BBC HomeExplore the BBC

27 December 2009
Accessibility help
Text only
BBC Cymru Mosgito, Delwedd

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Bresys

Traciau trên ar dy ddannedd

Enillodd Hywel Griffiths y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin 2007. Pan safodd yn y pafiliwn, roedd ganddo wên ar ei wyneb. Rhes o ddannedd syth hefyd. Cafodd Hywel fresys pan oedd e yn ei arddegau. Ond sut brofiad oedd gorfod gwisgo'r fframiau metel am flynyddoedd? Aeth Mosgito i'w holi.

Mosgito: Pryd cefaist ti'r bresys dannedd?
Fe ges i fresys wedi eu gosod pan o'n i'n 14 oed. Roedd fy nannedd blaen yn gwbwl gam, pob un yn wynebu ffordd wahanol, ac felly roedd angen gwneud dau beth - tynnu pum dant mawr iawn o gefn fy ngheg, a gosod bresys i sythu'r rhai oedd ar ôl. Roedd tynnu'r dannedd yn hwyl, gan fy mod dan anaesthetig, ac roeddwn i'n gallu clywed y gwreiddiau'n rhwygo o'r geg heb unrhyw boen.

Mosgito: Beth oedd dy farn di amdanyn nhw i ddechrau?
Roeddwn i'n eu hoffi nhw i fod yn onest - er eu bod yn achosi cryn boen ar adegau, yn enwedig pan o'n i'n mynd nôl at yr orthodeintydd i'w tynhau, fe ges i fandiau lastig coch a gwyn ar bob yn ail ddant. Lliwiau Cymru (a Lerpwl)! Roedd bwyta ac edrych ar ôl y bresys yn dipyn o boendod weithiau.

Gair i gall gan Mosgito:

  • Mae cannoedd o bobl yn cael bresys wedi eu gosod bob dydd. Bydd yn falch ohonyn nhw!
  • Fyddan nhw ddim ar dy ddannedd di am byth ond fe fyddan nhw'n eu gwella nhw am byth.

Mosgito: Wyt ti'n falch dy fod ti wedi eu cael nhw?
Ydw, yn falch iawn. Dw i ddim yn meddwl ei bod hi'n bwysig sut mae eich dannedd yn edrych - mae gan lawer o bobl broblemau llawer mwy difrifol i boeni yn eu cylch, ond gan fod fy neintydd wedi argymell hynny, mi wnes i gytuno i'w gwisgo. Yn y pen draw dw i'n credu bod e wedi bod yn werth ei wneud.

Mosgito: Beth yw dy gyngor di i bobl ifanc sy'n mynd i gael triniaeth ar eu dannedd?
I beidio â bod ofn gwneud os ydyn nhw angen eu trin ac os yw eich deintydd yn argymell hynny, ond hefyd i beidio â theimlo bod rhaid eu gwneud nhw oherwydd ffasiwn neu ddisgwyliadau pobl eraill. Yr unig beth wn i yw y bu'r holl brofiad werth y drafferth i fi.

Cysylltiadau defnyddiol

Cadair yr Urdd i Hywel

Galw Iechyd Cymru - Amrywiaeth eang o wybodaeth iechyd yn cynnwys manylion am ddeintyddion

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


Eich sylwadau

Bydd y cynta i gyfrannu...

Cysylltu

Sgen ti stori i'w rhannu gyda Mosgito? Anfon neges nawr...

Enw neu ffugenw

Oedran:

Neges:


Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.


Mynd at y meddyg


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy