Cwestiynau cyffredin

Cwmderi

04 Tachwedd 2008

Beth yw Pobol y Cwm?

Opera sebon hynaf y BBC yw Pobol y Cwm, a chyfres a gynhyrchir yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch wylio'r gyfres ar S4C o nos Lun i nos Wener am 20.00, a darlledir rhaglen omnibws ar ddydd Sul.

Ble mae Cwmderi?

Lleolir pentre dychmygol Cwmderi rhywle rhwng Caerfyrddin a Llanelli yng nghanol Cwm Gwendraeth. Mae dau bentre dychmygol arall yn agos i Gwmderi sef Llanarthur a Chwrt Mynach.

Sut mae derbyn S4C?

Gellir gwylio Pobol y Cwm yng Nghymru ar S4C Digidol ar:
Freeview - 4
Cebl - 167
Lloeren - 104
Lloeren (heb danysgrifio) - 134

Gellir gwylio'r gyfres tu allan i Gymru ar:
Lloeren - 134
Nid yw ar gael ar Freeview na Cebl

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan S4C

Gwybodaeth i ddysgwyr

Mae rhai o glipiau fideo y wefan hon ar gael gydag is-deitlau yn Saesneg (ar ochr Saesneg y wefan) ac yn y Gymraeg (ar ochr Gymraeg y wefan).

Darlledir Pobol y Cwm gydag is-deitlau ar S4C. Maen nhw ar gael yn y Gymraeg ar gyfer dysgwyr profiadol ac yn Saesneg ar gyfer dysgwyr newydd drwy eich set deledu neu drwy wasgu'r botwm coch rhyngweithiol. Darlledir yr omnibws ar ddydd Sul gydag is-deitlau Saesneg.

Am ragor o help ar sut i ddysgu Cymraeg, ewch i wefan Learn Welsh y BBC.

Ga' i ysgrifennu sgript?

Mae gwefan y BBC Writer's Room yn cynnwys gwybodaeth helaeth ar sut i fynd ati i gyflwyno sgriptiau ar gyfer Radio a Theledu'r BBC.

Ga' i ymddangos ar y rhaglen?

Os ydych chi eisiau bod yn actor, mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wefan Spotlight. Mae extras yn cael eu castio drwy asiantaethau ac mae'n rhaid iddyn nhw fod yn aelodau o Equity.

Dw i eisiau cysylltu ag aelod o'r tîm cynhyrchu

Os ydych eisiau cysylltu â thim cynhyrchu Pobol y Cwm, dyma'r cyfeiriad:

Pobol Y Cwm
Ystafell C1038A
BBC Cymru
Heol Llantrisant
Llandaf
Caerdydd
CF5 2YQ

Ni all tîm y wefan anfon ebyst na ofynnwyd amdanynt at aelodau staff y BBC nag ychwaith ddatgelu cyfeiriad personol unrhyw aelod o staff.

Cliciwch yma i e-bostio'r tîm.

Dw i eisiau cwyno am Pobol y Cwm neu elfen o gynnwys y gyfres

Er mwyn sicrhau bod eich cwyn yn cyrraedd y bobl a fydd yn gallu ymateb yn briodol iddi, ewch i wefan cwynion y BBC. Ni all tîm gwefan Pobol y Cwm gynghori ar gwynion yn ymwneud â'r rhaglen.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


Fideo

Gwylio

Clipiau fideo - edrych yn ôl a chlasuron y gyfres.

Cymeriadau

anti_marian

Cymeriadau'r Cwm

Dod i adnabod cymeriadau Cwmderi.

Cwis

Y Pentref

Cwis Cwmderi

Faint wyddoch chi am y gyfres a'r cymeriadau?

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.