Sebon yn ffarwelio ag un o'r Hoelion Wyth
Bydd 2012 yn gweld diwedd cyfnod yn hanes Cwmderi wrth i Gwyn Elfyn ffarwelio â'r cymeriad hoffus, Denzil, yn Pobol y Cwm, cynhyrchiad BBC Cymru ar S4C.
Mae Denzil wedi bod yn rhan o fywyd Gwyn Elfyn a'r Cwm ers bron i 28 mlynedd ac mae wedi tystio nifer o ddigwyddiadau hanesyddol yn ystod y cyfnod. Yn enwog am ei lori gaca, mae Denzil wedi bod yn briod ddwywaith - gydag Eileen a'i chwaer Maureen. Yn dad i Sioned a'r diweddar John, mae'r cymeriad wedi profi amseroedd tywyll tra'n parhau i fod yn un o gonglfeini'r gymuned.
Cafwyd tridiau emosiynol iawn yn y stiwdios yn ddiweddar wrth i aelodau'r cast a'r criw ffarwelio â Gwyn. Mae union stori ymadawiad Denzil o dan glo am y tro, ond mae'r golygfeydd olaf - fydd ar y sgrin fach yn ystod mis Ionawr - yn addo bod yn rhai dwys iawn. Yn dilyn ymddygiad diweddar Sioned tuag at Anti Marian. mae Denzil wedi torri ei ferch allan o'i ewyllys gan olchi ei ddwylo ohoni'n llwyr A chyda dychweliad Nansi i'r Cwm mae yna ddigon o bosibiliadau i gadw'r gynulleidfa ar bigau'r drain.
Mae cynhyrchydd y gyfres, Ynyr Williams, yn gwerthfawrogi cyfraniad Gwyn i Pobol y Cwm ac meddai,
"Mae pob cyfres angen storiau mawr, ac mae ymadawiad Denzil yn un o'r rhai mwyaf erioed yn hanes y gyfres. Wedi 28 mlynedd mor odidog i'r gyfres mae'n amser trist ac mae'n ddiwedd cyfnod, ond hefyd mae'n gychwyn cyfnod newydd."
Ym mis Ionawr, mae salwch yn lledaenu ar hyd y pentref a does neb yn siŵr iawn beth yw'r tarddiad - ai twrcwn Penrhewl neu gig rhad Andy sydd ar fai? Mae'r cymdogion yn ofni gadael eu tai ac mae'r sefyllfa'n enbydus. .
Sul-Gwener, Rhagfyr 25-30.
Gyda'r twrcwn ar ganol eu coginio, mae argyfwng yn taro Cwmderi ar ddiwrnod Nadolig wrth i'r pŵer gael ei dorri cyn cinio. Diolch byth am ffwrn nwy y Deri ac mae Ed a'r teulu yn croesawu pawb i ddathlu gyda'i gilydd yn y dafarn leol.
Mae amheuon Denzil yn amlygu wrth iddo weld pa mor sâl yw Marian ac felly'n mynnu bod ei fodryb yn symud i fyw ato'n syth. Wrth iddo sylweddoli bod ei iechyd yn gwella unwaith y mae hi allan o grafangau Sioned, mae'n hollol sicr am ddrygioni ei ferch. Wedi torri ei galon mewn siom, mae Denzil yn gadarn iawn gyda Sioned gan adael dyfodol llwm i'w perthynas.
Sylweddola Dani nad oes llawer o bwrpas dal dig ac o ganlyniad, mae'n edifar am werthu ei siâr ym musnes ABD. Mae Dai yn erfyn arni i brynu ei siâr yn ôl ond mae'n rhy hwyr. Er mawr siom i Dani, mae'r sefyllfa yn derfynol ac ni fydd llawer o groeso i'r cyd berchennog newydd ar yr iard.
Gwobr Iechyd Meddwl
Mae Pobol y Cwm wedi curo EastEnders, Doctors a Hollyoaks. Fe wnaeth y gyfres ennill gwobr categori 'sebon a dramau parhaol' yng Ngwobrau 'Iechyd Meddwl yn y Cyfryngau' elusen Mind. Cafodd y gyfres ei henwebu ar ôl portread yr actores Catrin Mara o iselder ôl-enedigol ei chymeriad, Nesta, yn y gyfres.
Newyddion BBC
Gwobrau Iechyd Meddwl yn y Cyfryngau
Llun


