BBC HomeExplore the BBC

23 December 2009
Accessibility help
Text only
BBC Cymru Mosgito, Newid byd

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Alcohol

Alcohol

Beth yw alcohol?
Mae'r alcohol rydyn ni'n ei yfed yn cael ei wneud trwy ffermentio neu stilio ffrwythau, llysiau a grawn. Dyna pam ei fod e'n blasu mor wahanol. Mae alcohol pur neu 'ethyl alcohol' yn glir fel dŵr.

O'r holl gyffuriau mae pobol yn eu defnyddio heddi i newid eu hwyliau a'u tymer, alcohol yw un o'r rhai cryfa sydd ar gael.

Sut mae alcohol yn gwneud i ti deimlo?
Mae alcohol yn gwneud i ti ymlacio, ac mae'n gwneud i ti deimlo'n hapus ac yn hyderus hefyd.

Dyw yfed gormod ddim yn brofiad pleserus. Ma'r stafell yn troi, ti'n teimlo'n sâl, ti'n methu siarad yn glir, a ti'n methu cofio pethau. Mae rhai pobol yn mynd yn gecrus ac yn gas ar ôl yfed.

Y diwrnod ar ôl sesiwn yfed fawr, mae'n debyg y bydd 'da ti ben tost neu 'hangover'. Falle byddi di'n teimlo'n sâl, yn sychedig, yn flinedig ac ychydig yn isel.

  • Mae dros 5% o bobol ifanc rhwng 14 a 15 oed ac ychydig llai na 10% o bobol ifanc rhwng 15 ac 16 oed yn Lloegr yn yfed mwy na'r lefel o alcohol sy'n ddiogel i oedolion.
    (Sefydliad Astudiaethau Alcohol, 2002)

Sut mae alcohol yn effeithio ar dy iechyd?
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi cyngor ar faint o alcohol y mae'n ddiogel i'w yfed. Dylai dynion dros 18 oed ddim yfed mwy na 21 uned yr wythnos, a dylai merched dros 18 oed ddim yfed mwy nag 14 uned yr wythnos. Mae faint o alcohol y mae'n ddiogel i bobol ifanc dan 18 oed ei yfed yn llai eto. Cofia mai cyngor am faint o alcohol y mae'n ddiogel i'w yfed mewn wythnos yw hwn - dyw yfed dy unedau i gyd mewn un sesiwn ddim yn iach o gwbl.

Mae 1 uned yr un peth â hanner peint o gwrw gwan, ac mae 2 uned yr un peth â photel o alcopop.

Os byddi di'n yfed alcohol, mae'n fwy tebygol y byddi di'n cael damwain o ryw fath neu'n gwneud rhywbeth y byddi di'n ei ddifaru y diwrnod wedyn. Arhosa gyda ffrindiau fydd yn cadw llygad arnot ti.

Alcohol yw'r cyffur mwya cyffredin sy'n cael ei ddefnyddio mewn achosion o 'date rape'. Paid meddwi gyda rhywun dwyt ti ddim yn ei nabod yn dda. Mae rhai pobol yn mynd yn gaeth (addicted) i alcohol. Os wyt ti'n yfed yn aml, bydd yr alcohol yn cael llai o effaith arnot ti, ac felly bydd angen i ti yfed mwy a mwy i feddwi.

Mae yfed llawer o alcohol dros gyfnod hir yn gallu gwneud niwed i'r galon a'r afu (liver), heb sôn am yr effaith mae'n ei chael ar dy ben.

Y gyfraith
Mae alcohol yn gyffur cyfreithlon (legal), ond does dim hawl 'da pobol dan 18 oed i'w brynu.

Cysylltiadau defnyddiol

Gacu - cyngor a gwybodaeth am oryfed achlysurol cyflym mewn un noson

Frank - gwybodaeth diflewyn ar dafod am gyffuriau o bob math

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


Eich sylwadau

Bydd y cynta i gyfrannu...

Cysylltu

Oes rhywbeth ti angen gwybod? Gofyn i Mosgito...

Enw neu ffugenw

Oedran:

Neges:


Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy