 |
 |
 |
Blynyddoedd |
 |
Prif Ddigwyddiadau |
 |
 |
 |
 |
Y Brythoniaid Celtaidd
600 CC - 43 OC |
 |
Tarddodd yr ieithoedd Celtaidd gwahanol a siaradwyd ar draws Cyfandir Ewrop o'r iaith Ewropeaidd wreiddiol.
|
 |
 |
 |
Y Rhufeiniaid
43 OC - 410 OC |
 |
Dechreuodd concwest y Rhufeiniaid yn 43 O.C. Erbyn tua 70 O.C. yr oedd Prydain i gyd, ag eithrio gogledd yr Alban, o dan eu rheolaeth.
|
 |
 |
 |
Mae'r Barbariaid yn dod!
350 - 500 |
 |
Wrth i'r Gwyddelod, Pictiaid a'r Ellmynwyr ymosod ac ymsefydlu ar draws Ynysoedd Prydain, symudodd y llwythau a'r ieithoedd.
|
 |
 |
 |
Yr Oes Arwrol
550 - 750 |
 |
Erbyn yr wythfed ganrif yr oedd y Frythoneg wedi datblygu'n ieithoedd oedd yn cynnwys Cymraeg Cynnar. Yr oedd gwaith y beirdd Cymreig cyntaf yn tarddu o draddodiad y derwyddon.
|
 |
 |
 |
Iaith Swyddogol
800 - 1067 |
 |
Cymraeg i bob pwrpas oedd iaith y sustem gyfreithiol Gymreig, a Chymraeg oedd iaith y campwaith llenyddol, y Mabinogi.
|
 |
 |
 |
Y Normaniaid
1067 - 1282 |
 |
Goresgynnwyd Cymru gan y Normaniaid Ffrengig eu hiaith - eu dilynwyr, Saesnig eu hiaith, ddaeth â'r iaith i ganol bywyd bob dydd Cymru.
|
 |
 |
 |
Wedi'r Goresgyniad
1282 - 1485 |
 |
Daeth y concwerwyr Eingl-Normanaidd â dylanwadau cyfandirol gyda nhw. O dan nawdd yr uchelwyr Normanaidd a'r tirfeddianwyr Cymreig fe ffynodd y Beirdd a'r Aristocratiaid.
|
 |
 |
 |
Y Tuduriaid
y 15fed a'r 16eg ganrif |
 |
Fe gipiodd Harri'r VII - Harri Tudur - goron Prydain o dan faner draig goch Cymru. Ond erbyn 1536 yr oedd Cymru, o ran y gyfraith, yn rhan o Loegr, a Saesneg oedd unig iaith swyddogol y wlad.
|
 |
 |
 |
Iaith y Nefoedd
16eg ganrif |
 |
Wedi'r Diwygiad Protestannaidd, Saesneg oedd iaith gwasanaethau crefyddol, Ond fe basiodd Elizabeth I ddeddf yn dweud bod rhaid cael cyfieithiad Cymraeg o'r Beibl ym mhob plwyf yng Nghymru.
|
 |
 |
 |
Darllen y gair
17eg - 18fed ganrif |
 |
Cyhoeddwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn 1546, daeth llythrennedd ar hyd a lled y wlad, ac i Griffith Jones yn bennaf mae'r diolch am hyn.
|
 |
 |
 |
Dychweliad y Derwyddon
18fed - 19eg ganrif |
 |
Yn y 18fed ganrif roedd yna ddiddordeb newydd ym mhopeth Celtaidd. Adferwyd hen sefydliad y derwyddon, Gorsedd y Beirdd, ac astudiaethau yn nharddiad yr iaith Gymraeg.
|
 |
 |
 |
Yr Iaith ac Addysg
19eg ganrif |
 |
Mewn adroddiad seneddol enwog yn 1847 ar addysg yng Nghymru cafodd yr iaith Gymraeg (a moesau) eu cystwyo. Roedd plant yn cael eu hannog i beidio â siarad Cymraeg yn yr ysgolion gan ddefnyddio ddulliau megis y 'Welsh Not'.
|
 |
 |
 |
Y Chwyldro Diwydiannol
19eg ganrif |
 |
Dechreuodd pobl heidio i Gymru yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, gan wanhau safle'r Gymraeg.
|
 |
 |
 |
I'r
gad!
1925 - 1999 |
 |
Ers sefydlu Plaid Cymru yn 1925 mae grwpiau wedi defnyddio anufudd-dod sifil i ymgyrchu dros yr iaith.
|
 |
 |
 |
Rhwng y Rhyfeloedd
1918 - 1939 |
 |
Colli tir fu hanes y Gymraeg rhwng 1914 a 1939. Y Rhyfel Byd Cyntaf, dirwasgiad economaidd a'r cyfryngau Seisnig oedd yn rhannol gyfrifol am hyn.
|
 |
 |
 |
|
 |
Daeth llwyddiant pan sefydlwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn ail refferendwm yn 1997.
|
 |
Nôl i'r top |