BBC HomeExplore the BBC

15 December 2009
Accessibility help
Text only
BBC Cymru Mosgito, Newid byd

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Creu cynnwys

Digilabs

Sgen ti allu creadigol - ond heb yr offer addas? Well, ma' na le i ti fynd er mwyn rhoi dy sgiliau ar waith a gwneud y gorau o'r holl declau technegol diweddara'.

Beth ydy Digilab?
Labordy digidol neu ganolfan tech-wyb yn llawn dop o'r holl offer diweddara' yn rhad ac am ddim i ti ddefnyddio.

Os wyt ti eisiau creu ffilm, recordio cerddoriaeth, dylunio neu ddysgu sut i animeiddio - dyma'r lle i ddod.

Ma' staff profiadol wrth law i dy helpu di ddatblygu dy sgiliau. Neu ma' croeso i ti glatcho bant ar dy liwt dy hun.

Ble mae'r Digilab agosa'?
Mae 'na 112 Digilab ar hyd a lled Cymru. Maent wedi eu lleoli mewn mannau cyfleus fel canolfannau ieuenctid neu golegau cymunedol.

Clicia yma i syrffio gwefan CREDU a chwilio am dy digilab agosa'.

Oes unrhywun yn cael defnyddio Digilab?
Mae'r prosiect yn targedu pobl rhwng 16-25, ond ma' croeso cynnes iawn i bawb - yn enwedig ffans Mosgito!

Ma' Mosgito a Digilabs wedi dod at ei gilydd i wneud yn siŵr bod unrhyw un sydd am gyfrannu cynnwys at Mosgito yn medru gwneud hynny trwy ddefnyddio Digilab.

Cyfan sydd angen i ti neud ydy llenwi ffurflen gofrestru - a bant â ti!

Pa offer sydd ar gael?
Ma' 'na bob math o bethau bendigedig ar gael i ti e.e cyfrifiaduron â chysylltiad cyflym â'r rhyngrwyd, camerâu digidol, camerâu fideo, argraffwyr a sganwyr lliw, cyfrifiaduron llaw a chliniaduron symudol (laptops) yn ogystal â'r meddalwed diweddara'.

Does dim esgus felly! Bydd yn greadigol ac anfon dy gynnwys at Mosgito - nawr!

Cysylltiadau defnyddiol

CREDU

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


Eich sylwadau

Bydd y cynta i gyfrannu...

Cysylltu

Anfon neges at Mosgito

Enw neu ffugenw

Oedran:

Neges:


Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy