In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Gyda'r 'gadair ddu' enwog yn un o sêr y sioe, mae Mastermind yn un o raglenni cwis mwyaf adnabyddus teledu ym Mhrydain ac ar ôl 35 mlynedd mae wedi profi i fod yn un o'r rhai mwyaf hirhoedlog hefyd.

Mastermind Cymru a Mastermind Plant Cymru

Dechreuodd Mastermind Cymru yn 2006 gyda'r newyddiadurwraig Betsan Powys yn holi'r cwestiynau.

Yr enillydd cyntaf oedd heddwas o Langefni, Ynys Môn, Emyr Rhys Jones, a ddaeth i'r brig gyda'r pwnc arbenigol, Hanes yr Eurovision Song Contest o 1956-1990.

Emyr Rhys Jones, enillydd cyfres 2006
Emyr Rhys Jones, enillydd cyfres gyntaf Mastermind Cymru yn 2006

Dywedodd ei fod wedi mwynhau'r profiad o gystadlu ac ennill bri ac anrhydedd y teitl: "Ro'n i'n nerfus wrth gwrs wrth eistedd yn y gadair ond mae Betsan yn arbennig o dda am eich gwneud chi'n gartrefol ac yn gyfforddus. Dyw e ddim mor frawychus ag y mae'n edrych.

"Mae'n llawer o hwyl ac mae ennill y teitl yn brofiad arbennig iawn."

Ei gyngor i unrhyw yn sy'n eistedd yn y gadair am y tro cyntaf ydy canolbwyntio: "Anghofiwch am bawb o'ch cwmpas a chanolbwyntiwch ar y cwestiynau. Peidiwch â chael panic os na fedrwch chi ateb cwestiwn. Dwedwch 'nesaf' yn syth ac ewch ymlaen drwy'r cwestiynau."

Ers hynny, mae pedair cyfres wedi bod: Sion Aled Owen o Wrecsam oedd enillydd 2007 a Gary Slaymaker (2006), Branwen Gwyn (2007) a Dafydd Du (2009) gurodd y selebs eraill yn y ddwy raglen Nadolig arbennig ar gyfer enwogion.

Cyfres 2008 o Mastermind Plant Cymru oedd y gyntaf yn y Gymraeg ar gyfer plant, gyda Seren o Gastell Nedd yn ennill y gyfres gyntaf. Yr un yw'r drefn ag ar gyfer oedolion - mae pedwar cystadleuydd ym mhob rownd ac mae enillydd pob rownd yn mynd ymlaen i'r ornest derfynol er mwyn cystadlu am dlws Mastermind Plant Cymru.

Ewch i'n tudalen cystadleuwyr i ddilyn hynt cystadleuwyr diweddaraf y rhaglen a dysgu mwy am eu pynciau arbenigol.

Hanes Mastermind

Syniad cynhyrchydd teledu o'r enw Bill Wright - cyn filwr gyda'r Llu Awyr - oedd Mastermind yn wreiddiol. Defnyddiodd ei brofiad fel carcharor rhyfel yn yr Almaen o orfod ateb tri chwestiwn - enw, rheng a rhif - fel sail i'r rhaglen gyda chystadleuwyr yn gorfod rhoi eu henw, gwaith a'u pwnc arbenigol ar ddechrau eu rownd.

Recordiwyd y rhaglen gyntaf erioed o Mastermind yn Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl a chafodd ei darlledu ar BBC1 yn 1972. Y cyflwynydd a'r holwr oedd y newyddiadurwr Magnuss Magnusson - Albanwr oedd â'i deulu'n wreiddiol o Wlad yr Iâ.

Wedi 57,000 o gwestiynau, gadawodd Mastermind y BBC yn 1997 ond dychwelodd unwaith eto gyda John Humphrys wrth y llyw yn 2003.

Dydy patrwm syml y rhaglen ddim wedi newid ers 1972: mae'r cystadleuwyr yn cael eu galw i eistedd yn y 'gadair ddu' enwog i gystadlu yn erbyn ei gilydd drwy ateb dwy rownd o gwestiynau - un am eu pwnc arbenigol ac un am eu gwybodaeth gyffredinol. Mae pob rownd yn ddau funud o hyd.

Yn wahanol i nifer fawr o gwisiau modern does dim gwobr ariannol yn Mastermind. Yn hytrach, mae'r ddrama yn cael ei chreu gyda'r goleuo dramatig yn y stiwdio ac awyrgylch ddifrifol y rowndiau holi ac ateb. Meddai'r cyflwynydd Betsan Powys: "Mae'n chwa o awyr iach yn fy marn i fod ennill teitl Mastermind Cymru yn ddigon o anrhydedd ynddo ei hun."


Gwylio

Logo iPlayer

iPlayer

Gwyliwch Mastermind Cymru a rhaglenni eraill BBC Cymru ar iPlayer.

Y Cyflwynydd

Betsan Powys

Betsan Powys

Gwleidyddiaeth yw pwnc arbenigol Betsan Powys tu allan i stiwdio Mastermind.

Mastermind Plant

Joseff gyda thlws 2009

C'mon Midffild!

Joseff yn sgorio'r marciau uchaf i ennill tlws 2009.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.