BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Adolygiad Gig
Gwyl Glastonbury '07
22-25 Mehefin 2007


Lle a phryd?
Gwyl Glastonbury, 22 - 25 Mehefin 2007.

Adolygydd?
Mari Grug

Y bandiau?
Arctic Monkeys, Amy Winehouse, The Killers, The Kooks, Paul Weller, Paolo Nutini, Lily Allen, Manic Street Preachers, Kaiser Chiefs, Mika, Pete Hoherty, Maximo Park, Super Furry Animals, Radio Luxembourg... gallwn i fynd mlaen trwy'r dydd!

Awyrgylch?
Mwd ym mhobman, fy wellies ar got law ymlaen a ni'n barod am benwythnos o joio!! 2 brif lwyfan, 'The Pyramid' a 'The Other Stage'. Yn bersonol odd lot gwell da fi fod yn gwrando ar gerddoriaeth o'r 'The Other Stage', roedd na fwy o buzz yn perthyn ir llwyfan hwn, a mi allech chi weld y llwyfan yn glir sdim ots ble yn y dorf oeddech chi'n sefyll. Er bod y tywydd ddim wedi bod o blaid yr wyl, nath e ddim effeithio ar yr awyrgylch. Roedd yr awyrgylch drydanol i'w deimlo o'r funud natho ni gamu allan o'r car i'r eiliad pan natho ni sylweddoli bo ni wedi colli allweddu'r car ar y bore dydd Llun!!!

Trac y penwythnos
'Generator' gan yr Holloways! Cân gafodd ei ysbrydoli gan wyl Glastonbury! Ac er ei bod hi'n 11 o'r gloch ar fore ddydd Sul pan natho nhw berfformio, roedd pawb yn rocio!!

Disgrifiwch y perfformiadau (detholiad o'r goreuon)
Maximo Park:
Tro cyntaf I weld Maximo Park odd yn undeb Caerdydd nol ym mis Ebrill a ges i fy ngwefreiddio gyda Paul Smith fel perfformiwr!! Felly ar ôl creu cynnwrf mewn lle mor fach o ni reit awyddus I weld sut fydde Maximo Park yn ymdopi â llwyfan mor fawr a 'The Other Stage' yn Glastonbury! Ond cefais I ddim fy siomi! Odd e llawn cystal, os rhwybeth hyd yn od yn well! Mi odd Paul a'i bowler het ddu yn brasgamu o un ochr ir llwyfan i'r llall yn llenwi'r lle gyda'i bresenoldeb! Odd i set nhw yn llawn cyffro, a nath e ganu cymysgedd o ganeuon o'i ddwy albwn 'A Certain Trigger' a 'Our Earthly Pleasures', gyda 'Apply Some Pressure', 'Our Velocity', 'Books From Boxes' yn sefyll mas.

Pete Doherty:
Llwyfan newydd eleni yn Glastonbury oedd 'The Park a dyna lleoliad gig cyfrinachol Pete Doherty ar brynhawn ddydd Sul. Dim ond rhyw 10 munud yn hwyr oedd Pete, ond chware teg roedd y 'The Park' bellter o bob man arall a rhaid ystyried yr holl fwd oedd yn gwneud hi'n anodd iawn i gerdded yn gyflum! Ond roedd e werth yr aros!! Roedd na dorf lluosog wedi dod ynghyd i weld y 'special guest' yma, a hefyd mi odd na si efallai fyddai Carl Barat o Dirty Pretty Things yn ymuno gyda Pete ar gyfer aduniad Libertines, ond mae'n amlwg mae si yn unig oedd hwn.

Cafon ni gymysgedd o ganeuon Libertines, 'Can't Stand Me Now', 'Don't look back into the Sun' ar dorf yn mynd yn wyllt gyda arwydd-dôn Babyshambles , 'Albian'. Yn cadw cwmni i Pete ar ochr y llwyfan oedd Kate Moss, roedd hi'n gwbod pob gair ac yn ystod set Babyshambles prynhawn dydd Sadwrn nath hi hyd yn od ddod mlan I ganu pwt yn ystod 'La Belle Et La Bete', Beauty and The Beast wedi ei gyfieithu i Ffrangeg... addas iawn!! .Llais bach itha neis ma rhiad fi weud! Cyn Glastonury on i ddim yn siwr beth I neud o Pete Doherty ond ers hynny allai weud bo fi'n ffan!

Mika:
Nos Sul, bwrw glaw a'r blinder yn dechrau cicio mewn a dyma Mika yn camu mlaen i'r 'Other Stage' gyda 2 blow up doll anferthol bob ochr ir llwyfan. Dechreuodd ei set gyda cover o gan Dolly Parton, '9 to 5' an sydyn reit o ni'n teimlo fel nos Wener unwaith eto! Ath e mlaen i ganu caneuon o'i albwm 'Life in Cartoon Motion' gan gynnwys y rhif 1 'Grace Kelly', 'Big Girls' a 'Love Today' a gorffen gyda 'Lollipop'. Ac erbyn hyn roedd y dorf i gyd yn dawnsio, ffans o Mika neu beidio!! Roedd Michael Holbrook Penniman (enw iawn Mika!) yn wirioneddol wych yn fyw â phob nodyn yn i le, hyd yn oed y falcetto yn 'Grace Kelly!' Waw!!

Uchafbwynt yr wyl?
Super Furry Animals ar y prynhawn dydd Gwener yn canu 'Hello Sunshine' ar haul yn dod mas (!!) a Mika yn canu 'Big Girls' nos Sul gyda menyw fawr mewn 'tutu' yn dawnsio gyda fe ar y llwyfan.

Y peth gwaethaf am y penwythnos?
Y tywydd, mwd yn bobman a nath e neud I fi syrthio a chael clais mawr ar fy mhenlin. Bw hw!!!

Achlysur Roc a Rôl?
Kate Moss yn canu nerth ei phen ar ochr y llwyfan pan odd Pete Doherty yn neud set acwstig, gyda can yn un llaw a ffôn symudol yn y llall yn tynnu llunie ohono.

Beth sy'n aros yn y cof?
Menyw hanner noeth wedi ei gorchuddio mewn mwd yn dawnsio i Mika!

Talent gorau'r wyl?
The Holloways!

Marciau allan o ddeg?
9/10, colli pwynt achos y tywydd! Edrych mlan ar gyfer blwyddyn nesa yn barod! Croesi bysedd gai docyn!!!!

Un gair am y penwythnos
Ffandabidosi



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy