BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Newyddion Magi D
Y goss diweddaraf o'r SRG!
09 Mai 2007

Magi D

Ers rhai misoedd bellach mae Magi D wedi bod yn eich cadw mewn cysylltiad a'r holl goss diweddardaf o'r SRG ar C2 bob nos Iau hefo Daf Du. Bellach gallwch ddarllen y cyfan ar ei blog wythnosol ar y wê!

Nos Iau, 03 Mai 2007

Albym Newydd Gwyneth Glyn
Yn dilyn llwyddiant ei halbym gyntaf, 'Wyneb Dros Dro', bydd albym newydd Gwyneth Glyn - 'Tonnau' - yn dod allan ar label newydd sbon Recordiau Gwinllan - ar Fai'r 25ain.
Recordiwyd 'Tonau' rhwng Rhagfyr 2006 ac Ionawr 2007 yn Stiwdio Bryn Derwen, Bethesda. Cynhyrchwyd yr albym gan y canwr-gyfansoddwr Alun Tan Lan, sydd hefyd yn canu a chwarae offerynnau arni. Peiriannwyd ac ôl-gynhyrchwyd y casgliad gan David Wrench.

Albym Something Personal
Mae'r band o ardal Caernarfon tua thri-chwarter ffordd trwy recordio eu halbym newydd, fydd gyda 10 trac arni. Yn ôl y band, enwau'r traciau fydd:

  • Pwysa' gwaed
  • Byd Heb Ddawn
  • Rhyw Ddiwrnod
  • Ofnau
  • Pen draw'r byd
  • Lladd ar
  • Byr Rhybydd
  • Mae'n Ddistaw
  • Uffar o beth and
  • Yr unig un
    Ar hyn o bryd, enw'r albym fydd 'Wedi Chwalu yn y Cymylau' - ond efallai y bydd yn newid cyn i'r CD ymddangos yn y siopau ddiwedd Mai / ddechrau Mehefin. Gwyliwch y gofod hwn!

    Ychwanegiadau i lein-yp y Faenol
    Yr wythnos yma cadarnhawyd y bydd Frizbee a Steve Eaves yn ymuno yn nathliadau penblwydd Radio Cymru yn 30 oed yng Nghwyl y Faenol eleni.
    Eisioes wedi eu cadarnhau i chwarae ar y noson, sy'n digwydd ar Awst 27, mae Bryn Fon, Huw Chiswell, a'r Sibrydion - ac mae rhagor o enwau mawr i gael eu cyhoeddi yn fuan... bydd yn noson FAWR!

    Gruff Rhys yn DJ-io
    Nos Sadwrn, Mai 12fed, bydd Gruff Rhys yn porri trwy ei gasgliad recordiau, ac yn gwneud set DJ-io yn Callaghans, Caerdydd.
    Hefyd yn DJ-io a pherfformio ar y noson fydd Andy Votel, Dom Thomas, Carl Forecast, Samandtheplants a Cate Le Bon.

    Y Crimea yn gwneud hanes
    Mis yma bydd The Crimea - gyda'r Cymro Owen Hopkin ar y drymiau, yn gwneud hanes, trwy fod y band adnabyddus cyntaf i roi albwm newydd i ffwrdd am ddim ar y wê.Er I'r band wario miloedd yn ysgrifennu a recordio'r albym, bydd pawb yn gallu lawrlwytho'r albym 'Secrets Of The Witching Hour' am ddim
    Siaradodd Owen a ni ar y rhaglen am yr albym, ac hefyd am eu perfformiadau yn Beijing - yn dilyn gwahoddiad i ganu yno gan Llywodraeth Beijing.

    Teulu'r Sibrydion yn tyfu
    Mae'r Sibrydion wedi cyhoeddi ar eu MySpace nhw bod aelod newydd i'r band. Mae Dafydd Nant - sy'n chwarae drymiau i'r band pync o Ben Llyn, BOB, yn ymuno â Sibrydion i daro'u drymiau nhw hefyd tro bo Osian Gwynedd yn symud i chwarae'r allweddellau.
    Mae Dafydd hefyd wedi bod yn chwarae'r drymiau i Ashokan, ar ôl i Slug benderfynu gadael y band tua pythefnos yn ol.

    Gwylwch y Gofod - Yr Ods
    www.myspace.com/yrods
    Dyma ddywedodd y Rods am eu hunain:
    "Ffurfwyd Yr Ods yn ystod diwedd tymor cyntaf y coleg yn Aberystwyth 2006, achos ein bod ni wedi sylweddoli nad ydym yn gwneud dim byd o werth, er mwyn tynnu sylw oddi ar y ffaith bo nin diota a gwasdraffu amser, penderfynodd Gruff Pritchard o Lanberis, a Griff Lynch o Fangor gyfansoddi caneuon.
    Mae y rods yn mynd i chwalu dy ben, sbeitio dy dad, a rhamantu dy fam, BYDD BAROD!"
    Ewch draw i www.myspace.com/yrods i glywed caneuon Y Rods ac i gael mwy o wybodaeth.

    I ddarllen newyddion Magi o'r wythnosau a fu, cliciwch yma.

  • Gwrando Eto

    Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

    Podlediad

    Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

    Gwylia hwn!

    Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



    Amserlen C2:
    Wythnos y Cyflwynwyr

    Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy