BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bwrw Golwg
William Morgan Darllen y Beibl ddydd a nos
Darllenathon hynod Aberaeron
Ni fu prinder pobl i gymryd rhan mewn ymdrech i ddarllen Beibl William Morgan yn ddibaid, ddydd a nos, am bedwar diwrnod yn Aberaeron.

Mae'r 'darllenathon' hynod yn rhan o ddathliadau 200 mlynedd sefydlu'r dref ar arfordir Ceredigion.

Dechreuodd y darllen am hanner nos, ddydd Sul Gorffennaf 23, 2007, i barhau tan chwech y nos Iau wedyn, gyda 270 o ddarlleniadau ugain munud yr un - o adnod gyntaf Genesis i un olaf y Datguddiad.

Eglurodd y trefnydd, Mary Davies, mai syniad Joan McDonald oedd o.

Wedi blynyddoedd yn byw yn ne Iwerddon, yn wraig i ficer, symudodd hi i fyw yn Aberaeron lle mae'n treulio ei hamser yn astudio gwaith William Morgan yn y Brifysgol yn Llanbedr-pont-Steffan.

"Mae hi ar y cyngor tref gyda fi; ac fe ddywedodd ei bod eisiau gwneud rhywbeth i wneud y Beibl yn gyhoeddus ac am ddefnyddio cyfieithiad William Morgan oherwydd ei bod hi'n sylweddoli na fyddai Cymru fel mae Cymru nawr oni bai fod y Beibl wedi ei gyfieithu' i'r Gymraeg ac ar gael i'r dyn cyffredin - i bawb," meddai Mary Davies, yn cael ei holi gan John Roberts ar Bwrw Golwg.

"Bydd pawb yn y dref yn clywed y Beibl, ddydd a nos," ychwanegodd.

gwrando Rhan o sgwrs Mary Davies gyda John Roberts ar Bwrw Golwg, Gorffennaf 22, 2007.

Dywedodd na fu anhawster perswadio pobl i gymryd rhan:
. "Mae pobl mor awyddus i wneud e . . . maen nhw'n teimlo mor gyffrous ynglŷn â'r peth, maen nhw'n cwympo dros ei gilydd i wneud e," meddai.

"Ac os nad ydyn nhw mor hyderus yn darllen yn gyhoeddus rai o'r darnau caled yn y Beibl maen nhw'n dweud, 'Fe wnâi e dri o'r gloch y bore pan na fydd llawer yn gwrando arnaf i'.

"Ac rwyf innau'n eu hatgoffa nhw y bydd yr un mwyaf pwysig oll yn gwrnado ac mae Ef yn gwybod y geiriau i gyd felly does dim ots os ydym ni'n cwympo drostyn nhw!" meddai.

Ac ymddengys nad capelwyr ac eglwyswyr yn unig sy'n moyn darllen:
"Fe fyddwn i'n meddwl, mae mwy na hanner y bobl sy'n fodlon darllen, dydyn nhw ddim yn mynd i'r capel neu fynd i'r eglwys," meddai.

"Ond mae hyn yn dangos fod Duw yn bwysig iddyn nhw neu fydden nhw ddim yn dod mas i ddarllen - yn enwedig y rhai hynny sy'n dod ganol nos," ychwanegodd.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy