BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

BBC Lleol

Gogledd Orllewin

Gogledd Ddwyrain

Canolbarth

De Orllewin

De Ddwyrain

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Traddodiadau'r tymor
Hen arferion y Cymry yn ystod cyfnod y Nadolig a'r Calan.
Hela dryw
Dryw Mae gŵyl y Nadolig yn dod i ben ar Nos Ystwyll, ddeuddeg diwrnod wedi dydd Nadolig.

Ar y diwrnod hwn ers talwm fe arferid hela'r dryw bach.

Byddai dryw yn cael ei ladd, ei addurno a'i roi mewn tŷ bychan.

Byddai grŵp o ddynion wedyn yn cludo'r tŷ o gwmpas y pentref. Byddai trigolion y pentref yn rhoi arian iddyn nhw am y fraint o gael cipolwg ar yr aderyn bach.

Wrth gwrs mae'r arferiad hwn wedi dod i ben ers tro a does dim llawer o arwyddocâd i Nos Ystwyll yma yng Nghymru bellach.

Ond cofiwch, fe fydd yn rhaid i chi sicrhau eich bod yn tynnu'r goeden Nadolig a'r holl addurniadau ar y diwrnod hwn neu fe fydd anlwc yn dod i chi weddill y flwyddyn.

Y Plygain
Canu Plygain Mae nifer o'r traddodiadau yn ymwneud â'r Nadolig a'r Calan a digwyddai ers talwm yn gwbl unigryw i Gymru.

Un o'r rhain yw'r Plygain. Mae'r arferiad hwn yn dal i ddigwydd heddiw mewn rhai rhannau o Gymru.

Gwasanaeth cwbl Gymreig ydyw a gynhelir mewn capel neu eglwys yn gynnar ar fore'r Nadolig. Yma bydd dynion a merched yn canu carolau hynafol, digyfeiliant fel arfer ac mewn tri neu bedwar llais.

Yn yr hen amser, tua'r 17eg ganrif, dim ond y dynion oedd yn mynd i'r capel i ganu tra'r arhosai'r merched adref i goginio a gwneud taffi triog.

Ond erbyn y 19eg ganrif fe âi'r merched a'r plant i'r Plygain yn ogystal.

Yn draddodiadol digwyddai'r Plygain rhwng tri a chwech y bore. Felly byddai'r gwasanaeth yn dechrau mewn tywyllwch ac yn gorffen yng ngolau dydd.

  • Mwy am ganu'r Plygain

    Ysbrydion
    Ymdrech i gysylltu ag ysbrydion Coel arall yn ymwneud â'r Calan oedd bod ysbrydion y meirw yn crwydro'r wlad ar ddiwrnod ola'r flwyddyn er mwyn ffarwelio â'r flwyddyn honno.

    Dyma pam mae'n debyg yr oedd pobl yn closio at ei gilydd ar y noson arbennig hon gan adrodd straeon a chynnal nosweithiau llawen, tipyn gwahanol i'r dathliadau heddiw.

    Coelcerth y Calan
    Ers talwm hefyd arferid croesawu'r flwyddyn newydd drwy adeiladu coelcerth fawr.

    Byddai hon yn cael ei chodi yng nghanol y dref neu'r pentref a byddai pawb yn ymgasglu o'i chwmpas.

    Byddai'r trigolion wedyn yn gadael i'r tanau oedd ganddyn nhw yn eu cartrefi ddiffodd. Byddai hyn wedyn yn rhoi diwedd ar yr hen flwyddyn.

    Wedyn cynhelid y goelcerth a byddai hyn yn rhoi croeso gwresog i'r flwyddyn newydd.

    Dyledion
    Cred arall yw fod yr hyn yr ydych chi'n ei wneud ar ddydd Calan yn penderfynu'r hyn y byddwch chi'n ei wneud weddill y flwyddyn.

    Fe ddylech chi felly sicrhau nad ydych chi'n benthyg arian i neb nac yn benthyg arian eich hun neu dyna fyddwch chi'n ei wneud weddill y flwyddyn.

    Hefyd mae'n bwysig sicrhau fod pob dyled wedi ei thalu cyn hanner nos ar nos Galan neu fe fyddwch mewn dyled am flwyddyn gyfan.

    Y Fari Lwyd
    Y Fari Lwyd gan Muiris Mag Ualghraig Arferiad hynod o ryfedd a gysylltir â thymor y Nadolig yw'r Fari Lwyd.

    Dyma arferiad hynafol sydd â'i wreiddiau mewn arferion eraill o'r cyfnod cyn-Gristnogol.

    Penglog ceffyl wedi'i orchuddio â lliain a rhubanau oedd y Fari. Byddai'r benglog yn cael ei roi ar bolyn fel bod modd i'r person oedd o dan y lliain agor a chau'r genau.

    Byddai grŵp o ddynion yn mynd gyda'r Fari ac fe fydden nhw'n ymweld â phob ty yn yr ardal gan adrodd pennill yn gofyn am wahoddiad i'r tŷ.

    Byddai'n anlwcus gwrthod mynediad i'r Fari Lwyd.

    Yn y tŷ wedyn byddai'r grŵp yn diddanu'r teulu ac yn derbyn bwyd a diod yn gyfnewid am hynny.

    Ond nid pob cartref oedd yn croesawu'r cwmni swnllyd a gwelwyd dirywiad yn yr arferiad erbyn diwedd y 19eg ganrif.

  • Ffilm o'r Fari Lwyd yn Llangynwyd, Cwm Llynfi

    Calennig
    Canu calennig Mae'r mwyafrif o'r traddodiadau Cymreig ym ymwneud â'r Calan.

    Dyma ddiwrnod pwysig iawn yng nghalendr y Cymry ers talwm ac roedd y plant yn edrych ymlaen i gael cyfle i lenwi eu pocedi â'r arian a'r rhoddion yr oedden nhw'n ei dderbyn fel calennig.

    Byddai'r plant yn mynd i gasglu calennig yn ystod y bore ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn. Fe fydden nhw'n ymweld â'r ffermydd a'r tai yn yr ardal gan ganu pennill a gofyn am galennig.

    Ond byddai'n rhaid gwneud hyn i gyd cyn hanner dydd.

    Rhan bwysig o hyn i gyd oedd addurno afal. Byddai'r plant yn cludo hwn gyda nhw o dy i dy ac fe fyddai'n cynrychioli lwc dda.

    Fe fydden nhw'n gosod tri darn o bren ar waelod yr afal i wneud coesau. Byddai darnau o almwnd yn cael eu gosod yn yr afal wedyn a dail bytholwyrdd yn cael eu gosod ar ei ben.

    Wedi'r daith o amgylch yr ardal byddai'r afal naill ai'n cael ei arddangos yn y cartref neu'n cael ei roi'n anrheg i ffrindiau fel arwydd o lwc dda.

  • Canu Calennig: eich penillion chi

    Ymwelydd
    Mae'r sawl sy'n dod i ymweld â chi gyntaf ar ddydd Calan yn bwysig hefyd.

    Yn draddodiadol dim ond dynion â gwallt tywyll sy'n derbyn croeso yng nghartrefi Cymru ar fore Calan. Bydd gwr tywyll sy'n troedio dros y trothwy yn dod â lwc dda i'r cartref drwy'r flwyddyn.

    Ond er mwyn i chi gael lwc gwirioneddol dda fe ddylai'r gŵr hwn gludo darn o lo, tafell o fara a darn o arian. Bydd hyn wedyn yn sicrhau cynhesrwydd, bwyd a chyfoeth i chi drwy'r flwyddyn.

    Ers talwm roedd yr arferiad hwn yn amrywio ar hyd a lled Cymru.

    Mewn rhannau o Geredigion roedd hi'n lwcus i ferch weld dyn yn gyntaf ond yn anlwcus i ddyn weld merch gyntaf.

    Yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro roedd hi'n anlwcus i ferch weld merch yn gyntaf. Mewn rhai ardaloedd wedyn roedd hi'n anlwcus i weld dyn â gwallt coch yn gyntaf.

    Cludo Dŵr
    Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru roedd hi'n arferiad i gludo dŵr i gartrefi cyfagos.

    Byddai grwpiau o fechgyn yn ymweld â chartrefi'r ardal yn gynnar yn y bore gan gludo dŵr ffres o'r ffynnon a changen o ddail bytholwyrdd.

    Fe fydden nhw wedyn yn cael eu gadael i bob ystafell ac fe fydden nhw'n gwasgaru'r dŵr yn ysgafn ar ddwylo a wynebau'r teulu gan adrodd pennill.

  • Arferion Calan Gaeaf
  • Arferion Calan Gaeaf 2

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy