BBC HomeExplore the BBC

14 December 2009
Accessibility help
Text only
BBC Cymru Mosgito, Perthyn

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Sut i fachu

Sut i fachu

Cer amdani
Ti 'di treulio wythnosau yn syllu arno neu arni ar draws y cantîn. Ond rhywsut neu'i gilydd dyw e neu hi ddim wedi sylwi arnot ti. Felly beth am gymryd siawns? Cofia - dwyt ti ddim yn dal pysgodyn os nad wyt ti'n pysgota!

Cadwa hyn mewn cof
Byddai'r rhan fwya o bobol wrth eu bodd pe bai rhywun arall yn cymryd y cam cynta, felly cadwa hynny mewn cof ar y diwrnod mawr. Dewisa amser pan mae'r un rwyt ti'n ei ffansïo ar ei ben ei hun - fel dy fod di'n cael ei sylw i gyd heb fod ei ffrindiau'n piffian chwerthin yn y cefndir.

Bydd yn naturiol
Paid â bod yn rhy 'full on'. A phaid â defnyddio unrhyw chat up lines naff - neu fe fyddi di'n siŵr o swnio'n wirion.

  • Mewn arolwg diweddar un o'r chat-up lines mwyaf llwyddiannus oedd: "Beth yw dy hoff dopin pitsa?"
    Newyddion BBC, Ebrill 2006

'Wyt ti 'di bod yn gweithio mas?'
Pan fyddi di wedi cael fe neu hi i ti dy hun ac wedi dechrau ei swyno gyda dy wên a dy wincs, mae angen i ti ddangos yn glir dy fod di'n ei ffansïo (gan gymryd bo' ti wedi gwrthod y temtasiwn i fynd yn syth am snog).

Mae pawb wrth eu bodd yn cael eu seboni (ac nid yn y bath) felly gwna iddo fe neu hi deimlo'n dda drwy ddweud pethau neis. Wedyn, cymer anadl fawr a... gofyn.

Os mai 'na' yw'r ateb
Paid â siomi gormod a phaid â bod ofn trio eto.

Falle bod e neu hi wedi dweud na am sawl rheswm: falle bod e neu'n hi'n rhy swil, neu'n mynd mas 'da rhywun yn barod neu falle bod ei ffrind yn dy ffansïo di. Beth bynnag yw'r rheswm, byddan nhw mor falch bod rhywun yn eu ffansïo fyddan nhw ddim ishe bod yn gas i ti.

Ac ar ôl i ti wneud e unwaith, byddi di'n sylweddoli bod e' ddim mor ofnadwy ag rôt ti'n feddwl. Felly, paid â gwastraffu amser? Cer amdani!

Cysylltiadau defnyddiol

Onelife - Y ffeithiau i gyd yn blwmp ac yn blaen am bob dim sy'n bwysig i ti.

Slink - ffasiwn a ffeithiau ar gyfer merched (a bechgyn!) yn eu harddegau

Gwybodaeth gall a chyngor gyfrinachol am ryw

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


Eich sylwadau

Bydd y cynta i gyfrannu...

Cysylltu

Oes 'na bwnc ti eisiau trafod? Anfon neges at Mosgito nawr...

Enw neu ffugenw

Oedran:

Neges:


Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy