|  |
|
|
 |
Amledd...
Llanfrothen, Ebrill 2006
Nicky John
Lle a phryd?
Ring (neu'r Brondanw Arms) Llanfrothen
Y Bandiau?
Amledd - gyda Rhian Williams yn canu; Billy Thomson ar y ffidil - (ia, y fo 'di 'ffidlwr' Meic Stevens!!!); Dave Edwards ar y gitâr; Dave 'Taif' Ball ar y bàs, a Steve Roberts ar y drymiau.
Enw'r adolygydd
Nicky John
Awyrgylch?
Yn ôl yr arfer, roedd yr awyrgylch yn y Ring yn ddigon ymlaciol, gyda pawb yn enjoio beint - neu saith(!) - ar ddiwedd eu hwythnos gwaith. Piti braidd i'r band, nad oedd llawer o'r bobl yma wedi ymweld a'r dafarn yn unswydd i wrando ar y band. Serch hynny, roedd digon i'w gweld yn mynd a dod - wedi eu diddori gan arddull 'wahanol' y grŵp.
Trac y noson?
Yn bersonol, dwi'n meddwl mai 'Cân Mabon' oedd trac y noson i mi, gan i'r geiriau 'Yfory y ddaw unwaith eto...'parhau i ganu yn fy mhen am weddill y noson - a'r bore wedyn hefyd!
Disgrifiwch y perfformiad
Roeddwn i'n cydymdeimlo braidd gyda'r band am nad oedd yna llawer o bobl wedi troi allan i'w gweld. Fel mae nifer o berfformwyr yn dweud, mae'n haws o lawer canu o flaen llond ystafell o bobl nac ydi o i ganu o flaen jyst un neu ddau, a dwi'n meddwl fod hynny wedi ymddangos yn wir yn yr achos yma.
Serch hynny, effeithiodd y 'diffyg gynulleidfa' ddim ar fy marn i o'r grŵp, Os ydych chi'n hoffi amrywiaeth o gerddoriaeth, ac am glywed rhywbeth ychydig yn wahanol, yna mae Amledd yn grŵp gwerth gwrando arnynt. Mae yna rhywbeth swynol yn llais trawiadol Rhian Williams - efallai'r ffaith nad ydi hi'n swnio fel un o'r cantoresau arferol 'dan ni 'di arfer magu yma yng Nghymru fach sy'n gwneud iddi sefyll allan.
Roedd clywed Billy Thomson ar y ffidil yn brofiad yn ei hun. Credaf fod y ffaith fod un aelod o'r gynulleidfa wedi mynd draw ato a ysgwyd ei law ar ddiwedd y noson yn dweud digon. Roedd o'n ffantastig.
Uchafbwynt y noson?
Unwaith eto, mae'n rhaid canmol y ffidlwr!!!! Os ydych chi am brofiad ychydig yn wahanol, rhowch gyfle iddyn nhw!
Isafbwynt y noson?
Roedd yn amlwg fod y band - a'r gantores Rhian Williams - yn ymwybodol o'r 'diffyg gynulleidfa'. Roeddwn yn difaru, nad oedd yr ystafell yn llawn dop er mwyn iddynt ymlacio ychydig yn fwy, a mwynhau'r profiad.
Safle Gwe Perthnasol
Gwefan Amledd
|
|
|