BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru - Llyfr y FlwyddynBBC Cymru - Llyfr y Flwyddyn

BBC Homepage
Cymru home

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Rhan o glawr Dauwynebog

Ceri Wyn Jones

Awdur casgliad io gerddi Dauwynebog

Graffiti ar ddesg a welodd yn ystod arholiad mathemateg barodd i Ceri Wyn Jones sylweddoli grym geiriau a beth yw barddoniaeth.

Ac yntau wedi cwblhau'r arholiad yn fuan ac yn eistedd yn syrffedus yn pasio'r amser sylwodd ar y geiriau ar y ddesg:

Here I sit. bored as hell,
Waiting for the bloody bell.

"Ac fe wnaeth hwnna argraff fawr arnaf i[achos roedd] hwn wedi dweud yr union beth oeddwn i'n deimlo ar hyn o bryd ac wedi'i ddweud e'n well nag y byddwn i wedi," meddai.

Dweud yn well
"Dyna pam mae pobl yn darllen pethau; am eu bod yn dweud rhywbeth am eu stad nhw ond yn ei ddweud o mewn ffordd well nag y gallech chi fel unigolyn ei ddweud," meddai.

A dyna sylweddoli arwyddocâd barddoniaeth am y tro cyntaf.

"Mae geiriau wastad wedi'n swyno i. Roedd fy nhad yn athro Saesneg arnaf i felly roedd llenyddiaeth Saesneg yn beth mawr imi.

"Roedd fy nhad hefyd yn gynganeddwr, a gydag ef fe es i wersi cynganeddu achos ei fod wedi awgrymu imi y byddai'n syniad da. A phan oedd fy nhad yn awgrymu fod rhywbeth yn syniad da roedd e'n troi'n orfodol!" meddai.

Dysgu cynganeddu
Cyfres o wersi gyda'r Prifardd T Llew Jones a fynychodd, yn 17 oed, a dysgu cynganeddu.

"[Er] wnes i ddim cynganeddu llawer ac fe fûm i flynyddoedd cyn mynd yn ôl ati," eglurodd.

Mae cyfres o englynion yn Dauwynebog yn cyfarch T Llew Jones yn 90 oed a chyfaddefodd y bardd wrth dei Tomos ei fod yn ddwl bêl am nofelau antur T Llew Jones hefyd.

Datgelodd hefyd fod y môr hefyd yn bwysig iddo:

"Dwi'n mynd lawr i'r môr bron yn nosweithiol," meddai.

Gall y môr, meddai, fod yn groesawus ar y naill law ond ar y llaw arall yn fodd i gadw pobl bant.

"Ond ewch chi i lan y môr mewn storm - mae glan y môr yn edrych ar ôl ei greaduriaid ei hunan hyd yn oed mewn storm ac mae yna rhyw awgrym efallai fod yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yn perthyn mor agos i'r lle does dim ots beth yw'r bygythiad mae yna gryfder anferth i'r diwylliant hwnnw - yn enwedig pan mae ar ei wanaf," meddai.

Twristiaid
Bu'n trafod hefyd ei ddefnydd o'r gair "twrist" yn ei gerddi - yn hytrach na'r gair 'ymwelydd' gan fod iddo oblygiadau arbennig yn ei feddwl ef.

"Mae ymwelydd yn awgrymu perthynas rhyngddo chi a'r croesawydd ond mae twrist yn berthynas unffordd," meddai.

"Dydych chi ddim yn gallu byw mewn tref fel Aberteifi heb eich bod chi weithiau yn ddyn dŵad yn eich tref neu eich ardal chi eich hunan.

"Er cystal o hyd yw'r pethau sy'n cynnal y diwylliant a'r iaith mae yna gymaint o fygythiadau
"Weithiau mae fy ymateb yn ysgafn a thafod yn y boch ond weithiau rwy'n teimlo'n ddigalon ac mae'r ddeuoliaeth yma yn rhywbeth sy'n rhedeg drwy'r gyfrol nid yn unig gyda cherddi sy'n ymwneud â diwylliant ac iaith ac ardal ond hefyd yn fwy cyffredinol am fywyd," meddai.

Teimlad o warchae
Weithiau mae delweddau o fyd natur yn cynnig eu hunain - gweld brain yn ymlid barcud coch er enghraifft "yn ddrych o sefyllfa y Cymry Cymraeg.

"Y teimlad yma o warchae. Fe glywych chi weithiau fod y Gymraeg ar i fyny - ac y mae yn y de ddwyrain - ond dyw sbin ddim yn mynd i achub yr iaith Gymraeg a dyw dweud wrthym ein hunain yn ddigon aml fod popeth yn iawn a'r Gymraeg yn ffynnu ddim yn mynd i achosi hynny.

"Rydym ni'n gwybod os yw'n llewyrchus dyweder yng Nghaerdydd wel yn Aberteifi rydym ni'n teimlo'r gwrthwyneb a ni sy'n teimlo fel yr adar dŵad."

Y paradocs
Dyma'r ddau wyneb yn Dauwynebog a hynny'n gydnaws a'r hyn a ddywed ef sy'n un o'i hoff droadau, y paradocs.

"Mae'r paradocs yn cynrychioli'r syniad ei bod yn bosib profi rhywbeth neu syllu ar rywbeth a sylwi ar y ddau wyneb ... a'i bod yn bosib teimlo teimladau cymysg," meddai.

"Nid tric ymenyddol ydi o - mae'n deimlad g wir."

Yn un o'i gerddi mae'r bioden yn aderyn du a gwyn ond heb fod yn ddu a gwyn hefyd.

"Mae gennym ni ddyletswydd i syllu yn ddyfnach ac yn hirach ar bethau," meddai.

gwrandoCeri Wyn Jones yn siarad gyda Dei Tomos ar BBC Radio Cymru



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy