BBC HomeExplore the BBC

LLUN
16eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
Chris Bryant Addysg rhyw
Galw am 'angor' safonau moesol y Cristion
" Bu ymateb cymysg i sylwadau gan Chris Bryant AS y Rhondda yn dweud y gellir gostwng nifer y plant ysgol sy'n cael eu hunain yn feichiog trwy anfon pecyn i rieni efo cyngor ar fywyd rhywiol.

Crybwyllwyd hefyd y syniad o roi condoms am ddim i blant ar eu pen-blwydd yn 11 oed.

Bu'r Dr Olwen Williams, sy'n rhedeg clinig iechyd rhyw yn ardal Wrecsam, a Meirion Thomas o Eglwys Efengylaidd Casnewydd yn trafod y broblem gyda John Roberts ar Bwrw Golwg ddydd Sul 10 Ionawr, 2008.

gwrando Detholiad o sgwrs y Dr Olwen Williams a Meirion Thomas gyda John Roberts ar Bwrw Golwg ddydd Sul 10 Ionawr, 2008


Pwysigrwydd medru siarad
gyda phlant

Cymeradwyodd y Dr Olwen Williams awgrym Chris Bryant o ddarparu pecyn gwybodaeth i rieni.

"Mae'n rhaid i rieni gael y ddawn i fedru siarad gyda'u plant am ryw, am fod yn feichiog ac am afiechydon rhywiol ac mae'n rhaid i hynny ddigwydd cyn i blant fynd trwy 'puberty' achos pan fod 'puberty' yn digwydd dyna pryd mae chwant rhyw yn dechrau," meddai.

Dysgu plant
i ddweud 'Na'

Pryder Meirion Thomas, meddai, yw fod y drafodaeth yn aml yn digwydd yn annibynnol ar werthoedd moesol Cristnogol ac ar adeg "pan fo'r cwlwm priodasol a ffyddlondeb a theyrngarwch o fewn y cwlwm hwnnw yn destun gwawd".

Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd annog plant i ddweud "Na" wrth gyfathrach rywiol gan ddweud mai "braidd yn cyffwrdd" y mae'r pecynnau a'r syniad hwnnw a'u argyhoeddi o bwysigrwydd hunan barch a hunan ddisgyblaeth.

"Hefyd, y cefndir arall yw bod yn rhaid dysgu plant a phobl ifainc a ninnau fel oedolion fod canlyniadau yn dilyn dewisiadau a phenderfyniadau a dydi hynny ddim yn digwydd yn y rhan fwyaf o'r gwefannau rydw i wedi bod arnyn nhw yr wythnos diwethaf," meddai.

Cyfeiriodd Olwen Williams at ddiffygion ymgyrchoedd 'abstain' a 'delay' yn yr Unol Daleithiau:

"Dydyn nhw ddim wedi rhoi gwybodaeth dim ond dweud wrth bobl am beidio â chael rhyw cyn priodas ac maen nhw wedi landio'i fyny mewn trafferthion gwaeth," meddai.

Anghytunodd Meirion Thomas gan ddweud bod cryn wybodaeth ochr yn ochr a'r "anogaeth, Cadwch eich hun yn bur".

"Ac mae yna strategaeth ddiddorol iawn ynglŷn â helpu plânt i gael hunan barch, hunan ddisgyblaeth, beth mae'r ymatal yn mynd i'w olygu a bod gwyryfdod yn rhywbeth i fod yn falch ohono, yn rhywbeth i fod yn browd ohono ac felly mae'n anghywir dweud nad oes dim gwybodaeth," meddai.

Problem fawr
yng Nghymru

Dywedodd Olwen Williams fod Chris Bryant yntau yn rhoi yr un pwyslais ar ymddygiad moesol a chrefyddol â'r hyn a ddymunai Mr Thomas:

"Dwi'n meddwl fod gennym ni broblem fawr yng Nghymru. Lle'r ydw i'n gweithio yn Wrecsam mae'r LHB uchaf o feichiogrwydd mewn pobl ifainc.

"Rydan ni wedi gwneud llwythi o bethau gwahanol, mae'n rhaid meddwl am bethau newydd; does yna neb ym Mhrydain wedi anfon pamffled allan i bobl ifainc, i rieni, eto.

"Mae o wedi digwydd ar y Cyfandir. Mae pob dim ydan ni wedi bod yn trio'i wneud, dydi o ddim wedi bod yn llwyddiannus.

"Yr ydan ni'n gwybod bod oed cael rhyw [am y tro] cyntaf wedi disgyn a bod 50% o rai 16 yng Nghymru wedi cael rhyw yn barod - dyna lle'r ydan ni eisiau newid pethau," meddai.

Dywedodd y Dr Meirion Williams nad oes gan bobl ifainc yr"angor moesol" angenrheidiol pan yw'r holl wybodaeth ryw sy'n cael ei chynnig "wedi ei hysgaru o safbwyntiau moesol".

"Ac felly rydych chi'n mynd i gael y problemau yma," meddai gan ychwanegu:

"Rhaid angori'n hunain fel oedolion gyntaf, heb sôn am ein pobl ifainc ni, mewn gwerthoedd sydd yn dod o'r safbwynt Cristnogol clasurol yna."

Newid yn rhy
gyflym i gymdeithas

Awgrymodd Olwen Williams mai gwraidd y broblem yw i offer atal cenhedlu ac agweddau tuag ar ryw ddatblygu/n rhy gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac "mewn ffordd sy'n gyflymach na'r hyn allodd cymdeithas ddygymod ag ef."

"A dydym ni ddim wedi cael 'grasp' ar beth sydd wedi bod yn digwydd inni ac felly wedi mynd un ffordd [a dydi pobl] ddim yn gwybod sut mae mynd o gwmpa dweud wrth bobl ifainc pam nad yw'n beth da iddyn nhw wneud.

"Os ydych chi'n edrych faint ydi oed rhiant plentyn 11 yr ieuengaf fyddai ei rieni ydi 37 . . . ond sbïwch chi'n nôl . . . 11 mlynedd pan oeddan nhw yn ysgol doedd yna fawr ddim byd yn digwydd felly does gan y rhieni ddim y doniau i siarad efo'r plant ," meddai.
Cytunodd Meirion Williams a'r angen i roi cymorth i rieni ond ychwanegodd mai'r hyn sy'n bwysig yw safbwynt moesol y cyngor hwnnw.

"Mae eisiau cryfhau cyfathrebu rhwng rhieni a phlant yn arbennig yn eu harddegau ond pwy sy'n gwneud hynny a beth yw'r safbwyntiau gwaelodol maen nhw'n mynd i angori eu dadleuon arnyn nhw?" meddai.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy