BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Yfed Cymry'r botel
'Plant wyth a deg oed yn gaeth i alcohol'

Y mae plant wyth oed yng Nghymru sy'n gaeth i alcohol yn ôl ymgynghorydd sy'n gweithio yn y maes.

Yn siarad ar y rhaglen Bwrw Golwg dywedodd Wynford Ellis Owen, fod oed y rhai sy'n dioddef o alcoholiaeth yn mynd yn is ac yn is.

gwrando Rhan o'r sgwrs rhwng Wynford Ellis Owen, Alun Daniel a John Rowlands yn cael eu holi gan John Roberts ar Bwrw Golwg, bore Sul, Awst 26, 2007

Ond er yn dadlau mai o ddod o hyd i'w "Creawdwr" y gall y bobl hyn helpu eu hunain pwysleisiodd nad trwy grefydd y mae gwneud hynny.

Dibynnu'n llwyr
"Ar un adeg yr oed tebygol i gael pobl yn dod am driniaeth oedd y gwmpas y 44 neu 45 ond maen nhw o gwmpas y deg oed ac hyd yn oed wyth oed yn cyrraedd y stad o ddibyniaeth lwyr ar alcohol a chyffuriau [yn awr]," meddai.

"Mae o'n destun pryder mawr. Dydw i ddim yn gwybod sut mae o wedi dod o gwmpas ond yn sicr mae o'n adlewyrchu y stad ddynol - y ddeuoliaeth yma, y rhannu yma sydd wedi digwydd rhwng dyn a'r Creawdwr ac mae'r rhaglenni o wellhad yn dibynnu ar gael y bobl i dderbyn eu bod nhw yn hollol ddibwer dros alcohol a bod eu bywyd allan o reolaeth ac mai eu hunig obaith yw cael rhyw bŵer uwch na hwy eu hunain ac adfer eu perthynas, os bu yna berthynas o gwbl, gyda'u Creawdwr," meddai.

Nid trwy grefydd
Yn fab i weinidog ei hun, ychwanegodd Wynford Ellis Owen ei fod yn bendant nad y mudiadau crefyddol yw'r rhai gorau i helpu yn hyn o beth:

"Dydi crefydd yn helpu fawr ddim - a dweud y gwir mae crefydd yn gwneud pethau yn llawer iawn gwaeth ac wedi gwneud pethau yn llawer iawn gwaeth dros y blynyddoedd," meddai.

Dywedodd ei fod ef yn sôn am helpu y rhai sy'n dioddef i ddod o hyd i "ffordd yn ôl at y Creawdwr ei hun" .

"Mae'n bosib osgoi y scenic route at Dduw trwy'r crefyddau," meddai a dal i gael perthynas uniongyrchol â Duw.

"Ond nid perthynas trwy grefydd," meddai.

Beio dirwest
Hefyd yn cymryd rhan yn yr un drafodaeth ar Fwrw Golwg yr oedd Alun Daniel, Cyfarwyddwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau eraill a John Rowlands sy'n sgrifennu am win yn y cylchgrawn Barn

Beiodd ef y pwyslais a fu yn y gorffennol ar ddirwest a llwyr ymwrthod am y broblem sy'n bodoli heddiw.

"Mae Cymru yn waeth oherwydd dylanwad y mudiad dirwest yn Oes Victoria," meddai.

"Dwi'n cofio fy hun pan oeddwn i'n mynd i'r coleg doeddwn i erioed wedi cael dafn o alcohol i'w yfed adref o gwbl a dwi'n meddwl pan fo teuluoedd wedi arfer cael ychydig o win efo'u bwyd . . . dydyn nhw ddim yn debyg o fynd wedyn i'r coleg a mynd dros ben llestri a mynd allan i feddwi ac ati," meddai.

Am y broblem ymhlith yr ifanc iawn beiodd broblemau cymdeithas, tor priodas ac addysg ar chwâl.

"Mae yna broblemau erchyll yn y wlad yma ac mae'n rhaid mynd i'r afael â'r rheini ond sut mae gwneud hynny dydw i ddim yn gwybod," meddai.

"Ond mae yfed gwin yn gymedrol yn berth hollol gymdeithasol a gwar iawn," ychwanegodd.

Yn bosib byw heb alcohol
Dywedodd Alun Daniel hefyd nad yw pwyslais ei fudiad yntau ar lwyr ymwrthod bellach ond eu bod yn pwysleisio nad oes angen llithro i or ddibyniaeth.

"Beth mae'r Cyngor yn ei annog yw ei bod yn bosib byw bywyd heb ddefnydd o alcohol ac yn sicr fywyd llawn a hapus heb gamddefnyddio cyffuriau," meddai.

Oherwydd bod yn rhaid derbyn fod alcohol yn rhan annatod o fywyd cymdeithasol erbyn hyn dywedodd mai gwaith y Cyngor yw datgelu y peryglon sy'n dod o gamddefnyddio a gorddefnyddio alcohol ac i'r diben hwnnw fod y Cyngor yn awyddus i gydweithio ag asiantaethau eraill.

"Rhaid sefydlu partneriaeth gyda'r asiantaethau eraill a chyda'r Cynulliad yn arbennig ac wedyn gweithio drwy'r Cynulliad a thrwy lywodraeth leol i drafod fel maen nhw yn symud i ganiatáu trwyddedau ar gyfer gwerthiant," meddai.

Dywedodd Wynford Ellis Owen fod oddeutu chwech y cant o'r gymdeithas a thuedd i fynd yn gaeth i alcohol.

"Gyda nhw mae'r broblem," meddai. "Mae'r rhelyw yn gallu trin y cyffur yma yn rhesymol ond mae yna yr ychydig bach yma sy'n methu a chyda nhw mae'r problemau yn amlach na heb."




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy