|  |
|
|
 |
Brwydr y Bandiau
Amheus yn ennill cystadleuaeth 2007!
Amheus
Brwydr Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2 Radio Cymru
Llongyfarchiadau mawr i Amheus o Lanymddyfri am ennill y gystadleuaeth eleni, a diolch yn fawr i'r holl fandiau a gymerodd rhan. Cliciwch yma i weld mwy am noson fawr y rownd derfynol a ddarlledwyd ar C2 ar Ebrill 25.
Proffeiliau y Bandiau Y Rownd Derfynol
Y Rownd Derfynol Pwy a phryd?
Lluniau Y Rowndiau Rhanbarthol
Pwy fydd y Radio Luxembourg, Frizbee, Euros Childs neu'r Genod Droog nesa'? Wyt ti'n aelod o fand? hoffet ti -
Recordio sesiwn i raglen C2 ar Radio Cymru?
Perfformio'n fyw yn Maes B, Eisteddfod 2007
Ymddangos mewn Gigs Mentrau Iaith Cymru a Taith C2 Bandit 2007?
Perfformio ar raglen deledu Bandit ar S4C?
Ymddangos ar raglen deledu Uned 5 ar S4C?
Os felly, Brwydr Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2 Radio Cymru yw'r gystadleuaeth i chi - dyma un o'r cystadlaethau mwyaf i ddod o hyd i'r band mawr nesaf.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth bellach wedi pasio, a'r rowndiau sirol a'r rowndiau rhanbarthol wedi cael eu cynnal.
Bydd y rowndiau cyn-derfynnol yn digwydd ar Fawrth 27, 29 a 30, gyda'r rownd derfynol yn digwydd ar C2 ar Radio Cymru ar Ebrill 25ain.
Gallwch weld lluniau o Rownd Sirol Sir Conwy isod:
Rownd Sirol Conwy 07 Mawrth 2007
|

22:02 - 23:02 C2: Lisa Gwilym Lisa Gwilym yn cyflwyno sesiynau acwstig, artist yr wythnos a'r diweddaraf o'r sîn cerddoriaeth.

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!
|
|
|