BBC HomeExplore the BBC

27 December 2009
Accessibility help
Text only
BBC Cymru Mosgito, Delwedd

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Bresys

Bresys

Beth ŷn nhw?
Os yw dy ddannedd di'n gam neu os oes 'da ti ormod o ddannedd, gall gwisgo bresys helpu i'w gwneud nhw'n syth neu wneud lle iddyn nhw i gyd.

Ma' lot o wahanol fathau o fresys ar gael - rhai clir, rhai gwyn a rhai sy'n cael eu rhoi'n sownd i ochr fewn y dannedd.

Ma' bresys yn gwthio ac yn gwasgu'r dannedd fel bo' nhw'n tyfu'n syth.

Pam bod rhaid i fi gael bresys?
Bydd 'da ti wên bert. Bydd dy ddannedd yn haws i'w glanhau (dannedd glân = llai o fillings = llai o ddannedd dodi pan fyddi di'n hŷn).

Beth fydd yn digwydd pan fydda i'n mynd i weld yr orthodeintydd?
Yr orthodeintydd yw'r arbenigwr ar fresys. Bydd e'n cymryd rhai x-rays neu luniau o dy ên. Falle bydd rhaid i ti gnoi rhyw stwff meddal i ddangos sut ma' dy ddannedd top yn cyffwrdd â'r rhai gwaelod.

Ar ôl i ti gael brês, byddi di'n mynd i weld yr orthodeintydd bob mis i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn. Falle bydd yr orthodeintydd yn gwneud y brês yn fwy tynn er mwyn gwthio a gwasgu'r dannedd i'w lle.

A fydd e'n gwneud dolur?
Tamed bach. Falle bydd dy geg di'n teimlo'n boenus am ddiwrnod neu ddau ar ôl i ti gael y brês ac am ddiwrnod neu ddau ar ôl iddo gael ei dynhau. Cymera un dabled i gael gwared ar y boen, a gwena! Os yw weiren neu fraced yn rhwbio yn erbyn dy geg, rho ychydig o Vaseline ar y man sy'n dost a ffonia dy orthodeintydd am gyngor.

Am faint bydd rhaid i fi wisgo'r brês?
Bydd rhaid i ti wisgo brês am unrhyw beth rhwng 6 mis a 2 flynedd - ond mae'n amrywio. Roedd un dyn wedi gwisgo brês am 20 mlynedd achos bod e' wedi anghofio mynd nôl i weld y deintydd.

Oes rhaid i fi stopio bwyta?
Na. Falle byddai'n well i ti fwyta bwyd meddal am ddiwrnod neu ddau ar ôl i ti ddechrau gwisgo brês. Y peth diwetha ti ishe yw torri'r brês drwy fwyta afal.

Oes rhaid i fi stopio snogio?
Na. Er gwaetha'r holl storïau dwl ti 'di clywed, ewch chi ddim yn sownd yn eich gilydd - hyd yn oed os yw'r ddau ohonoch chi'n gwisgo bresys.

Sut ma' cadw'r bresys yn lân?
Ma' bresys fel magnet i fwyd. Dyw darnau o fwyd yn sownd i'r brês ddim yn edrych yn neis iawn, ac mae'n gallu gwneud i dy ddannedd bydru'n (rot) gynt. Gwna'n siŵr bo' ti'n brwsio dy ddannedd yn ofalus ar ôl bwyta a chyn i ti fynd i'r gwely.

Ydw i'n od?
Dim o gwbwl. Bydd pobol eraill yn dod i arfer â'r brês yn gynt na ti. Roedd rhaid i Tom Cruise wisgo brês ychydig yn ôl. Ti'n cofio All Saints? Roedd Shaznay yn gwisgo pâr pert o fresys. Ac os oes unrhyw un yn gwneud sbort am dy ben di, cofia mai ti fydd yn chwerthin fwya pan fydd y brês yn dod mas!

Cysylltiadau defnyddiol

Onelife - y ffeithiau i gyd yn blwmp ac yn blaen am bob dim sy'n bwysig i ti.

Slink - ffasiwn a ffeithiau ar gyfer merched (a bechgyn!) yn eu harddegau

Galw Iechyd Cymru - Amrywiaeth eang o wybodaeth iechyd yn cynnwys manylion am ddeintyddion

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


Eich sylwadau

Bydd y cynta i gyfrannu...

Cysylltu

Sut brofiad ydy gwisgo bresys? Sgen ti gyngor ar gyfer bobl eraill?

Enw neu ffugenw

Oedran:

Neges:


Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.


Mynd at y meddyg


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy