BBC HomeExplore the BBC

27 December 2009
Accessibility help
Text only
BBC Cymru Mosgito, Joio

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Rhys - dyn y drymiau

Cadw rhythm gyda Rhys

Dechreuais chwarae'r drymiau yn yr ysgol tua chwe blynedd yn ôl. Rwy' hefyd yn chwarae ychydig o gitâr ac allweddellau (keyboard).

Mae'r amser rwy'n ymarfer yn amrywio o 10 munud i sawl awr ar y tro.

Rwy'n ymarfer yn fy 'stafell wely. Weithiau, mae'r sŵn yn mynd ar nerfau gweddill y teulu - a'n cymdogion hefyd! Ond maen nhw'n gwybod mai dyma beth dwi eisiau ei wneud yn y dyfodol, felly rwy'n cael pob cefnogaeth.

Mae angen dipyn o arian i gael cit. Mae cit dechreuwyr fel arfer yn costio o gwmpas £200 i £300. Ond wrth symud i fyny mae'r gost yn medru codi i'r miloedd.

Fy uchelgais ydy chwarae mewn band llwyddiannus

Dyfal donc
Mae'n llawer o hwyl chwarae'r drymiau - dim ots pa lefel ydych chi. Mae'n bwysig ymarfer yn gyson a dal i drio dim ots pa mor anodd a rhwystredig mae'n medru bod. Dwi bob amser yn awyddus i ddysgu pethau newydd.

Y sgil pennaf sydd ei angen ar ddrymiwr yw bod gennych chi 'gyd-drefniant' (co-ordination) da, fel eich bod chi'n medru dod i arfer gwneud pethau gwahanol gyda'ch traed a'ch dwylo ar yr un pryd.

Rwy'n hoffi llawer o fathau o fiwsig - roc, metel, pync, emo - a llawer mwy.

Rhai o fy hoff fandiau yw Iron Maiden, Led Zeppelin, Metallica, Biffy Clyro, InMe, Bring Me the Horizon, Foo Fighters, Johnny Truant, Nirvana, Still Remains, Enter Shikari a Dragonforce i enwi rhai.

Fy uchelgais ydy chwarae mewn band llwyddiannus.

Dyma'r cit sydd ei angen i gychwyn chwarae'r drymiau:

Drym bas (bass drum) - sŵn isel a dwfn. Mae wedi'i leoli ar y llawr felly mae'n rhaid defnyddio'r droed i'w chwarae.
Tom bach, tom canolig, tom llawr (small tom, middle tom, floor tom) - yn debyg iawn i'r drym bas ond yn llai. Mae'r rhain yn cael eu chwarae gyda'r ffyn drymio. Mae pob un yn rhoi traw gwahanol, y small tom yn rhoi traw uwch a'r floor tom yn rhoi traw isel.
Drym snare (snare drum) - mae hwn yn rhoi sŵn mwy caled.
Hi hat - yn gyfuniad o ddau beth - tebyg i symbalau sy'n rhoi'r dewis o fod ar agor neu ar gau, y ddau'n rhoi sŵn gwahanol. I gau ac agor yr hi hat mae'n rhaid defnyddio'r droed. Mae'n cael ei chwarae wrth ddefnyddio'r ffyn.
Symbal crash (crash cymbal) - mae'r symbal yma'n rhoi sŵn uchel er mwyn rhoi acen ar y chwarae.
Symbal ride (ride cymbal) - mae'r symbal yma'n rhoi sŵn sydd yn debyg i gloch. Mae fel arfer yn cael ei ddefnyddio mewn cerddoriaeth fel jazz.

Cysylltiadau defnyddiol

C2 - newyddion am gerddoriaeth Cymru

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


Eich sylwadau

Bydd y cynta i gyfrannu...

Cysylltu

Beth wyt ti'n neud yn dy amser hamdden? Rho wybod i Mosgito yma...

Enw neu ffugenw

Oedran:

Neges:


Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy