BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Hafan Cymru

Adref

Gem
Holi'r Ci
Cymarfer

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

holi'r ci

Beth yw'r cyfiawnhad dros barhau gyda'r arfer dirywiedig o ddyblu 'n'?

Enw: Dafydd Hasslehoff

Lleoliad: Mur Berlin

Cumberland: Mae sawl cyfiawnhad posibl, er bod rhai yn dadlau y byddai'n haws arnom i gyd pe byddem yn cael gwared â'r 'n' ddwbl! Ceidwadol, nid dirywiedig yw'r arfer mewn gwirionedd er hynny. Arferai pobl glywed y gwahaniaeth rhwng llafariad byr o flaen yr 'n' ddwbl, a llafariad hir os mai dim ond un 'n' oedd yno. Mae'n debyg dim ond tafodiaith Gorllewin Morgannwg sy'n cadw'r gwahaniaeth hyn ar lafar bellach (ydych chi'n gallu clywed y gwahaniaeth rhwng 'canu' (to sing) a 'cannu' (to bleach)? Felly, o barch i drigolion Gorllewin Morgannwg, mi ddylen gadw'r gwahaniaeth. Neu os ydyn ni am ei ddileu, gawn ni ddileu'r 'u' o'r Gymraeg hefyd, wedi'r cyfan, dydi pobl y de ddim yn clywed y gwahaniaeth rhwng 'i' ac 'u'?

Cyfiawnhad posib arall yw nad ydi diwygiadau orgraffyddol fel hyn yn gweithio fel arfer. Mae rhai pobl geidwadol yn mynnu cadw at yr hen ffurfiau, ac mae hynny yn cyflwyno mwy o anghysondeb i'r iaith. Fe geisiwyd diwygio orgraff yr Almaeneg rai blynyddoedd yn ôl, ond doedd pawb ddim yn cytuno. O ganlyniad mai rhai papurau dyddiol wedi glynu at yr hen orgraff, a rhai eraill wedi mabwysiadu'r orgraff newydd, mewn geiriau eraill, mae'n draed moch ar bapurau'r Almaen.

Yn hanesyddol, ceir dwy 'n' yn y Gymraeg lle mae 'nt' mewn ffurf arall ar y gair neu lle roedd 'nt' neu 'nd' yn y Frythoneg/Lladin/Ffrangeg/Saesneg ac ati. Er enghraifft, ceir 'cant' yn yr unigol, ond 'cannoedd' (dwy 'n') yw'r ffurf luosog; hen ffurf ar 'arian' yw 'ariant' (cf. 'argent' yn Ffrangeg). Mae hynna'n gliw i ni bod angen dwy 'n' yn 'ariannol'. Mae angen dwy 'n' yn 'dogfennau' (cf. 'document' yn Saesneg), ac felly ymlaen.

Wrth gwrs, mae'n haws defnyddio gwirydd sillafu Cymraeg i gywiro'r 'n' ddwbl nag i gofio'r enghreifftiau uchod. Y gwir amdani yw fod rhaglenni gwirio sillafu fel Cysill, gwirydd Microsoft ac OpenOffice wedi gwneud ein bywydau ni i gyd yn llawer haws. Beth bynnag, gallai fod yn llawer gwaeth arnom, o leiaf dyw cymhlethdod sillafu'r Gymraeg ddim byd i'w gymharu ag erchyllterau sillafu Saesneg!

Beth yw ystyr 'a wnelo'?

Enw: Jane

Lleoliad: Llandeilo

Cumberland: Ystyr 'a wnelo' yw 'rhywbeth i wneud â'. Mae 'gwnelo' yn ffurf oddefol ar y ferf 'gwneud' - unwaith eto os teipiwch chi 'wnelo' i mewn i eiriadur Learn Welsh y BBC a chlicio ar 'conjugate' fe welwch chi holl rediadau'r ferf dan sylw.

Mae'n ymadrodd bach defnyddiol, ond hen ffasiwn erbyn hyn, pan ydych chi eisiau cyfeirio at y pwnc dan sylw, er enghraifft, 'y mae a wnelo hynny â chyflwr y farchnad' neu, mewn Cymraeg mwy cyfoes 'mae hynny rywbeth i wneud â chyflwr y farchnad'. Mae'n cael ei ddefnyddio'n aml yn y ffurf negyddol hefyd, er enghraifft, 'nid oes a wnelo ddim â'r peth' neu, mewn Cymraeg mwy cyfoes 'dydi hynny ddim byd i wneud â'r peth'.

Pam nad oes angen treigol rh i r ar ol y, er enghraifft, y rhaglen yn hytrach na 'y raglen'?

Enw: Iestyn

Lleoliad: Caersws

Cumberland: Mae 'rh' yn *eithriad i'r rheol*. Mae 'll' yn eithriad i'r rheol hon hefyd, er enghraifft 'y llithren' yn hytrach na 'y lithren'. Mae 'na resymau seinegol hanesyddol pam nad oedd y llythrennau hyn yn achosi treiglad lle byddai rhywun yn disgwyl hynny, ond erbyn hyn mae'n rhaid i'r rhan fwyaf ohonom ddysgu'r eithriadau a chofio peidio treiglo.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng digwyddwyd a digwyddodd?

Enw: Jenny

Lleoliad: Llandudno

Cumberland: Mae 'digwyddwyd' yn ffurf *amhersonol* y ferf (hynny yw, dydi'r ferf ddim yn dweud ai fi/ti/fe/hi/ni/chi/nhw sy'n gysylltiedig â'r digwydd). Gyda 'digwyddodd' ar y llaw arall, rydyn ni'n gwybod mai *trydydd person* y ferf sydd dan sylw, (hynny yw digwyddodd ef neu digwyddodd hi). Mae 'digwyddwyd' yn cyfateb i 'it happened' yn Saesneg, ac mae digwyddodd yn cyfieithu fel 'he/she happened'.

Am ryw reswm, mae ffurfiau amhersonol y ferf yn peri dryswch i nifer o Gymry Cymraeg y dyddiau hyn. Mae hyn yn drueni mawr, achos mae'n gallu bod yn gyfleus iawn medru dweud bod rhywbeth wedi digwydd, heb orfod dweud pwy wnaeth ddigwydd, er enghraifft 'digwyddwyd gweld iâr yn croesi'r ffordd' yn hytrach na 'digwyddodd hwn-a-hwn neu hon-a-hon weld iâr yn croesi'r ffordd'.

Mae holl ffurfiau'r berfau Cymraeg i'w gweld yn llawn ar safle Learn Welsh y BBC ar http://www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh/. Er enghraifft, os teipiwch chi 'digwyddodd' i mewn i'r geiriadur ar ochr dde'r sgrin, daw'r cyfieithiad Saesneg i fyny gyda'r dewis i glicio ar 'conjugate' i weld holl rediadau'r ferf - y ffurfiau ffurfiol ac anffurfiol, cwmpasog a chryno. Mae 'digwyddwyd' a 'digwyddodd' yn cael eu rhestru yn y cywair 'Formal Concise' dan 'Past/Gorffennol'.

Pam ydyn ni'n gofyn "Pam fod eira yn wyn" yn hytrach na "Pam mae eira yn wyn"?

Enw: Nigel Williams

Lleoliad: Penybont

Cumberland: A dweud y gwir, "Pam mae eira yn wyn?" yw'r ffurf glasurol i ofyn y cwestiwn. Mae'n debyg mai datblygiad cymharol ddiweddar yw defnyddio "pam fod ...?" ond mae'n gystrawen ddigon cyffredin erbyn hyn. Dyna'r ffurf mae Dafydd Iwan yn ei defnyddio yn ei gân enwog, wrth gwrs, ac mae hynny, mae'n debyg, wedi selio'r gystrawen yn gadarnach ym meddyliau llawer.

Pa un sy'n gywir: 'Dirprwy Reolwr' neu 'Dirprwy Rheolwr'?

Enw:Elfed

Lleoliad: Caerfyrddin

Cumberland: Yr ateb byr yw fod y ddau yn gywir. Fel arfer, bydd rhywun yn defnyddio 'dirprwy reolwr' i gyfateb i'r teitl Saesneg 'deputy manager'. Er enghraifft: "Fi ydi'r dirprwy reolwr." "Lle mae swyddfa'r dirprwy reolwr?" Yn yr achos yma, mae 'dirprwy' yn gweithredu fel ansoddair o flaen yr enw 'rheolwr' (ac yn achosi'r treiglad meddal yn y gair 'rheolwr').

Fodd bynnag, meddyliwch am yr enghreifftiau canlynol: "Pwy ydi dirprwy reolwr y cwmni?" "Pwy ydi dirprwy rheolwr y cwmni?" Mae'r ddau yn gwbl gywir, ac yn cyfleu'r un ystyr i bob pwrpas, ond mae yma wahaniaeth o ran pwyslais. Efallai byddai'n haws gweld y gwahaniaeth o ailysgrifennu'r enghreifftiau a defnyddio priflythrennau i ddangos y teitlau swyddogol: "Pwy ydi Dirprwy Reolwr y cwmni?" "Pwy ydi dirprwy Rheolwr y cwmni?" Yn y cwestiwn cyntaf, mae "dirprwy reolwr" yn deitl swyddogol ar swydd. Yn yr ail, mae "dirprwy" yn ddisgrifiad llai ffurfiol - nid oes Dirprwy Reolwr swyddogol gan y cwmni, ond bydd rhywun yn gweithredu fel diprwy ar ran y Rheolwr pan fydd hwnnw'n absennol.

Mae'r cyd-destun yn medru helpu felly wrth benderfynu ar yr union ystyr. Ond hollti blew yw'r gwahaniaethau hyn mewn gwirionedd. Mae'r ffurf 'dirprwy reolwr' yn fwy cyffredin efallai, am fod y teitl swydd fel teitl swyddogol yn un sy'n cael ei ddefnyddio'n aml yn ein byd biwrocrataidd cyfoes.

Ffrwchnedd h.y. banana - dwi'n gwybod nad gair ryn ni'n ddefnyddio bob dydd yw e, ond o ble daeth e? Ai gwrywaidd neu fenywaidd ydyw? Dwi'n methu cael hyd iddo mewn unrhyw eiriadur!

Enw: 5-y-diwrnod o'r de

Lleoliad: anhysbys

Cumberland: Cwestiwn da iawn. Roedd yr Ieithgi wedi rhyw dybio mai William Owen Pughe ddyfeisiodd y gair. Geiriadurwr o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd William Owen Pughe. Roedd ganddo rai syniadau rhyfedd iawn ynghylch yr iaith Gymraeg, yn enwedig ynghylch tarddiad geiriau, ac fe fathodd nifer helaeth o eiriau newydd. Beth bynnag, o chwilio i'r achos, mae'r Ieithgi yn sylweddoli iddo amau William Owen Pughe ar gam yn yr achos hwn. Does dim cofnod o'r gair yng ngeiriadur Pughe, nac unrhyw eiriadur arall hyd y gwyddom. Does dim slip am y gair yng nghasgliad Geiriadur y Brifysgol a dyw'r gair ddim yn cael ei ddefnyddio yng Ngeiriadur yr Academi.

Er hyn, mae'r gair yn gyfarwydd iawn i rai ohonom ar lafar, fel gair cellweirus am fanana, neu fel gair dwl, diystyr. Erbyn hyn mae'n cael ei ddefnyddio fel enw priod hefyd mewn cyd-destun cellweirius lle mae rhywun yn chwilio am ffugenw doniol. Er enghraifft, ceir Horwth ap Ffrwchnedd, Ffrwchnedd ap Moronen a Ffrwchnedd Wyllt, i gyd yn aelodau o Maes-e.

Mae rhai o ffrindiau'r Ieithgi, sy'n ddigon hen i gofio dechrau'r saithdegau yn dweud eu bod yn cofio'r gair 'ffrwchnedd' yn dod yn boblogaidd yng ngwersylloedd yr Urdd yn y cyfnod hwnnw. Mae eraill yn dweud iddo darddu o ddosbarthiadau Cymraeg i oedolion yn y cyfnod hwn, ond dydi'r Ieithgi ddim wedi cael cadarnhad o'i darddiad eto. O ran cenedl y gair, gwrywaidd ydyw i glust yr Ieithgi. Gwrywaidd yw geiriau sy'n gorffen yn -edd fel arfer, felly mae'n cydymffurfio i'r patrwm hwnnw.

A ydych chi'n meddwl y caiff y sain "ts" ei dderbyn i'r wyddor Gymraeg, ac wrth ysgrifennu iaith lafar, a ddylid dangos y treiglad sy'n digwydd wrth ddweud, e.e. "dy jaen" (your chain)?

EnwNel

Lleoliad: Llanelwy

Cumberland: Cyn dechrau ateb, mae angen gwahaniaethu rhwng y *sain* sy'n cael ei chynrychioli gan "ts" a'r nodau neu'r symbolau sy'n dynodi'r sain wrth ysgrifennu.

I drafod "ts" fel sain yn gyntaf, nid oes amheuaeth nad yw hi wedi hen blwyfo yn y Gymraeg, er ei bod yn digwydd fel arfer mewn geiriau benthyg o'r Saesneg (mae ambell enghraifft o'r sain i'w chael mewn geiriau ac ymadroddion Cymraeg brodorol megis 'sgitsie' (De) a 'rotsiwn beth' (Gogledd).

Does neb wedi gallu cynnig *sain* arall i'w rhoi yn lle'r sain hon, ac mae hynny'n arwydd ei bod hi bellach yn rhan naturiol o'r iaith. Yr hyn sy'n hynod o ddifyr yw fod y sain, fel y sylwodd yr holwr, yn treiglo'n feddal i'r sain "j" yn y Gymraeg. Sain fenthyg yw "j" hithau, ond mae'r treiglad yn brawf diamheuol fod y ddwy sain wedi ymgartrefu yn y Gymraeg.

Mater arall yw sut mae'r sain "ts" yn cael ei dangos wrth ysgrifennu'r iaith. Mae'r cwestiwn yn awgrymu fod yr holwr yn ystyried "ts" fel deugraff (h.y. dwy lythyren yn cynrychioli un sain ac yn cael eu cyfrif fel llythyren ddwbl yn y wyddor Gymraeg, yr un fath â "ch", "ll" ac ati. Mae'r deugraffau hyn yn cael eu trefnu fel llythrennau ar wahan yn y wyddor, gyda "ch" yn dod ar ôl "c" mewn geiriadur er enghraifft, ac nid rhwng geiriau yn dechrau gyda "ce" a geiriau yn dechrau gyda "ci").

Hyd y gwyddom, does neb o'r blaen wedi awgrymu fod "ts" yn cael ei ystyried fel deugraff yn y Gymraeg (hynny yw, yn cael ei le ei hun yn nhrefn y wyddor ac yn llenwi un blwch, nid dau, mewn pos croeseiriau).

Does dim cytundeb ar sut i ddangos y sain bob tro wrth ysgrifennu ychwaith, ac mae confensiynau gwahanol yn cael eu defnyddio ar ddechrau, canol a diwedd gair.

Mae defnyddio "tsi" ar ddechrau gair yn ddigon cyffredin a derbyniol, e.e. Tsieina, Tsieciad.

"Ts" gewch chi ar ddiwedd geiriau i gynrychioli'r un sain mewn arddulliau ffurfiol iawn, er bod "tsh" i'w gweld mewn arddulliau anffurfiol, e.e. wats (watsh), cabaets (cabaetsh). Y drwg gyda "ts" ar ddiwedd gair yw fod tuedd gan rai i'w ynganu fel 't' a 's' ar ôl ei gilydd, sy'n ynganiad eithaf ffuantus a mursennaidd. O leiaf mae 'tsh' yn dangos yr ynganiad a fwriadwyd yn glir.

Yng nghanol geiriau, "tsi" eto sydd i'w gweld amlaf (e.e., "bwtsiera", "clatsio", "cwtsio"). Eto i gyd, mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn nodi "matsien", "matsen" a "matshyn" fel cyfieithiadau Cymraeg posibl o "match"

Saesneg. Yn amlwg, does dim cytundeb llwyr ar hyn eto.

Wrth ysgrifennu iaith lafar, does 'na ddim rheswm yn y byd dros beidio â defnyddio 'j' wrth dreiglo 'tsi' gychwynnol yn feddal, e.e. ts[h]ips > dy jips. Mae rhagor i'w weld am 'j' yn yr ateb i'r cwestiwn *Pryd a pham fabwysiadwyd y llythyren "j" i'r wyddor Gymraeg, a pham fod llawer o bobl yn gwrthod derbyn hyn?* ar dudalen Holi'r Ci isod.

"Mewn Ffrangeg" neu "yn Ffrangeg" - p'un sy'n gywir?

EnwAngharad

Lleoliad: Anhysbys

Cumberland:

Mae hynny'n dibynnu ar y cyd-destun.

Os bydd rhywun yn sôn am yr iaith yn gyffredinol, dylid defnyddio "yn Ffrangeg". Er enghraifft:

Roedden nhw'n canu yn Ffrangeg.

Ond, os bydd rhywun yn cyfeirio at fath penodol o'r Ffrangeg, dylid defnyddio "mewn Ffrangeg". Er enghraifft:

Roedden nhw'n siarad mewn Ffrangeg ffurfiol iawn.

Oes angen defnyddio chi/ti bob amser? Er enghraifft - "rwyf yn chwilio amdanoch chi?", "rwy'n dy garu di?"

Enw Meic

Lleoliad: Llanelli

Cumberland:

Nac oes. Mae hyn yn gallu bod yn fater o gywair, gyda chi/ti yn llai cyffredin mewn cyweiriau ffurfiol, ond mae hefyd yn dibynnu ar rythm a phwyslais y frawddeg. Does dim ateb syml felly!

Rhagenwau ategol yw'r term gramadegol am y chi/ti yn yr enghraifftiau uchod. Mae (fi, ni, ef/hi, hwy, nhw etc hefyd yn rhagenwau ategol. Yr hyn sy'n dod o'u blaen yw berfau neu arddodiaid rhediedig. O ran cywair mae modd dweud:

Dw i wedi bod yn chwilio amdanoch chi. (Anffurfiol) OND Yr wyf wedi bod yn chwilio amdanoch. (Ffurfiol)

Enghraifft arall: Mi wyt ti'n ddigon hen i wybod hynny. (Anffurfiol) OND Yr wyt yn ddigon hen i wybod hynny. (Ffurfiol)

Ar y llaw arall, mae modd defnyddio'r chi/ti yn yr enghreifftiau uchod mewn cyweiriau ffurfiol hefyd er mwyn pwyslais:

Yr wyf wedi bod yn chwilio amdanoch *chi*. (Ffurfiol)

Yr wyt *ti* yn ddigon hen i wybod hynny. (Ffurfiol)

Mae dewis defnyddio neu beidio defnyddio'r rhagenwau ategol yn ffordd hawdd i gyfleu cywair a phwyslais, ac yn rhan o gyfoeth mynegiant y Gymraeg. Does dim angen poeni'n ormodol amdanynt (nac amdanyn nhw).

Gan fod 'nawr' yn agosach i'r ffurf safonol 'yn awr', a yw'n fwy derbyniol na 'rwan'?

Enw Jen

Lleoliad: Llandeilo

Cumberland: Mae'r ddau yr un mor dderbyniol â'i gilydd ar lafar.

Cywasgiad o 'yn awr' yw 'nawr', ac mae'n fwy cyffredin ar lafar yn y de.

Mae 'rwan' yn gywasgiad o 'yr awr hon' a dim ond yn nhafodieithoedd y gogledd mae'n cael ei ddefnyddio. Mae'r gair 'rwan' yn rhoi blas gogleddol cryf iawn i destun. Ar lafar, mae'n gwbl dderbyniol, felly hefyd mewn llenyddiaeth dafodieithol, neu lle mae awdur am i'w lais gogleddol ei hun gael ei glywed.

Fodd bynnag, mewn Cymraeg safonol, ysgrifenedig, y nod yw defnyddio cywair niwtral o ran tafodiaith, sy'n dderbyniol drwy Gymru gyfan. Dylai dogfennau swyddogol felly, e.e. deunydd ffurfiol gan gyrff stadudol neu bapurau arholiad cenedlaethol, osgoi unrhyw eiriau sy'n 'marcio' testun fel rhywbeth sy'n tarddu o dafodiaith arbennig.

Mewn cywair ffurfiol iawn, gall fod yn addas defnyddio'r ffurf lawn 'yn awr'. Os yw'r cywair yn fwy anffurfiol, ond eto heb fod yn dafodieithol, mae'n dderbyniol defnyddio 'nawr'.

Mae'r gallu amrywio cywair fel hyn o'r ffurfiol i'r anffurfiol i'r tafodieithol yn cyfoethogi'r Gymraeg, ac mae'n syndod gymaint y gall geiriau bach fel hyn ddylanwadu ar naws ac arddull yr hyn sy'n cael ei ysgrifennu.

Pa un sy'n gywir - "cyfreithiwr"/"cyfreithydd"?

Enw LLeicu

Lleoliad: Caerdydd

Cumberland:

Mae'r ddau air wedi'u rhestru yng Ngeiriadur y Brifysgol, ac felly yn 'gywir'.

Fodd bynnag mae 'cyfreithiwr' yn llawer mwy cyffredin mewn Cymraeg cyfoes. Mae 'cyfreithydd', wrth gwrs, yn swnio'n debyg i 'cyfieithydd' ac efallai mai dyna lle mae'r dryswch wedi codi.

Mae'r terfyniadau '-wr' ac '-ydd' ill dau yn gyffredin iawn yn y Gymraeg yn dynodi swyddi neu swyddogaethau.

Mae arlliw mwy proffesiynol i '-ydd' nag i '-wr', e.e. 'ysgrifennydd' (rhywun sy'n dal swydd ysgrifenyddol ac o bosib yn cael ei dalu am ei waith) ac 'ysgrifennwr' (rhywun sy'n ysgrifennu yn gyffredinol).

Yn aml mae '-ydd' yn cyfateb i'r terfyniad '-ist' yn Saesneg yn dynodi swyddi fel 'deintydd' (dentist), 'croesawydd' (receptionist) etc., tra bod '-wr' yn aml yn cyfateb i'r terfyniad Saesneg '-or'.

Mae '-wr' yn Gymraeg hefyd yn derfyniad cynhyrchiol (sy'n golygu ei fod yn cael ei ddefnyddio i greu geiriau newydd) ar gyfer offer yn ogystal â phobl.

Felly mae 'corddwr' yn beiriant corddi, a 'tyllwr' yn rhywbeth sy'n gwneud tyllau. I ddrysu pethau, fe benderfynodd rhai a oedd yn bathu termau gwyddoniaeth yn ôl yn y chwedegau ddefnyddio '-wr' i ddynodi pobl ac '-ydd' i ddynodi offer.

Dan y drefn hon byddai 'rheolwr' yn berson sy'n rheoli a 'rheolydd' yn declyn sy'n rheoli.

Mae rhai o'r geiriau hyn wedi plwyfo, ond fel rheol gyffredinol mae'n groes i deithi'r iaith, am fod pobl, yn naturiol ac ar lafar, yn dal i ddefnyddio '-wr' wrth greu geiriau newydd sy'n dynodi offer a theclynnau.

Ar y llaw arall, pan ddechreuodd pobl edrych ar sut mae merched a dynion yn cael eu henwi wrth ddynodi swyddi, aeth rhai i ddadlau nad oedd '-wr' yn derfyniad addas i swyddi lle gallai merched gael eu cyflogi, a bod defnyddio gair fel 'cyfreithiwr' yn gwahaniaethu'n annheg yn erbyn merched.

Mae terfyniad '-wraig' yn bosibl i ddynodi merched yn benodol, ac '-yddes' hefyd fel fersiwn benywaidd o '-ydd'.

Er mwyn cael un term niwtral sy'n medru cyfeirio at ferched a dynion, argymhellodd rhai fod '-ydd' yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y ddau ryw, a daeth ffurfiau fel 'cyfreithydd', 'cyfarwyddydd', 'gwasanaethydd' yn boblogaidd.

Mewn gwirionedd, nid yw'r ffurfiau hyn yn fwy niwtral na 'cyfreithiwr', 'cyfarwyddwr' a 'gwasanaethwr', ac mae blas artiffisal 'geiriau gwneud' arnyn nhw.

Mae'r Ieithgi yn argymell defnyddio'r ffurfiau '-wr' pan mai hynny sy'n naturiol, gan wneud yn siwr mewn hysbysebion swyddi ac ati fod croeso i ferched a dynion fel ei gilydd ymgeisio amdanynt.

Ar y llaw arall, dylid rhoi rhyddid i bobl ddefnyddio'r teitl swydd maen nhw'n fwyaf cyffyrddus ag ef. Felly, gall merch ei galw ei hun yn 'gyfreithiwr', yn 'gyfreithwraig' neu'n 'gyfreithydd' fel y mynn.

Pa un sydd yn gywir erbyn hyn - 'atborth' neu 'adborth'?"

Enw Siân

Lleoliad: Anhysbys

Cumberland: Yr ateb byr yw bod y ddwy ffurf yr un mor gywir â'i gilydd. Hyd at yn ddiweddar, 'adborth' oedd fwyaf cyffredin, ond sylweddolodd rhywrai fod 'atborth' yn cyd-fynd yn agosach â theithi seinegol traddodiadol y Gymraeg. Oherwydd hyn ceisiwyd dweud fod 'adborth' yn anghywir, er ei fod wedi hen ennill ei blwyf.

Mater o batrymau sain yn hanesyddol yn y Gymraeg yw hi.

Mae'r esboniad llawn fel a ganlyn:
O dan rai amgylchiadau seinegol, ceir ffenomen o'r enw 'dileisio', a dyna ydyn ni'n ei weld yn yr achos hwn.

Pan fydd ffrwydrolen leisiol ('voiced plosive') - sef 'b', 'd' neu 'g' yn Gymraeg - yn rhagflaenu ffrwydrolen leisiol arall mewn gair cyfansawdd, mae'n cael ei dileisio. Hynny ydi:

b > p
d > t
g > c

Er enghraifft:

crog + pris > crogbris > crocbris
dad- + plygu > dadblygu > datblygu
ad- + porth > adborth > atborth

Ond, nid yw'r rheol hon yn hollol haearnaidd. Mae Geiriadur y Brifysgol yn rhestru 'crocbont' a 'crogbont' ochr yn ochr â'i gilydd, ac mae'r un peth yn wir am 'crocbren' a 'crogbren'. Dylid ystyried 'atborth' ac 'adborth' yn y cyd-destun hwn felly. Mae'r ddau yn dderbyniol, ond bod gan 'atborth'

dinc mwy ceidwadol a hen ffasiwn nag 'adborth'. O chwilio yn Google, ceir tua 210 000 enghraifft o 'atborth' a 538 000 enghraifft o 'adborth'. Y cywair rhyddfrydig sy'n mynd â hi fynychaf felly, ond cofiwch, wrth benderfynu pa ffurf i'w defnyddio, mae'n hawdd dweud ai ceidadwr ai rhyddfrydwr ieithyddol ydych chi!

A oes gwahaniaeth pendant rhwng gall a gallai? / Beth yw'r gwahaniaeth rhwng gallai a gall?

Enw Buster Keaton

Lleoliad: Anhysbys

Cumberland: Mae "gall" yn 3ydd person presennol ffurf gryno'r ferf "gallu" ('he/she is able to').

Mae "gallai" yn 3ydd person amherffaith ffurf gryno'r ferf ('he/she was able to') a hefyd yn 3ydd person amherffaith dibynnol ffurf gryno'r ferf ('he/she would be able to').

Hefyd mae "galla i" neu "galla'i" yn ffurfiau llafar ar berson cyntaf presennol a dyfodol y ferf "gallu" ('I am able to/I will be able to') yn cyfateb i "gallaf" yn yr iaith lenyddol neu safonol.

Mae modd gweld holl rediadau'r ferf ar safle LearnWelsh y BBC yma.

Pam nad oes gair yn Gymraeg sy'n gyfystyr a 'women' yn Saesneg? Er enghraifft, defnyddir gwraig/merch i wahaniaethu rhwng 'woman/girl'ond mae gwraig hefyd yn cyfleu 'wife'. Felly, a yw'r gair menywod yn dderbyniol erbyn hyn?

Enw Meilyr

Lleoliad: Llanelli

Cumberland: Nid yw geiriau yn cyfateb yn union i'w gilydd rhwng gwahanol ieithoedd. Mae nifer o eiriau am 'women' yn y Gymraeg, gan gynnwys 'merched', 'gwragedd' a 'menywod'.

Ceir 'dynes' hefyd am yr unigol ar lafar yn y Gogledd, ond heb ffurf luosog gyfatebol.

Mae 'merched' hefyd yn golygu plant benywaidd, yn yr iaith safonol a hefyd ar lafar yn y De.

Yn y Gogledd, mae'r ffurf 'genod' yn fwy cyffredin am blant benywaidd.

Nid yw 'gwragedd' yn gorfod bod yn briod bob tro (defnyddir 'gwragedd priod' i olygu 'married women' os am fod yn ddiamwys).

Mae 'menywod' yn cael ei ddefnyddio mewn tafodieithoedd deheuol, ond gan fod blas deheuol mor gryf arno, nid yw'n dderbyniol gan ogleddwyr bob tro yn yr iaith lenyddol neu ffurfiol.

Bu cwyno rai blynyddoedd yn ôl pan ddefnyddiodd y mudiad 'Women's Aid' y teitl 'Cymorth i Fenywod' yn Gymraeg a phenderfynwyd defnyddio 'Cymorth i Ferched' fel teitl swyddogol yn y Gymraeg yn lle hynny.

Y ffurfiau 'Merched' a 'Dynion' sydd i'w gweld amlaf ar dai bach cyhoeddus hefyd (er ei bod hi'n rhyfedd defnyddio arwyddion tai bach cyhoeddus yn ganllaw i safon yr iaith!)

Mae 'menywod' yn iawn ar lafar felly, ac mewn tafodieithoedd deheuol, ond gwell defnyddio'r ffurf 'merched' yn yr iaith safonol.

Ydy hi'n iawn i ateb cwestiwn gyda 'na'?

Enw Melin Wynt

Lleoliad: Abertawe

Cumberland: Ydi, yn aml, ar lafar lle mae ateb byr yn gwneud y tro.

Mewn arddulliau llafar, mae 'na' yn gallu cymryd lle'r geiriau ateb negyddol mwy safonol fel 'nac oes' neu 'nac ydw'.

Yn annisgwyl, efallai, dydi hyn ddim yn ffenomen gwbl newydd, chwaith. Dyma enghraifft wedi'i chodi o The Welsh Vocabulary of The Bangor District (1913): "Gymwch chi chwanag?" "Na, dw i wedi cael digon.""

Mae 'na' ar ei ben ei hun yn ddefnyddiol hefyd yn ysgrifenedig - er enghraifft, gyda blychau ticio lle mae angen dynodi'r negyddol.

Fodd bynnag, os yw'n dod fel un o bâr gyda dewis cadarnhaol fel 'ydwyf' neu 'oes', mae'n well ysgrifennu 'nac ydwyf' neu 'nac oes' er mwyn cadw'r gyfatebiaeth o ran cywair iaith.

Gyda botymau o fewn meddalwedd cyfrifiadurol, daeth hi'n gonfensiwn defnyddio 'iawn' a 'na' yn y Gymraeg i gyfateb i 'yes' a 'no' yn Saesneg, ac felly mae hwn yn gyd-destun newydd lle mae defnyddio 'na' ar ei ben ei hun yn dderbyniol.

Ar y llaw arall, mae'r holl ffurfiau negyddol llawn ar gyfer ateb cwestiwn ('nac oedd', 'na fydd', 'naddo', 'nac ydi' ac ati) yn dal yn gwbl gyfoes a dylid eu defnyddio lle bo'n briodol, yn enwedig mewn cyweiriau ffurfiol ac er mwyn osgoi unrhyw amwysedd."

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'adref' a 'gartref'?

Enw Josef

Lleoliad: Llundain

Cumberland: Yn draddodiadol yn y Gymraeg mae 'adref' yn cyfleu symudiad tua'r cartref ac mae 'gartref' yn cyfleu lleoliad yno. Er enghraifft:

"Dw i'n mynd adref."

"Dw i'n aros gartref."

Dyma sy'n cael ei gyfrif yn gywir o hyd mewn Cymraeg ffurfiol a safonol.

Fodd bynnag, yn yr iaith lafar, mae'r gwahaniaeth rhwng y ddau wedi mynd ar goll i raddau helaeth. Er enghraifft, mae 'adra' yn cael ei ddefnyddio yn ddigon aml mewn tafodieithoedd gogleddol i gyfleu symudiad a lleoliad fel ei gilydd:

"Dw i'n mynd adra."

"Dw i'n aros adra."

Mewn tafodieithoedd deheuol, fodd bynnag, bydd pobl yn defnyddio 'gartref' i gyfleu'r ddau ystyr:

"Wi'n mynd gitre."

"Wi'n aros gitre."

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng amseroedd ac amserau?

Enw Dafydd D

Lleoliad: Anhysbys

Cumberland: Yn y bôn, nid oes gwahaniaeth ystyr rhwng 'amseroedd' ac 'amserau'. Mae'r ddau yn ffurfiau lluosog i'r enw 'amser'.

Yn ôl corpws iaith CEG, mae 'amserau' ychydig yn fwy cyffredin nag 'amseroedd'."

Pryd a pham fabwysiadwyd y llythyren "j" i'r wyddor Gymraeg, a pham fod llawer o bobl yn gwrthod derbyn hyn?

Enw Rhywun

Lleoliad: Rhuthun

Cumberland: Yn gyntaf oll, mae eisiau gwahaniaethu rhwng y llythyren 'j' a'r sain sy'n cael ei chynrychioli ganddi.

Mae Geiriadur y Brifysgol yn nodi enghreifftiau o 'j' ysgrifenedig mewn testunau Cymraeg mor bell yn ôl â dechrau'r 18fed ganrif, mewn geiriau fel 'Jacobiniaid', 'Jansenistiaid' a 'Jesuitiaid'.

Ond mae'n ymddangos bod y sain sy'n cael ei chysylltu â 'j' amlaf erbyn hyn i'w chael yn y Gymraeg dipyn cyn hynny. Er enghraifft, mae Geiriadur y Brifysgol yn nodi gair 'dgiwstyng' (= 'jwsting', o'r Saesneg 'jousting') o'r 16eg ganrif.

Yn ôl at y presennol, mae 'j' wedi ymgartrefu yn llwyr yn y Gymraeg erbyn hyn, a gwirion braidd fyddai trio ysgrifennu geiriau cyffredin fel 'jam' neu 'jac-y-do' yn wahanol, er enghraifft.

Eto, mae'n well gan nifer o bobl ysgrifennu 'si' na 'j' mewn geiriau fel 'prosiect' a 'Siapan'. Mewn achosion o'r fath, mae'r ddwy ffurf yn dderbyniol ac yn cael eu nodi felly yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

Fodd bynnag mai ynganiad 'si' neu 'sh' yn wahanol i 'j' a gall yr ynganiad 'sh' ymddangos yn fursennaidd mewn rhai cyd-destunau.

Mae'r Ieithgi yn galw pobl sy'n gwrthod y llythyren 'j' yn y Gymraeg yn Buryddion Ieithyddol eithafol, ond mae'n well ganddo ymatal rhag damcaniaethu ynghylch eu rhesymau posibl dros arddel y cyfryw safbwynt."

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'am' ac 'eisiau'?

Enw Annatod

Lleoliad: Caerdydd

Cumberland: "Dyma gymryd bod y cwestiwn yn cyfeirio yn benodol at ddefnyddio 'am' ac 'eisiau' i fynegi awydd neu ddymuniad. Er enghraifft:

"Mi ydw i eisiau mynd allan"

"Mi ydw i am fynd allan"

Yn achos "mi ydw i eisiau mynd allan" mae dymuniad yn cael ei gyfleu, ond mae'na ryw elfen o ddeall na fydd, o reidrwydd, yn bosibl gwireddu'r dymuniad.

Yn achos "mi ydw i am fynd allan" mae dymuniad yn cael ei gyfleu, ac mae'na elfen o fwriad pendant y tu ôl i'r dymuniad - awgrym y bydd yr hyn a ddymunir yn digwydd.

Cymharer, hefyd: "Mam, dw i eisiau mynd adref nawr," a "Reit, dw i am fynd adref nawr."

At hynny, mewn rhai ymadroddion, mae 'am' yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at ddigwyddiad yn y dyfodol, e.e. "Mi hi am lawio" (sef, mae'n mynd i lawio).

I gymhlethu pethau, mae'r gwahaniaeth ystyr rhwng 'eisiau' ac 'am' wrth fynegi dymuniad yn gallu bod yn llai amlwg ar lefel dafodieithol."

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'cychwyn' a 'dechrau'?

Enw Annatod

Lleoliad: Caerdydd

Cumberland: "Yn ymarferol, mae 'dechrau' a 'cychwyn' yn gyfystyron mewn Cymraeg modern. Ond yn hanesyddol roedd 'dechrau' yn enw ('y dechrau'), gyda berf ('dechreuaf', etc.) yn cael ei llunio o'r enw yn ddiweddarach.

Ar y llaw arall, berf oedd 'cychwyn' ('cychwynnaf', etc.) gyda'r enw ('y cychwyn') yn cael ei ffurfio yn nes ymlaen.

Efallai bod arlliw o'r gwahaniaeth hwn yn dal, gyda 'cychwyn' yn fwy gweithredol (er enghraifft, dechrau symud o safle llonydd), a 'dechrau' yn cyfeirio yn fwy at fan daearyddol neu bwynt mewn amser.

Ar lafar, mae rhai pobl yn defnyddio 'dechrau cychwyn' hefyd, sy'n dangos mor agos yw ystyron y ddau air."

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'Cymry' a 'Cymru'?

Enw Anhysbys

Lleoliad: Cymru

Cumberland: "Yn syml, mae 'Cymru' yn cyfeirio at y wlad, ac mae 'Cymry' yn cyfeirio at y bobl."

Pam rydyn ni'n dweud "yn Gymraeg" (treiglad meddal) yn lle "yng Nghymraeg" (treiglad trwynol)?

Enw: Neal

Lleoliad: Israel

Cumberland: "Yn y Gymraeg" fyddai'r ymadrodd ar ei ffurf lawn. Felly, mae'r treiglo, mewn gwirionedd, yn hollol reolaidd yn yr achos yma - er bod absenoldeb ymddangosiadol y fannod yn awgrymu yn wahanol."

"Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'pryd' a 'pan'. Mae'r ddau yn golygu 'when' yn Saesneg.

Enw: Geraint

Lleoliad: Abertawe

Cumberland: Yn fras, mae'n bosibl meddwl am 'pryd' fel dechrau cwestiwn, ac am 'pan' fel dechrau ateb i gwestiwn. Er enghraifft: "Pryd byddi di'n ffonio?" "Pan fydda i wedi cyrraedd adref." "Pryd bydd rhaid i ni adael yr adeilad?" "Pan fyddwch chi'n clywed y larwm."

Mae 'pryd' yn cael ei ddefnyddio fel a ganlyn:

(i) Ar ddechrau cwestiwn uniongyrchol, e.e. "Pryd mae'r rhaglen yn gorffen?", "Pryd byddan nhw'n cyrraedd adref?"

(ii) I gyflwyno cwestiwn anuniongyrchol, e.e. "Dydi hi ddim yn gwybod pryd mae'r rhaglen yn gorffen", "Dw i'n mynd i holi pryd byddan nhw'n cyrraedd adref".

Mae 'pan', ar y llaw arall, yn cael ei ddefnyddio i nodi pryd mae rhywbeth neu'i gilydd yn digwydd. Er enghraifft:

"Mi wna i ffonio pan fydda i wedi cyrraedd adref." "Pan fyddwch chi'n clywed y larwm, bydd rhai i chi adael yr adeilad."

Ond, i gymhlethu pethau, mae rhai deheuwyr yn defnyddio 'pryd' yn lle 'pan' ar lafar. Er enghraifft:

"Chi fod i adael yr adeilad pryd rych chi'n clywed y larwm".

Ar y llaw arall, does dim modd defnyddio 'pan' yn lle 'pryd' mewn unrhyw gyd-destun, hyd yn oed ar lafar. Felly, os nad ydych chi'n siŵr o'r gwahaniaeth, defnyddiwch 'pryd', nid 'pan'."


Beth yw ystyr eglurhad?

Enw: Sophie

Lleoliad: Llangollen

Cumberland: Eglurhad yw esboniad neu ddisgrifiad sy'n gwneud rhywbeth yn fwy clir. Drwy egluro rhywbeth, mae rhywun yn ei ddehongli neu'n rhoi rhagor o fanylion amdano - hynny yw, yn ei gwneud hi'n haws i rywun arall ei ddeall.

Cofiwch hefyd am y geiriadur Cymraeg/Saesneg ar safle'r BBC (http://www.bbc.co.uk/cymru/geiriadur/en-cy/). Gall hwn fod yn gymorth os ydych chi am weld cyfieithiadau Saesneg o'r gair 'eglurhad'.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'yw' ac 'ydy'?

Enw: Saskia

Lleoliad: Anhysbys

Cumberland: O ran ystyr, nid oes gwahaniaeth rhwng 'yw' ac 'ydy'.

Er enghraifft, mae "Beth yw'ch enw chi?" a "Beth ydy'ch enw chi?" yn golygu union yr un peth.

Mae'r prif wahaniaeth rhyngddyn nhw yn ymwneud ag arddull a chywair iaith.

Mae 'yw' yn tueddu i gael ei ddefnyddio mewn darnau ffurfiol neu lenyddol, ond byddwch chi'n fwy tebygol o ddod ar draws 'ydy' (a'r amrywiad cyffredin 'ydi') mewn cyd-destunau anffurfiol neu lafar."

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'pam' a 'pan'?
Enw: Andrew

Lleoliad: Caerdydd

Cumberland: Mae 'pam' yn cyfateb i 'why' yn Saesneg, ac fe'i defnyddir pan yn gofyn cwestiwn.

Er enghraifft:
Pam wyt ti'n hoffi'r lliw porffor?
Pam fod eira'n wyn? Mae 'pan' yn cyfateb i 'when' yn Saesneg.

Mae'n cael ei ddefnyddio i ddynodi pryd mae rhywbeth yn digwydd.

Er enghraifft:
Pan ddaw'r gwanwyn, bydd dail ar y coed unwaith eto.
Pan oeddwn i'n blentyn, roedd gen i feic coch.

Beth ydi'r gwahanol ffyrdd yn Gymraeg ar gyfer mynegi bod rhywun yn atebol i wneud rhywbeth?
Enw: Rhys

Lleoliad: De Cymru

Cumberland: Yn dechnegol, mae tri phrif ddull yn Gymraeg ar gyfer mynegi hyn. Mae 'gallu' yn cyfleu ei bod yn gorfforol bosibl i rywun wneud rhywbeth, mae 'medru' yn dangos bod rhywun yn meddu ar y sgiliau neu'r wybodaeth berthnasol i wneud rhywbeth, ac mae modd defnyddio 'cael' i olygu bod gan rywun ganiatâd neu hawl i wneud rhywbeth. Er enghraifft:

Dw i ddim yn gallu gyrru. (h.y. dydi hi ddim yn gorfforol bosibl i mi yrru, e.e. dw i'n rhy feddw)

Dw i ddim yn medru gyrru.(h.y. dydw i ddim yn gwybod sut mae gyrru, dydw i ddim wedi dysgu)

Dw i ddim yn cael gyrru.(h.y. does gen i ddim caniatâd i yrru, e.e. dw i wedi cael fy ngwahardd rhag gwneud)

Yn ymarferol, mae'r gwahaniaeth rhwng 'gallu' a 'medru' wedi diflannu i bob pwrpas a'r ddau yn cyfleu 'ability' yn fwy cyffredinol, gyda 'medru' yn fwy cyffredin yn y Gogledd a 'gallu' i'w glywed yn amlach yn y De.

Holi'r ci

1. Beth ydi'r gwahanol ffyrdd yn Gymraeg ar gyfer mynegi bod rhywun yn atebol i wneud rhywbeth?

2. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'pam' a 'pan'?

3. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'yw' ac 'ydy'?

4. Beth yw ystyr eglurhad?

5. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'pryd' a 'pan'. Mae'r ddau yn golygu 'when' yn Saesneg?

6. Pam rydyn ni'n dweud "yn Gymraeg" (treiglad meddal) yn lle "yng Nghymraeg" (treiglad trwynol)?

7. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'Cymry' a 'Cymru'?

8. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'cychwyn' a 'dechrau'?

9. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'am' ac 'eisiau'?

10. Pryd a pham fabwysiadwyd y llythyren "j" i'r wyddor Gymraeg, a pham fod llawer o bobl yn gwrthod derbyn hyn?

11. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng amseroedd ac amserau?

12. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'adref' a 'gartref'?

13. Ydy hi'n iawn i ateb cwestiwn gyda 'na'?

14. Pam nad oes gair yn Gymraeg sy'n gyfystyr a 'women' yn Saesneg? Er enghraifft, defnyddir gwraig/merch i wahaniaethu rhwng 'woman/girl'ond mae gwraig hefyd yn cyfleu 'wife'. Felly, a yw'r gair menywod yn dderbyniol erbyn hyn?

Gofyn cwestiwn i Cumberland


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy