|  |
|
|
 |
Mari Lwyd, Neil Rosser
Abertawe, Rhagfyr 2004 Alun Rhys Chivers
Llun gan Chris Reynolds
Lle a phryd
Ty Tawe, Abertawe, Rhagfyr 10fed
Y bandiau
Mari Lwyd, Neil Rosser a'r Band
Awyrgylch
Ar y dechrau, roedd hi'n ddigon ymlaciedig, a'r neuadd ond yn hanner llawn. Wrth i Mari Lwyd fynd o un gân i'r nesaf, cynhesodd y dorf, ac roedd pawb yn curo'r byrddau erbyn diwedd y set. Erbyn i Neil Rosser ddod i'r llwyfan, roedd hi'n amser i ddawnsio. Roedd yr awyrgylch yn wych, er bod maint y dorf yn siomedig. Efallai mai amser y flwyddyn oedd yn gyfrifol am hyn.
Trac y noson
'Nos Fawrth yn Abertawe' gan Mari Lwyd. Daeth yr atgofion nôl am 'Tyrfe Tawe', gan yr ysgrifennwyd hon gan Huw Dylan Owen, prif lais y band (cynt o 'Gwerinos' ac un o drefnyddion y 'Tyrfe'), ar gyfer yr wyl. Profodd hon i fod yn ffefryn gan Neil Rosser ei hun!
Disgrifiwch y perfformiadau
Mae Mari Lwyd yn fand gwerin a ffurfiwyd ar gyfer 'Tyrfe Tawe'. Roedd eu caneuon yn amrywio o werin draddodiadol i glasuron poblogaidd. Roedd gan Dylan lais cyfoethog, wrth fynd o 'Llwydwyll Gwareiddiad Llydaw' i 'Nôl i Gymru'. Roeddynt yn fywiog ac yn egnïol, ac yn boblogaidd iawn ymysg y dorf.Cawsom flas o glasuron Neil Rosser, gydag un yn llifo ar ôl y llall. Dyma berfformiad hyderus unwaith eto gan un o ffefrynnau 'Ty Tawe'. Roedd y rhan fwyaf o'r caneuon oddi ar 'Neil Rosser - Casgliad o Ganeuon 1987-2004', albwm newydd a ryddhawyd ar gyfer Apêl Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006'. Roedd ei ganeuon yn amrywio o jazz i blws i pop i addasiadau o'r Saesneg. Gorffennodd gyda fersiwn o 'Pishyn' gan Edward H. Dafis.
Uchafbwynt y noson
Fersiwn Neil Rosser o'r clasur, 'Rue St. Michel'. Roedd y dorf yn rocio go iawn! Roedd hon yn arbennig i Myfanwy Jones, sydd newydd adael ei swydd fel Prif Swyddog Menter Iaith Abertawe i gymryd swydd newydd.
Y peth gwaethaf am y noson
Gweld cyn lleied o bobl yno. Byddwn wedi disgwyl mwy ar gyfer gig o'r fath yma.
Achlysur Roc a Rôl
Jacob o 'Mari Lwyd' yn gollwng ei 'tipper' wrth chwarae'r bodhran yn ystod 'Ty Coch Caerdydd' - roedd yn rhaid gweld ei wyneb i werthfawrogi'r peth!
Beth sy'n aros yn y cof?
Rhaid dweud fod y symudiadau jiwdo gan Bedwyr o'r Fenter yn eitha' arbennig. Wnaeth Neil Rosser ei hun sylwi ar y rhain!
Talent gorau'r noson
Mari Lwyd - mae dyfodol disglair o'u blaen!
Marciau allan o ddeg
10/10
Un gair am y gig
Gwerinol Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion? Diolch arbennig i Myfanwy ar ei ymadawiad â'r Fenter. Pob lwc iddi yn ei swydd gyda Bwrdd yr Iaith.
|
|
|