BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Croes Testament newydd i'r Albania newydd
Goleuni newydd yn Albania
Y mae gwlad a oedd ar un adeg yn swyddogol atheistaidd erbyn heddiw yn berchen cyfieithiad newydd o'r Testament Newydd ac yn edrych ar ddulliau o ledaenu y neges Gristnogol.

A dywedodd gweinidog o Gymru sydd newydd ymweld ag Albania ei fod ef yn obeithiol ynglŷn â dyfodol crefyddol y wlad.

Yn cael ei holi ar Bwrw Golwg Mai 29, 2007, dywedodd y Parchedig Dafydd Job o Fangor iddo ymweld â'r wlad er mwyn mynychu cynhadledd i 150 o fyfyrwyr Cristnogol o brifysgolion y wlad.

gwrando Dafydd Job yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg Ebrill 29, 2007.

Brwdfrydig a llawn ffydd
"Pobl ifainc frwdfrydig, llawn ffydd, yn ceisio gweithio allan eu ffydd a sut y bydden nhw yn gallu cyfrannu at eu gwlad wrth iddi wynebu cyfnod newydd," meddai.

"Yr oedd Albania yr unig wlad oedd yn swyddogol atheistig [nes] daeth y chwyldro yn 1991 [ac wedi hynny] aeth yna rai i mewn i geisio rhannu'r efengyl ac roedd y bobl yn awyddus iawn i glywed," meddai.

"Ac un o'r rhai cyntaf i gredu oedd dyn sy'n awr yn arwain y gwaith [ymhlith] myfyrwyr yno ac yn rhywun arbennig iawn," ychwanegodd.

Dysgu Groeg
"Ac ymhlith pethau eraill fe benderfynodd o rai blynyddoedd yn ôl nad oedd cyfieithiad iawn o'r Beibl gan yr Albaniaid felly fe gymerodd flwyddyn allan i ddysgu Groeg y Testament Newydd ac ymroi, gydag un sy'n perthyn i eglwys efengylaidd a chael rhywun yn cynrychioli'r Eglwys Gatholig a rhywun yn cynrychioli'r Eglwys Uniongred - ac mae'r Testament Newydd yn cael ei gyhoeddi fis Medi eleni," meddai.

Dywedodd hefyd mai ychydig iawn o amgyffred ysbrydol a fodolai yn Albania oherwydd i seciwlariaeth fod mor eithafol yno yn y gorffennol.

"Fe aeth rhai i mewn o wahanol wledydd i geisio rhannu'r efengyl ond yr oedden nhw'n wynebu rhagfarn fawr yn erbyn ffydd o unrhyw fath," meddai.

"Ond ar y llaw arall yr oedd yna lawer yn teimlo fod y Llywodraeth mor bwdr yr oedden nhw'n dechrau dangos diddordeb ac mae'r eglwysi wedi codi ac mi fu yna gyfnod o dyfiant eithaf yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf ond mae'n arafu dipyn rŵan," meddai.

Ymddengys hefyd mai dim ond ychydig o gydweithio swyddogol sydd yna rhwng y gwahanol eglwysi ond dywedodd Dafydd Job "nad ydyn nhw ychwaith yn gweithio yn erbyn ei gilydd!"

"Maen nhw, efallai, yn cario mlaen yn annibynnol ar ei gilydd ac yn anwybyddu ei gilydd ond mae ambell i brosiect fel prosiect y Testament Newydd," meddai.

Serbia'n wahanol
"Mae pethau'n wahanol iawn mewn lleoedd fel Serbia [lle mae'r] Llywodraeth yn goddef yr Eglwys Uniongred ond yn eithaf caeth yn erbyn yr eglwysi eraill," meddai.

"I'r eglwys fûm i'n i gweld yno yr oedd y Llywodraeth yn anfon ysbiwyr i mewn, yn gwrthod caniatâd i adnewyddu adeiladau ac yn y blaen. Mae'n gaeth iawn, iawn," meddai.

Ond am Albania dywedodd:
"Os cant lywodraeth sefydlog mi fydd y wlad yn datblygu ac yr oedd gweld 150 yn awyddus i ymroi i wleidyddiaeth ac i osod y wlad ar ei thraed yn rhywbeth rhyfeddol iawn."




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy