Oriel Enwogion

Saunders Lewis

Saunders Lewis

Cenedlaetholwr o Gymro ac un o sylfaenwyr Plaid Cymru

Geni

15 Hydref 1893

Marw

1 Medi 1985

Enwogrwydd

Bardd, dramodydd, hanesydd, beirniad llenyddol ac ymgyrchwr gwleidyddol.

Plaid wleidyddol

Plaid Cymru

Ffaith

Mae'n cael ei adnabod fel y person pwysicaf ym myd llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, er iddo gael ei eni yn Lloegr!

Amdano

Ganwyd Saunders Lewis i deulu Cymraeg yn Wallasey, Wirral. Pan dorrodd y Rhyfel Mawr, roedd yn astudio Saesneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Lerpwl. Adeg y rhyfel bu'n swyddog gyda'r South Wales Borderers ac yna dychwelodd i'r Brifysgol, a chael gradd mewn Saesneg. Yn ddiweddarach cafodd ei benodi'n ddarlithydd Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ym 1925 ef oedd un o sylfaenwyr Plaid Genedlaethol Cymru (a ddaeth i gael ei galw'n Blaid Cymru yn ddiweddarach) ac ef oedd llywydd y Blaid ym 1926, gan barhau yn y swydd am 13 mlynedd. Ym 1936, carcharwyd Saunders Lewis am ei ran yn llosgi Ysgol Fomio'r Llu Awyr ym Mhenyberth, ger Pwllheli.

Wedi iddo ymddeol, parhaodd i ymgyrchu - yn enwedig dros yr iaith Gymraeg. Yn ei araith radio enwog - Tynged yr Iaith - honnodd y byddai'r iaith Gymraeg yn marw oni bai bod gweithredu i'w gwarchod. O ganlyniad i'r araith, crëwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ymgyrchu dros hawliau i siaradwyr Cymraeg ac i helpu'r iaith i oroesi. Ym 1970, cafodd ei enwebu am Wobr Lenyddiaeth Nobel. Mae ei lenyddiaeth wedi ei hysgrifennu yn bennaf yn y Gymraeg ac yn cynnwys dramâu, barddoniaeth, nofelau a thraethodau. Erbyn diwedd ei oes, roedd yn cael ei gydnabod fel un o awduron llenyddiaeth pwysicaf yr ugeinfed ganrif.

Prif ddigwyddiadau

  • 1914-1918 Serves Gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf gyda'r South Wales Borderers.
  • 1922 Ei benodi'n ddarlithydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
  • 1932 Troi at yr Eglwys Gatholig.
  • 1936 Chwarae rhan yn llosgi'r Ysgol Fomio ar safle'r Llu Awyr ar dân ym Mhenyberth, Pen-llŷn. Ei ddedfrydu i naw mis o garchar yn Wormwood Scrubs.
  • 1943 Sefyll yn ymgeisydd am sedd Prifysgol Cymru yn Senedd San Steffan mewn Is-etholiad, ond colli.
  • 1962 Traddodi ei araith radio 'Tynged yr Iaith'.
  • 1970 Ei enwebu am Wobr Llenyddiaeth Nobel.

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.