod i ffydd le pwysig ym mywyd bob dydd y preswylwyr.
"Yr oedd yn bwysig iawn. Amser bwyd yr oeddem yn gweddïo a phob dydd Llun roeddem yn cael rhyw fath o bwyllgor i ddweud beth oedd yn mynd ymlaen yn ein bywyd ni dros yr wythnos ac roeddem yn cael amser i siarad am unrhyw beth oeddech chi eisiau a phob wythnos byddai rhywun yn codi un pwnc ac fe fyddem yn trafod hwnnw.
"Mae wedi gwneud i mi feddwl lot mwy am fy ffydd drwy feddwl beth ydw i'n gredu ac mae hynny'n bwysig iawn," meddai.
"Dwi'n meddwl, os ydych chi'n trafod efo pobl eu gwahanol ffydd yr ydych yn siŵr o ddarganfod beth yn union ydych chi'n i goelio a beth yn union ydych chi ddim yn ei goelio ac mae hynna'n bwysig," ychwanegodd.
Amser i feddwl "Cael y deng mis o amser i feddwl beth ydi'ch ffydd chi - mae hynny'n bwysig. Cyn imi fynd yno doeddwn i ddim yn cael amser i feddwl am fy ffydd," meddai.
Dywedodd ei bod yn "anodd iawn" byw mewn gwlad wahanol efo iaith hollol wahanol.
"Felly roedd yna, wrth gwrs, amser pan nad oeddwn i ddim yn hapus ond dydw i ddim yn meddwl fy mod i eisiau'i anghofio fo," meddai gan ychwanegu y byddai hi'n cymell eraill i fynd i'r tŷ.
"Mae'n brofiad anhygoel ac mae yna gymaint o gymorth hefyd i bobl sy'n mynd allan yna."
 |