Clwb Ifor Bach - 10.03.07
Dafydd Owen
Adolygydd?
Dafydd Owen
Lle a Phryd?
Clwb Ifor Bach - 10.03.07
Bandiau?
Radio Luxembourg, Spencer McGarry Season (and the Werewolves), Little My
Awyrgylch?
Neshi gyrraedd y gig yn eitha cynnar, ond efo lot wedi ymuno yn y ffansi
dress, odd yr awyrgylch yn eitha hwyliog o'r cychwyn. Erbyn Spencer Mc Garry
ddod ymlaen roedd y lle yn llawn dop, efo'r tocynnau wedi gwerthu allan cyn
i Radio Lux fod yn agos at y llwyfan.
Trac y noson
Tell Me What's Shaking (sydd ar eu MySpace) gan Spencer McGarry Season. Mae hynny achos doedd yna run trac Radio Lux yn sefyll
allan yn fwy nag unrhyw un arall.
Disgrifiwch y perfformiadau
Little My
Arcade Fire llac iawn yw'r disgrifiad gora' allai roi i'r band yma. Roedd y
band i gyd wedi ymuno yn y fancy dress, chwarae teg iddynt, ond gyda hogyn a
hogan yn canu iddynt yn lot rhy ddistaw ac angen creu cyfalawon, a gweddill
y band yn newid eu hofferynnau bob yn ail can, a chaneuon nad oedd gan unrhyw
'hook' iddynt roedd hi'n annodd dod i fwynhau'r band. Roedd y teimlad o
hwylusdod ond yn para hyn a hyn, a chaneu bod nhw yn eitha llac, doedd y
caneuon ddim yn eu cario. Yn anffodus, ni wnaeth y sain eu helpu chwaith,
gan fod y lefelau allan ohoni yn llwyr. Ond, ar ol dweud hyn i gyd, gydag
amser dwi'n siwr gallai'r band yma wella. Y teimlad cefais wrth wylio'r band
oedd "Dwi di gweld gwaeth, ond dwi di gweld lot gwell fyd".
Spencer McGarry Season (and the Werewolves)
Roedd Spencer McGarry a'i fand hefyd wedi gwisgo fyny fel anifeiliaid,
gyda'r canwr fel teigr a'r drymar a'r basydd fel Werewolves. O'r gan gynta,
roedd hi'n amlwg fod nhw yn fand tyn iawn, gyda set-yp llawer symlach na
Little My, a basydd a drymar da iawn i gadw'r band i fynd. Ma nhw'n chwara
roc syml, ac yn sgwennu caneuon efo riffs ac alawon caniadwy. Fe wnaeth y
band yma argraff arna i a llawer o'r gynilleidfa, ac yn siwr, byddai gen i
ddiddordeb mynd i'w gweld eto. Yn anffodus, fe wnaeth gitar y gitarydd dorri
yn y gan cyn yr un ola', gyda'r ail gitar yn gweithio tan ddiwedd y gan
honno. Ond fe wnaethon nhw gario mlaen, a gorffen hefo can dda iawn.
Radio Luxembourg
O ni di clwad lot o betha da am eu set yn cefnogi Euros Childs ar ei daith
yn ddiweddar, ond don i ddim wedi disgwl set mor dda ac y cafwyd. Gyda system
sain ffantastig Clwb Ifor Bach, a'r ffaith fod nhw yn fand tyn iawn yn
barod, golygodd hyn fod y caneuon yn dod trwodd yn dda iawn. Mae'r band yn
sgwennu caneuon newydd yn aml, ond yn cymysgu yr hen gyda'r newydd, gan
orffen efo Weapons Gaffey a chanu eu can enwoca hyd yn hyn, Lisa, Magic a
Porva yn ail. Fe wnaeth y band ddod ymlaen ar y llwyfan hefyd wedi gwisgo
fyny ond ddim fel anifeiliaid. Roedd Gaffey y gitarydd wedi gwisgo dillad
llachar a lliwgar gyda "bowler hat" ar ei ben; Meilyr, y canwr a'r basydd,
wedi gwisgo jaced ledr, sbectol haul a het ddu; Dylan efo siwt o'r 60'au,
ac yn anffodus ni welais yn iawn be oedd Ben y drymar yn wisgo. Gyda'r band
yn lawnsio eu EP diweddara, dyma nhw yn cychwyn y set gyda Mostyn & Diego,
sef y gan sydd wedi cael ei chwarae ar Radio 6 music a gan Zane Lowe ar ei
raglen Radio 1. Yn amlwg, mae'r band yma am lwyddo yn y dyfodol, pa bynnag
iaith maent am ddewis canu ynddo.
Uchafbwynt y noson
Set Radio Luxembourg, a Gaffey yn dod ar y llwyfan ar ol pawb weiddi "Mwy,
mwy!", ond yna datgan taw "Dim ond dod i nol can fi o ni, dim mwy!"
Y peth gwaethaf am y noson?
Dim digon o CD's ar gael. Odd E.P. Radio Lux di gwerthu allan cyn i'r band
cynta' orffan.
Achlysur Roc a Rol
O ni am ddweud taw Dyl Mei yn taflyd ei hyn lawr y grsiau oddo, ond mi natho
gwyno fel merch am y peth wedyn, sydd ddim yn roc a rol iawn. Felly mashwr
Radio Lux yn cael security i fynd a nhw allan drwy cefn y llwyfan, yn lle
gorfod mynd trwy'r gynulleidfa.
Beth sy'n aros yn y cof?
Dillad Gaffey ar y llwyfan.
Talent gorau'r noson?
Radio Luxembourg heb os. Gyda tri chwarter y band dim ond yn 20 oed, dim ond
gwella allai'r band. Rhaid rhoid canmoliaeth i Ben y drymar hefyd. Sylwais i
ddim o'r blaen mor bwysig ydyw i'r band, gan roi'r pwer iddynt o gefn y
llwyfan.
Mariciau allan o ddeg
8/10
Un gair am y gig
Blewog.
Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Dim yn benodol, na.
Linciau Defnyddiol
Radio Luxembourg
Spencer McGarry Season
Little My
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am wefannau allanol