BBC HomeExplore the BBC

27 May 2012
Accessibility help
Text only
BBC Cymru Mosgito, Joio

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Trideg peth i neud cyn bo' ti'n 16

Trideg peth i neud cyn dy bo' ti'n 16

1. Dawnsio yn y glaw.
2. Lliwio dy wallt.
3. Mynd i barti ond dweud wrth dy rieni dy fod ti'n mynd i wneud gwaith cartref.
4. Gwneud gwaith cartref!
5. Aros yn effro drwy'r nos a gweld y wawr yn torri.
6. Coginio pryd o fwyd bwytadwy i dy deulu.
7. Gwneud gwaith gwirfoddol.
8. Dysgu iaith dramor.
9. Teithio i un wlad dramor o leiaf.
10. Cwympo mewn cariad.
11. Dysgu holl eiriau dy hoff gân yn y byd.
12. Cyfarfod â rhywun mwy enwog na Denzil o Bobl y Cwm.
13. Gwenu ar y postmon.
14. Rhoi carden Nadolig i'r hen fenyw drws nesaf.
15. Cael swydd ran-amser dros yr haf.
16. Ailgylchu.
17. Cydnabod wrth bawb fod gen ti dedi bêr oddi ar i ti fod yn blentyn.
18. Deall fod mam a dad yn bobl o gig a gwaed a'u bod nhw wedi bod dy oed di unwaith!
19. Derbyn dy fod ti'n gallu bod yn anghywir mewn dadl.
20. Dysgu o gamgymeriad.
21. Anfon neges destun at rywun ar ddamwain.
22. Teithio ar y Traws Cambria.
23. Aros yn Llangrannog a Glan-llyn.
24. Prynu blodau i Mam am ddim rheswm.
25. Dweud rhywbeth caredig wrth dy frawd neu chwaer.
26. Canu yn y gawod.
27. Smwddio.
28. Gwrthod dilyn y dorf.
29. Ffeindio 'party trick' effeithiol.
30. Rhechu mewn gwasanaeth ysgol ar ddamwain.

Cysylltiadau defnyddiol

Clic - syniadau am beth i wneud yn dy amser hamdden

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy