Ffeithiau am y gyfres

dai_brandon
  • Lleolir Pobol y Cwm yng Nghwmderi, pentre' dychmygol ger Cwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin.
  • Pobol y Cwm yw opera sebon teledu hynaf y BBC.
  • Darlledwyd y bennod gyntaf o Pobol y Cwm ar 16 Hydref 1974.
  • Yn wreiddiol, darlledwyd Pobol y Cwm unwaith yr wythnos yn unig.
  • Ym 1988 dechreuodd y gyfres gael ei darlledu 5 noson yr wythnos a dyma pryd dechreuwyd ail-ddangos y rhaglen gydag is-deitlau Saesneg hefyd.
  • Yn y '70au a'r '80au cynnar, dim ond 30 o benodau y flwyddyn oedd yn cael eu darlledu. Erbyn heddiw mae 260 o benodau'r flwyddyn!
  • Pobol y Cwm yw'r gyfres sy'n denu'r nifer mwyaf o wylwyr ar S4C.
  • Mae nifer fawr o bobl tu allan i Gymru yn gwylio Pobol y Cwm, a dangosir y gyfres i gwmni teledu y lluoedd arfog pan fyddant wedi eu gyrru ymhell o Gymru.
  • Mae Tafarn y Deri wedi bod yn y gyfres ers y bennod gyntaf ym mis Hydref 1974. Yn dilyn tân difrifol ar ddechrau 2008, mae'r dafarn nawr wedi ei lleoli yn stryd fawr Cwmderi.
  • Mae rhai o'r ychwanegolion (extras) wedi bod yn y gyfres am yn hwy na rhai o'r prif actorion.
  • Pan gyflwynir cymeriad newydd, bydd y cyfarwyddwr castio yn trefnu clyweliad gyda sawl actor drwy eu hasiantau.
  • Ysgrifennir bywgraffiad o bob cymeriad newydd er mwyn i'r awduron ddod i adnabod eu cefndir.
  • Un o sêr mwyaf enwog Pobol y Cwm yw Ioan Gruffudd. Dechreuodd ei yrfa ar y gyfres fel y cymeriad Gareth Wyn.

Cynhyrchu

  • Mae'r gyfres yn cael ei ffilmio yn stiwdios y BBC yng Nghaerdydd.
  • Mae tîm cynhyrchu'r gyfres yn cynnwys Cyfarwyddwr, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyntaf (sy'n gofalu am y stiwdio a'r lleoliadau), Cynorthwyydd Cynhyrchu (dilyniant sgript ac amseru), Rheolwr Llawr Cynorthwyol (sy'n gofalu am y props, celfi etc.)
  • Ar gyfer pob bloc o sgriptiau (gwerth 8-9 wythnos o sgriptiau), mae angen Cynhyrchydd, 8 Awdur, 8 Golygydd Sgript, Ymchwilydd a 2 Gynorthwyydd Sgript.
  • Defnyddir chwe set mewnol sydd wedi cael eu creu yn arbennig. Maent yn cael eu newid unwaith yr wythnos i gyd-fynd â storïau'r wythnos. Ond mae ffilmio hefyd yn digwydd ar leoliad mewn tai preifat, strydoedd cyhoeddus, siopau a thafarndai.
  • Weithiau mae hyd at 23 o olygfeydd yn cael eu ffilmio yn y stiwdio mewn diwrnod.
  • 19 munud a 45 eiliad yw hyd pob pennod, ac mae'n rhaid cwtogi neu ymestyn y penodau i sicrhau'r union hyd.
  • Gellir llunio hyd at 6 drafft o sgriptiau cyn i'r fersiwn terfynol gael ei ffilmio.

Fideo

Gwylio

Clipiau fideo - edrych yn ôl a chlasuron y gyfres.

Cymeriadau

kevin

Cymeriadau'r Cwm

Dod i adnabod cymeriadau Cwmderi.

Cwis

Y Pentref

Cwis Cwmderi

Faint wyddoch chi am y gyfres a'r cymeriadau?

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.