Mae mwy a mwy o bobl ifanc yn sefyll arholiadau addysg grefyddol yn yr ysgol.
Ar Bwrw Golwg fore Sul, 19 Awst, 2007, bu John Roberts yn holi Angharad Jones, Luke Dorrington a Cerian Griffiths o Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, Ynys Môn, a'u hathrawes, Mefus Jones, am apêl y pwnc yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Lefel A yr wythnos cynt.
Mefus Jones, Angharad Jones, Luke Dorrington a Cerian Griffiths yn siarad gyda John Roberts ar Bwrw Golwg fore Sul, 19 Awst, 2007.
"Mae'r pwnc wedi newid lot er pan oeddwn i yn yr ysgol am nifer o resymau. [Heddiw] mae'r pwnc yn rhoi cyfle i ddisgyblion astudio sawl crefydd wahanol," meddai Mefus Jones.
"Cristnogaeth yw'r brif grefydd ond mae cyfle i astudio crefyddau'r byd," meddai gan ychwanegu fod ei disgyblion chweched dosbarth hi yn astudio Bwdïaeth, Iddewiaeth a Moeseg.
Herio pobl ifainc
"Mae'r pynciau yma yn herio pobl ifanc ac yn rhoi sgiliau byw pwysig iawn iddyn nhw. Mae o'r math o bwnc sy'n hybu datblygiad ysbrydol, moesol a chymdeithasol," meddai.
Dywedodd mai peth pwysig arall yw fod y pwnc yn rhoi dealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau yn lleol, yn genedlaethol ac o fewn y byd ehangach
"Mae'r pwnc hefyd yn rhoi cyfle inni edrych ar fyd ffilm ac rydym ni'n edrych ar ddogfennau ar y teledu ac mae byd cerddoriaeth yn dod i mewn i grefydd ac mae hynny yn gwneud y pwnc yn fwy poblogaidd," meddai.
"Pan oeddwn i yn yr ysgol 'Ysgrythur' oedd y pwnc lle'r oeddem ni'n astudio'r Hen Destament a'r Testament Newydd ac wrth gwrs mae hynny'n dal yn bwysig ond yr ydym yn edrych yn eangach ac yn edrych ar grefyddau a chredoau gwahanol.
"Yn bersonol rydw i wrth fy modd efo'r pwnc achos mae o'n rhoi cyfle imi deithio o gwmpas y byd. Rydw i newydd fod yn Sri Lanka ac yng Ngwlad Thai, Burma a Laos oherwydd y brif grefydd rydw i'n ymddiddori ynddi hi ydi Bwdïaeth ac mae'n braf medru rhannu fy mhrofiadau i gyda'r disbyblion," meddai.
Diddorol
Dywedodd Luke Dorrington mai anffyddiwr oedd ef;
"Ond mae'n ddiddorol iawn sbïo i mewn i fywyd pobl grefyddol a gweld sut maen nhw yn byw eu bywyd a sut maen nhw yn teimlo am bethau yn y byd heddiw," meddai.
Yr oeddent o'r farn hefyd ei bod yn bwysig yn y byd sydd ohoni ddeall y ffordd y mae pobl eraill yn byw "a sylweddoli nad yw pawb fel ni".