BBC HomeExplore the BBC

24 December 2009
Accessibility help
Text only
BBC Cymru Mosgito, Perthyn

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Cyfoedion

Pwysau gan gyfoedion

Dy gyfoedion yw'r bobol sydd o'r un oed a statws â ti. Weithiau, ti'n gallu teimlo dan bwysau i wneud rhywbeth achos bo' nhw wedi dy berswadio di, neu achos bod pawb arall yn ei wneud e' a ti'n ofni y byddi di'n edrych fel twpsyn os nad wyt ti'n gwneud yr un peth.

Ydy e'n beth drwg?
Galli di ddysgu lot gan dy gyfoedion. Gallan nhw dy helpu di i ddatblygu dy dalentau a dy helpu a dy annog i lwyddo. Ar y llaw arall, ma' pobol yn gallu teimlo dan bwysau i wneud pethau sy'n ddrwg iddyn nhw fel smygu, mitsio neu ddwyn o siopau.

  • Ma' person ifanc yn fwy tebygol o dorri'r gyfraith os oes 'da fe ffrindiau sydd wedi bod mewn trwbwl 'da'r heddlu.
    Rizer.co.uk

Pam fod pobol yn rhoi mewn i bwysau fel hyn?
Ma'r rhan fwya o bobol yn hoffi perthyn i grŵp ac mae'n gallu bod yn anodd os mai ti yw'r unig un sy'n gwneud rhywbeth yn wahanol. Weithiau, ma' pobol yn poeni y bydd rhywun yn pigo arnyn nhw os nad ydyn nhw'n dilyn y dorf, neu y byddan nhw'n colli'u ffrindiau. Weithiau, ma' pobol yn gwneud rhywbeth achos bo' nhw'n meddwl y bydd e'n gwneud nhw'n fwy poblogaidd neu ma' nhw'n meddwl bod rhywbeth yn normal achos bod pawb arall yn ei wneud e'.

Beth i'w wneud
Byddi di'n profi pwysau gan gyfoedion drwy dy fywyd, ond fe fyddi di un cam ar y blaen os ddysgi di sut i ddelio ag e' nawr.

  • Dewisa dy ffrindiau'n ddoeth. Canolbwyntia ar ddatblygu cyfeillgarwch cadarn gyda phobol sydd â'r un gwerthoedd a syniadau â ti. Ma' cael un ffrind sy'n barod i gefnogi ti pan ti ishe mynd yn erbyn pawb arall yn gallu bod yn help mawr.
  • Bydd yn gryf: jyst gwna be' ti'n meddwl sy'n iawn. Bydd ffrindiau da yn dy barchu di am fod yn wahanol. Byddi di'n teimlo'n falch o dy hun hefyd os wyt ti'n sefyll lan dros rywbeth rwyt ti'n credu'n gryf ynddo.

Cysylltiadau defnyddiol

Onelife - y ffeithiau i gyd yn blwmp ac yn blaen am bob dim sy'n bwysig i ti.

Slink - ffasiwn a ffeithiau ar gyfer merched (a bechgyn!) yn eu harddegau

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


Eich sylwadau

Bydd y cynta i gyfrannu...

Cysylltu

Oes 'na bwnc ti eisiau trafod? Anfon neges at Mosgito nawr...

Enw neu ffugenw

Oedran:

Neges:


Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy