BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
30ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

Seithfed Symffoni Beethoven

nos Wener 5 Mehefin 2009, 7.30pm

Symffoni Lawenychol i ddwyn tymor Abertawe i ben

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn terfynu ei thymor yn Abertawe a pherfformiad o Seithfed Symffoni Beethoven yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, nos Wener 5 Mehefin, 7.30pm.

Ychydig o symffoniau sy'n fwy dieflig eu hegni a'u nerth na Seithfed Beethoven, sy'n meddwi gwrandawyr yn ddi-ffael a'i grym bywiocaol. Fe'i clywir ochr yn ochr a thanbeidrwydd Concerto Ffidil Cyntaf brwd Szymanowski a seinfyd annaearol The Noon Day Witch Dvorak. Daw'r arweinydd Walter Weller yn syth o galon y traddodiad Fiennaidd ac mae'n dwyn awdurdod arbennig i'r gerddoriaeth yma.

Yn gwmni i'r arweinydd a'r Gerddorfa bydd y Rwsiad 23 oed Alina Ibragimova sy'n dod yn ei hol i Abertawe i berfformio Concerto Ffidil Cyntaf Szymanowski wedi crey cynnwrf a'i pherfformiad o Drydydd Concerto Ffidil Saint-Saens y tymor diwethaf.

Ym mis Medi bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cyhoeddi ei thymor nesaf o gyngherddau yn Abertawe sy'n cychwyn ym mis Rhagfyr a'r tro nesaf y bydd yn perfformio yn Abertawe fydd yn Proms Yn Y Parc y BBC ym Mharc Singleton. Bydd y cyngerdd yn cynnwys cerddoriaeth a chan yng nghwmni'r soprano Elin Manahan Thomas, yr arweinydd Grant Llewellyn a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC nos Sadwrn 12 Medi, yn ymgysylltu a'r Royal Albert Hall ar gyfer dathliadau traddodiadol Noson Ola'r Proms yn Llundain.

Gwybodaeth am Godi Tocynnau
Mae tocynnau i gyngerdd Mehefin 5 yn £11.50-£14.50 ac amrywiaeth o ddisgowntiau ar gael gan gynnwys prisiau arbennig ar gyfer yr henoed, teuluoedd a myfyrwyr. Mae'r tocynnau ar gael gan Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar 0800 052 1812 neu'n uniongyrchol gan Swyddfa Docynnau Neuadd Brangwyn ar 01792 475715.

2009 Cyngherddau


2010 Cyngherddau


[an error occurred while processing this directive]
Llinell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC:
Ffôn: 0800 052 1812


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy