Mae tîm Addysg a Chymuned y Gerddorfa yn trefnu amrywiaeth eang o weithgareddau gydag ysgolion a chymunedau ar hyd a lled Cymru.
Mae'r gwaith yn arwain at ddigwyddiadau cerddorol a chelfyddydol unigryw, sy'n dathlu creadigrwydd a gallu pobl ym mhob cwr o'r wlad.
Daw grwpiau, ysgolion a chymunedau ynghyd, tra bo unigolion yn magu hunan-hyder trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, a hynny weithiau am y tro cyntaf.