|  |
|
|
 |
Taro'r Post ar C2
Dadlau yn y 'Steddfod?
Dylan Jones
Oes 'na rhywbeth wedi'ch gwylltio yn ddiweddar? Oes 'na rhyw bwnc 'da chi'n teimlo'n gryf amdano? Ydych chi'n credu fod y byd wedi mynd a'i ben iddo? Wel, mae'n bosib mai dyma'r cyfle 'da chi di bod yn aros amdano!
Wrth i fis Awst agosau mae'n amser edrych tua'r Wyddgrug lle fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal rhwng Awst 4-11, a bydd rhaglen Taro'r Post yn recordio rhaglen arbennig o'r Gorlan ym Maes B fydd i'w chlywed ar C2 yn ystod yr wythnos.
Taro'r Post yw'r rhaglen drafod sydd ymlaen bob diwrnod ar Radio Cymru gyda'r hyfryd Dylan Jones, a'r newyddion da ydy fydd y dyn ei hun yn yr Eisteddfod yn trafod y pynciau llosg sy'n eich poeni chi.
Ond cyn hynny mae Dylan a'r tîm yn awyddus i glywed beth sy'n poeni gwrandawyr C2. Pa bynciau fyddech chi'n hoffi eu clywed yn cael eu trafod ar y rhaglen? Os na rywbeth yn eich corddi?
Cysylltwch â'r tîm drwy anfon e-bost at tarorpost@bbc.co.uk. Cofiwch adael eich enw a'ch manylion cyswllt fel y gall y tîm gysylltu â chi...
|
|
|