BBC HomeExplore the BBC

8 December 2009
Accessibility help
Text only
BBC Cymru Mosgito, Perthyn

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Ffansïo

Sgen ti edmygydd cudd?

Iaith y corff
Ma'r cliwiau i gyd yn y corff. Bydd y ffordd ma' bobl yn bihafio o dy gwmpas di yn dweud lot.

Ma' cael rhywun yn troi'i gorff tuag ato ti o hyd, hyd yn oed pan fyddwch chi mewn grŵp mawr, neu yn ffeindio unrhyw esgus i dy gyffwrdd di drwy'r amser yn arwyddion eitha da bo' nhw'n ffansïo ti. Ond falle na fyddan nhw'n sylweddoli hynny eu hunain eto.

  • Pan ma' bechgyn yn ffansïo rhywun, ma' nhw'n chwarae gyda'u clustiau.
    BBC h2g2

Edmygydd cudd (secret admirer) - sydd heb fod yn gudd iawn! Ydyn nhw'n cochi pan wyt ti ar hyd lle, neu'n baglu dros eu geiriau neu'n ymddwyn bach yn od? Os ydyn nhw, bydde man y man iddyn nhw wisgo arwydd neon uwch eu pen sy'n dweud, 'Fi'n ffansïo ti. Ie, TI!'

Weithiau, ma' beth ma' rhywun yn gwneud yn dangos mwy na beth ma' nhw'n dweud.

Dyw pobol ddim wastad yn barod i gyfadde' os ydyn nhw'n ffansïo rhywun.

Bydd rhaid i ti wneud bach o waith ditectif ac edrych am y cliwiau (sydd weithiau'n ddigon amlwg!).

Bydd rhai o'r arwyddion hyn yn bethau da. Os oes rhywun yn ffansïo ti, byddan nhw'n barod i roi benthyg pethau i ti a byddan nhw'n siŵr o ofyn i ti hala amser gyda nhw a'u ffrindiau.

Ond bydd rhai o'r arwyddion eraill ddim mor grêt, fel cael rhywun sy'n ffansïo ti yn llawn sŵn a sbeng o dy gwmpas di ac yn tynnu dy goes di drwy'r amser. Ond cymera fe fel compliment, jyst moyn dy sylw di ma' nhw.

Allan nhw ddim help bo' nhw'n meddwl bo' ti'n grêt
Ma' nhw ishe gwbod be' ti'n neud drwy'r dydd bob dydd. Os nad wyt ti ar hyd lle ma' nhw'n gofyn cant a mil o gwestiynau i dy ffrindiau di. Ac os wyt ti ar hyd lle ti'n cael galwadau ffôn a tecsts drwy'r amser.

Paid â bod yn rhy grac. Ma' nhw jyst ishe dod i dy nabod di'n well, a gweld os wyt ti ar ôl unrhyw un arall. A rhag ofn bo' ti ddim yn siŵr o hyd - ydyn, ma' nhw'n meddwl bo ti'n ffab.

Cysylltiadau defnyddiol

Onelife - y ffeithiau i gyd yn blwmp ac yn blaen am bob dim sy'n bwysig i ti.

Slink -ffasiwn a ffeithiau ar gyfer merched (a bechgyn!) yn eu harddegau

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


Eich sylwadau

Bydd y cynta i gyfrannu...

Cysylltu

Sgen ti syniad am stori? Anfon dy awgrymiadau at Mosgito...

Enw neu ffugenw

Oedran:

Neges:


Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy