|  |
|
|
 |
Rhys Mwyn ar C2
Rhaglen Arbennig Hydref 12, 2006
Rhys Mwyn
Darlledwyd rhaglen arbennig ar C2 nos Iau, Hydref 12 2006, pan wahoddodd Lisa Gwilym y svengali Rhys Mwyn i stiwdio C2 ym Mangor i recordio rhaglen arbennig. Yn ystod y rhaglen datgelwyd peth o gynnwys ei hunangofiant tanllyd - Cam o'r Tywyllwch - sy'n cael ei gyhoeddi ar Dachwedd 3ydd, yn ogystal a hanes ei gyfeillgarwch â John Peel.
Cyfarfu y ddau am y tro cyntaf pan aeth Rhys Mwyn i Lundain gyda chopi o feinyl amylgyfrannog Recordiau Anrhefn - Cam o'r Tywyllwch - i'r DJ chwedlonol.
Y casgliad yma oedd ble y dechreuodd diddordeb John Peel mewn cerddoriaeth bandiau o Gymru, a dros y blynyddoedd a ddilynodd, datblygodd cyfeillgarwch rhwng y ddau, gyda'r DJ o Radio 1 yn ffonio Rhys Mwyn yn rheolaidd i holi am wybodaeth am fandiau, neu i gael gwybod sut i ynganu enwau lleoedd neu fandiau.
Gallwch glywedd clipiau arbennig o raglen Rhys Mwyn drwy glicio ar y lincs isod:
Dyddiau Cynnar
Punk Ifanc
Anrhefn
Sîn Tanddaearol
Catatonia
Heddiw
 Lluniau Rhys Mwyn
 Playlist y RhaglenPa Draciau Chwaraewyd? |
|
|