BBC HomeExplore the BBC

6 January 2010
Accessibility help
Text only
BBC Cymru Mosgito, Pethau personol

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Wyt ti'n fwli?

Wyt ti'n fwli?

Yr arwyddion
Wyt ti'n pigo ar rywun neu'n ei wthio o gwmpas? Wyt ti'n poeni rhywun drwy'r amser? Neu wyt ti'n rhan o griw sy'n codi ofn ar rywun? Ydy hi'n bosib bod rhywun wedi teimlo bo' ti neu dy ffrindie wedi'i fwlio?

Ond jyst tynnu coes ydw i...
Mae bwlio yn difetha bywydau pobol. Bob blwyddyn, mae tua 16 o blant ym Mhrydain yn lladd eu hunain ar ôl iddyn nhw gael eu bwlio. Mae llawer o blant eraill yn tangyflawni achos bo' nhw'n methu canolbwyntio ar eu gwaith ysgol, neu ma' nhw'n cadw draw o'r ysgol er mwyn osgoi'r bwlis. Er bod rhai yn llwyddo i gael y gorau ar y bwlis mae'r profiad yn gallu effeithio ar eu hyder a'u perthynas â phobol eraill am amser mawr.

  • Llynedd, dywedodd 69% o bobol ifanc eu bod nhw wedi cael eu bwlio.
    Arolwg Cenedlaethol o Fwlio 2006

Beth ddylet ti wneud?
Galli di ddewis ymddwyn yn wahanol. Pam wyt ti'n teimlo bod angen i ti bigo ar bobol? Wyt ti'n teimlo'n well wrth wneud i rywun arall edrych yn fach? Neu wyt ti'n ofni y byddi di'n cael dy fwlio os nad wyt ti'n dangos pwy yw'r bos? Beth bynnag yw'r rheswm, dim pigo ar bobol eraill yw'r ateb. Byddi di'n teimlo'n llawer gwell os wyt ti'n delio â'r pethau hyn yn iawn. Cer i waelod y dudalen er mwyn gweld pa fath o help sydd ar gael.

Paid gadael iddo ddigwydd
Trwy droi dy gefn ar rywun sy'n cael ei fwlio a gwneud dim i'w helpu, rwyt ti'n helpu'r bwlis. Os wyt ti'n gweld rhywun yn cael ei fwlio bydd yn ddigon dewr i ddweud wrth rywun.

Cysylltiadau defnyddiol

Onelife - y ffeithiau i gyd yn blwmp ac yn blaen am bob dim sy'n bwysig i ti.

Slink - ffasiwn a ffeithiau ar gyfer merched (a bechgyn!) yn eu harddegau

Childline Cymru - cymorth a chefnogaeth cyfrinachol ar gyfer plant a phobl ifanc - ar gael yn Saesneg neu Gymraeg.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


Eich sylwadau

Bydd y cynta i gyfrannu...

Cysylltu

Oes 'na bwnc ti eisiau trafod? Anfon neges at Mosgito nawr...

Enw neu ffugenw

Oedran:

Neges:


Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy