BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

BBC Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad
English
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Sgiliau
 


Sgiliau Allweddol

Caiff rhai sgiliau eu hadnabod drwy’r wlad fel Sgiliau Allweddol. Dyma’r sgiliau hollbwysig y bydd eu hangen arnat i wneud yn dda mewn addysg a hyfforddiant, i lwyddo yn y gwaith ac i ddod ymlaen mewn bywyd.

Gelli ennill cymwysterau ym mhob un o’r chwe Sgil Allweddol ar lefelau 1 (yr hawsaf) i 5 (yr anoddaf). Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn cymryd lefelau 1, 2 neu 3.

Beth yw Sgiliau Allweddol?

Cyfathrebu

  • cymryd rhan mewn trafodaethau
  • rhoi cyflwyniadau
  • darllen a deall gwybodaeth
  • ysgrifennu gwahanol fathau o ddogfennau

Defnyddio Rhif

  • dehongli gwahanol fathau o wybodaeth
  • gallu cyfrifo
  • dehongli canlyniadau
  • cyflwyno ac egluro canfyddiadau

Technoleg Gwybodaeth

  • canfod, dewis a defnyddio gwybodaeth
  • archwilio a datblygu gwybodaeth
  • cyflwyno gwybodaeth fel testun, delweddau a rhifau

Datrys problemau

  • Canfod problemau ac awgrymu gwahanol atebion
  • Cynllunio a rhoi prawf ar wahanol opsiynau
  • Gwirio a yw’r atebion wedi gweithio
  • Adolygu gwahanol ffyrdd o fynd i’r afael â phroblemau

Gweithio gydag eraill

  • Gweithio gydag eraill, un-i-un ac mewn grwpiau
  • Penderfynu beth rwyt ti am ei gyflawni
  • Llunio cynllun a gweithio gydag eraill i gyflawni dy amcanion
  • Trafod a chytuno ar welliannau

Gwella dy ddysgu a dy berfformiad dy hun

  • Gosod nodau a thargedau ar gyfer gwella
  • Cynllunio sut y byddi di’n cyflawni dy dargedau
  • Cael cefnogaeth ac atborth oddi wrth bobl eraill
  • Adolygu dy gynnydd
  • Casglu tystiolaeth am yr hyn rwyt ti wedi ei gyflawni

Pam mae angen Sgiliau Allweddol arna i?

  • Sgiliau Allweddol yw’r sgiliau sylfaenol sy’n effeithio ar bopeth arall rwyt ti’n ei wneud.
  • Gallant dy helpu i gael graddau uwch.
  • Gallant dy helpu i wneud yn well yn y gwaith.
  • Mae cyflogwyr, colegau a phrifysgolion yn hoff ohonynt felly maent yn gallu helpi ti ennill swyddi neu le ar gyrsiau.
  • Maen’ nhw’n ehangu’r ystod swyddi y gelli di ddewis o’u plith.
  • Maen’ nhw’n rhoi hyblygrwydd i ti o ran newid swyddi a symudiadau gyrfaol i’r dyfodol.
  • Maen’ nhw hefyd yn ddefnyddiol yn dy fywyd personol.

Cymhwyster Sgiliau Allweddol

Pwyntiau UCAS a'r Sgiliau Allweddol

TIP TANBAID!

Gelli wella dy ragolygon swyddi drwy ddysgu mwy am y sgiliau mae cyflogwyr eu heisiau.

 

 
English

Lincs

Hefyd...
Lefel A/AS
GNVQ

Cam nesa...
Swyddi
Hyfforddiant mewn gwaith


randomly included tips

randomly included tips

anfona egerdyn!


top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy